Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dod o hyd i’ch swydd gyntaf a gwneud cais

Er mwyn cael eich troed gyntaf ar yr ysgol yrfa, rhaid i chi ddeall beth sy'n gwneud CV da, sut i berfformio'n dda mewn cyfweliad a beth ddylech chi ei ddisgwyl gan un. Bydd bod yn barod i weithio'n galed ac ymrwymo'n barhaus i ddysgu sgiliau newydd yn eich helpu i gamu tuag at eich swydd ddelfrydol.

Help i ddod o hyd i waith

Pa fath bynnag o swydd yr ydych yn chwilio amdani, bydd angen i chi wybod ym mhle i chwilio. Gellir hysbysebu swyddi gwag mewn amryw o wahanol lefydd, gan gynnwys y canlynol:

  • ar wefannau sy'n dangos swyddi gwag
  • mewn papurau newydd lleol neu genedlaethol
  • yn eich swyddfa Connexions neu Ganolfan Byd Gwaith leol
  • mewn asiantaethau recriwtio
  • mewn swyddfeydd gyrfa ac ar hysbysfyrddau mewn colegau a phrifysgolion
  • mewn ffenestri siopau

Os oes gennych ddiddordeb mewn dod o hyd i swydd mewn maes penodol, mae'n werth ymchwilio pa wefannau ac asiantaethau cyflogi sy'n arbenigo yn y maes hwnnw. Bydd hyn yn eich arbed rhag gorfod chwilio'n ddiangen.

Os ydych chi dros 16 oed, gall eich canolfan Connexions leol eich helpu i ddod o hyd i waith yn eich ardal chi, a gallwch ddod o hyd i fanylion am fathau o swyddi ac am y sgiliau sydd eu hangen i'w gwneud yng nghronfa ddata gyrfaoedd Jobs 4U.

Meithrin eich sgiliau

Pan fyddwch yn gwneud cais am swydd, byddwch fel arfer yn gorfod disgrifio pa mor dda y mae eich sgiliau a'ch profiad gwaith blaenorol yn cyd-fynd â disgrifiad y swydd. Hyd yn oed os nad oes gennych lawer o brofiad o fod mewn gweithle, ceir sgiliau allweddol y bydd cyflogwyr yn chwilio amdanynt y gall unrhyw un eu harddangos. Ymhlith y rhain, mae:

  • sgiliau cyfathrebu da
  • tystiolaeth o waith tîm
  • meithrin perthynas waith ag eraill
  • sgiliau cyfrifiadurol a Thechnoleg Gwybodaeth

Meddyliwch am yr hyn y mae'r ysgol a'r coleg wedi ei ddysgu i chi ac am unrhyw sgiliau sydd gennych ar ôl cymryd rhan mewn gweithgareddau. Er enghraifft, efallai eich bod wedi gwneud un o'r canlynol:

  • wedi creu eich gwefan neu'ch blog eich hun
  • wedi cymryd rhan mewn cynllun Dug Caeredin
  • wedi bod yn aelod o dîm chwaraeon

Mae pob un o'r enghreifftiau hyn yn defnyddio sgiliau y bydd cyflogwyr yn chwilio amdanynt, yn ogystal â sgiliau cyffredinol fel dangos blaengaredd ac ymrwymiad.

CVs, llythyrau eglurhaol a ffurflenni cais

Pan fyddwch wedi dod o hyd i swydd yr ydych chi'n meddwl y gallech ei gwneud, mae gwahanol ffyrdd y gallai cwmnïau ofyn i chi wneud cais amdani.

Curriculum vitae (CV)
Dogfen fer sy'n rhestru'ch manylion personol, eich sgiliau a'ch profiadau yw curriculum vitae neu CV. Bydd cyflogwyr yn penderfynu a ydynt am eich gwahodd i gyfweliad ar sail y CV hwn yn unig, felly mae'n bwysig ei fod yn gywir, yn eich disgrifio mewn ffordd bositif ac yn cyd-fynd â'r disgrifiad swydd.

Llythyr eglurhaol
Pan fyddwch yn anfon CV, gofynnir yn aml i chi gyflwyno llythyr eglurhaol gydag ef.

Dylech ddefnyddio'r llythyr i werthu eich hun, i egluro pan eich bod yn addas ar gyfer y swydd ac i ddisgrifio sut mae'r wybodaeth yn eich CV yn berthnasol i'r swydd yr ydych yn ymgeisio amdani.

Pan fyddwch yn ysgrifennu'r llythyr, dylech wneud y canlynol:

  • ei gadw i un ochr o bapur A4 ar y mwyaf, a phwysleisio pa mor addas ydych ar gyfer y swydd
  • defnyddio cyfrifiadur i'w ysgrifennu bob amser, onid yw'r hysbyseb swydd yn gofyn am lythyr yn eich llawysgrifen chi
  • cynnwys teitl y swydd neu rif cyfeirnod y swydd yr ydych yn ymgeisio amdani
  • gofyn i rywun arall edrych drosto i chwilio am wallau sillafu cyn i chi ei anfon; peidiwch â dibynnu ar wirydd sillafu ar gyfrifiadur, gan fod y rhain yn aml yn gallu bod yn annibynadwy

Ffurflenni cais
Bydd rhai cwmnïau'n gofyn i chi lenwi ffurflen gais yn hytrach nag anfon CV. Os gofynnir i chi lenwi ffurflen:

  • cofiwch ddarllen a dilyn yr holl gyfarwyddiadau'n ofalus
  • dylech ddrafftio'ch atebion ar bad ysgrifennu i ddechrau a chael rhywun arall i'w darllen
  • ni ddylech dorri a phastio'ch CV ar y ffurflen – bydd hyn yn edrych yn ddiog
  • byddwch yn onest a thynnwch sylw at y modd y mae'ch sgiliau'n berthnasol i'r swydd gymaint ag y gallwch

Mynd i gyfweliad

Os yw cyflogwr yn hoffi'r hyn y mae'n ei weld ar eich ffurflen gais neu'ch CV, gallech dderbyn gwahoddiad i fynd i gyfweliad. Yn ogystal â bod yn gyfle i gyflogwr gael gwybod mwy amdanoch chi ac i benderfynu a fyddech chi'n addas ar gyfer y swydd, mae'n gyfle i chi ofyn cwestiynau am y swydd i weld ai dyma beth rydych chi'n chwilio amdano.

Cyn mynd i'r un cyfweliad, gwnewch yn siŵr eich bod wedi gwneud rhywfaint o waith ymchwil am y cwmni. Edrychwch ar wefan y cwmni i weld pa waith y mae'n ei wneud ar hyn o bryd ac i gael gwybod am unrhyw ddatblygiadau diweddar. Bydd dangos bod gennych ddealltwriaeth o'r diwydiant ehangach yn gyffredinol yn gwneud i chi sefyll allan oddi wrth y rhai eraill a fydd yn cael eu cyfweld.

Megis gyda chyfweliadau ar gyfer mynd i goleg neu brifysgol, ceir rhai rheolau synnwyr cyffredin y dylech eu dilyn:

  • gwnewch yn siŵr eich bod yn gwybod ym mhle y bydd y cyfweliad yn cael ei gynnal ac â phwy y byddwch yn siarad
  • byddwch yn brydlon
  • hyd yn oed os oes naws anffurfiol i'r gweithle, bydd gwisgo'n daclus yn creu argraff dda bob amser
  • dywedwch y gwir; os dywedwch gelwydd mewn cyfweliad ac y gofynnir i chi fanylu ar y mater, bydd yn amlwg nad ydych yn gwybod am beth yr ydych yn sôn
  • unwaith y bydd y cyfweliad wedi dod i ben, gofynnwch o leiaf un cwestiwn am y gwaith ei hun

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU