Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Creu eich CV cyntaf

Bydd curriculum vitae (CV) yn cael ei ddefnyddio gan gyflogwyr i benderfynu a ydy rhywun yn addas ar gyfer swydd wag. Mae'n gofnod o'ch cymwysterau a'ch sgiliau, a dylech wneud yn siŵr ei fod mor ddiweddar ag y bo modd pan fyddwch yn gwneud cais am swydd newydd.

Pam fod CV yn bwysig

Bydd cyflogwyr yn dewis pwy maent yn dymuno'u cyfweld ar ôl gweld beth a gynhwysir ar eich CV, felly mae'n bwysig iawn ei fod yn hawdd ei ddeall a'i fod yn nodi eich nodweddion gorau.

Gall gwallau sillafu, gramadeg gwael a gwybodaeth sydd ar goll edrych yn ddrwg iawn ar CV ac, os nad yw'n gyflawn, mae'n ddigon posib y bydd cyflogwyr yn ei luchio i'r bin.

CV - y pethau sylfaenol

Does dim ffordd iawn na ffordd anghywir o lunio CV, ond mae rhai adrannau safonol a ddylid eu cynnwys ynddynt. Y rhain yw:

  • gwybodaeth bersonol a manylion cyswllt
  • addysg a chymwysterau
  • hanes gwaith
  • sgiliau perthnasol i'r swydd
  • diddordebau
  • geirdaon

Dylai'r geirdaon fod gan bobl sy'n eich adnabod yn dda - pobl a all roi gwybod i gyflogwr beth yr ydych wedi ei wneud yn y gorffennol. Eich dau gyflogwr diwethaf fydd y rhain fel arfer, ond os nad ydych wedi gweithio o'r blaen, gallwch ddefnyddio athro/athrawes neu diwtor o'r ysgol neu'r coleg.

Pan fyddwch yn disgrifio'ch diddordebau, dylech amlinellu'r pethau sy'n tynnu sylw at y sgiliau y bydd cyflogwyr yn chwilio amdanynt; mae unrhyw beth yr ydych wedi ei wneud sy'n dangos eich bod wedi gweithio mewn tîm, unrhyw waith gwirfoddol perthnasol, unrhyw swyddi ac iddynt gyfrifoldebau ac unrhyw weithgareddau sy'n dangos mentergarwch ac ymrwymiad yn bethau eithriadol o dda i'w nodi.

Cadwch eich CV i ddim mwy na dwy ochr o bapur A4. Bydd cyflogwyr yn derbyn llawer o CVs, felly mae'n annhebygol y byddant yn darllen pob un o'i ddechrau i'w ddiwedd. Mewn gwirionedd, bydd y rhan fwyaf yn barnu CV ar ôl ychydig eiliadau'n unig, felly cadwch ef mor fyr ag y gallwch.

Yn olaf, byddwch yn onest. Os byddwch yn dweud celwydd ynghylch lefel eich profiad neu'r sgiliau sydd gennych a bod eich cyflogwr yn canfod hyn, gallech gael eich diswyddo.

Eich sgiliau

Mae hefyd yn bwysig cynnwys adran sy'n canolbwyntio'n arbennig ar eich sgiliau. Bydd y rhai y dylech eu cynnwys yn dibynnu ar natur y swydd yr ydych yn gwneud cais amdani, ond gall rhai enghreifftiau o sgiliau allweddol wneud i chi sefyll allan o ddifrif:

  • mae sgiliau cyfrifiadur, gan gynnwys defnyddio'r rhaglenni a ddefnyddir yn gyffredinol, ysgrifennu blog, neu wybodaeth ynghylch dylunio gwefannau, yn ddefnyddiol mewn amryw o swyddi
  • os ydych chi'n hyderus wrth siarad o flaen grwpiau, ac yn gyfeillgar ac yn ddigynnwrf wrth siarad ar y ffôn, defnyddiwch y rhain fel enghreifftiau o sgiliau cyfathrebu da
  • os ydych chi erioed wedi gweithio â grŵp mawr megis tîm chwaraeon neu grŵp drama, gall hyn fod yn dystiolaeth eich bod yn gallu gweithio fel aelod o dîm
  • meddyliwch am unrhyw rwystrau yr ydych wedi eu goresgyn a sut y gwnaethoch hynny er mwyn dangos eich gallu i ddatrys problemau

Cyfateb eich CV i ddisgrifiad swydd

Gan fod angen sgiliau gwahanol ar gyfer swyddi gwahanol, dylech wneud newidiadau i'ch CV fel ei fod yn cyfateb yn agos i beth bynnag yr ydych yn gwneud cais amdano.

Does dim rhaid i chi ei ailysgrifennu'n llwyr, ond efallai y byddwch yn dymuno ail-ddrafftio neu ail-drefnu rhai o'ch diddordebau a'ch sgiliau fel bod y rhai pwysicaf yn nes at ddechrau'r ddogfen. Efallai y byddwch hefyd yn dymuno diddymu pethau nad oes angen i chi eu crybwyll ar gyfer swyddogaeth benodol.

Diweddaru'ch CV

Mae'n bwysig iawn eich bod yn adolygu'ch CV yn rheolaidd, fel bod eich holl sgiliau a'ch profiadau'n cael eu cynnwys ynddo, a'i fod yn adlewyrchiad cywir a chadarnhaol ohonoch chi.

Os ydych chi wedi cwblhau lleoliad gwaith neu wedi dechrau gwirfoddoli'n ddiweddar, gwnewch yn siŵr eich bod yn cofnodi hyn ar eich CV, yn ogystal ag yn rhoi disgrifiad byr o'ch prif ddyletswyddau a pha sgiliau y gwnaethoch eu defnyddio. Dylech hefyd ychwanegu unrhyw gymwysterau newydd at eich CV cyn gynted â'ch bod wedi'u cwblhau.

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU