Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Torheulo doeth

Os ydych chi'n mynd ar wyliau, neu'n bwriadu mynd i'r traeth neu orwedd yn yr haul am eich bod yn ysu i gael lliw haul, dylech fod yn ymwybodol y gall gormod o amser yn yr haul fod yn beryglus. Gall wneud difrod i'ch croen ac arwain at ganser y croen yn nes ymlaen yn eich bywyd.

Canser y croen

Caiff y rhan fwyaf o ganser y croen ei achosi gan ddifrod a wneir gan belydrau UV (uwchfioled) o'r haul. Os bydd gormod o'r pelydrau hyn yn treiddio drwy'ch croen, fe allwch losgi, a gall hyn ddyblu'r peryg o ddatblygu canser y croen yn nes ymlaen mewn bywyd.

Mae canser y croen yn un o’r mathau mwyaf cyffredin o ganser ymhlith plant yn eu harddegau a phobl ifanc, ac mae'r nifer o bobl sy'n ei ddatblygu ar gynnydd. Ar ben y pwysau cymdeithasol i gael lliw haul, mae llawer ohonom yn dal i fod yn anymwybodol o beryglon dod i ormod o gysylltiad â haul cryf.

Ceir dau fath o ganser y croen: melanoma malaen, sef y math mwyaf difrifol o ganser y croen, a chanser y croen di-felanoma, sy'n llai difrifol, ond sy'n effeithio ar bobl hŷn yn bennaf.

Pwy sydd mewn perygl

Gall unrhyw un sy'n treulio cyfnodau hir yn yr awyr agored ym misoedd yr haf ddioddef o ddifrod i'r croen a achosir gan belydrau UV, ond mae rhai pobl mewn mwy o berygl nag eraill.

Mae'r bobl hyn yn tueddu i fod ag un neu fwy o'r canlynol

  • croen golau sy'n tueddu i losgi mewn haul cryf
  • gwallt coch neu wallt golau
  • llawer o fannau geni neu frychni haul
  • hanes o ganser y croen yn eu teulu

Fel rheol gyffredinol, y goleuaf fo'ch croen, y mwyaf gofalus y dylech fod yn yr haul. Hyd yn oed os oes gennych groen naturiol dywyll, byddwch chi'n dal i fod mewn perygl os na fyddwch yn cymryd y camau angenrheidiol i warchod eich hun.

Synnwyr yn yr haul

Os ydych yn bwriadu treulio amser hir yn yr awyr agored yr haf hwn, naill ai'n gorwedd ar draeth, yn gwneud llawer o chwaraeon, neu'n gweithio yn yr awyr agored am gyfnodau hir, mae rhai pethau syml y gallech eu gwneud i leihau'r perygl o ddod i ormod o gysylltiad â'r haul.

  • edrychwch beth yw'r lefel UV cyn i chi fynd allan - mae hyn yn ffordd fanylach o gael gwybod pa mor gryf yw'r haul na defnyddio'r tymheredd fel canllaw
  • ar ddiwrnodau arbennig o boeth a heulog, arhoswch yn y cysgod rhwng 11am a 3pm pan fo'r haul ar ei boethaf
  • defnyddiwch eli haul da sy'n eich gwarchod rhag pelydrau UVA ac UVB - sicrhewch ei fod yn ffactor 15 o leiaf, hyd yn oed os byddwch chi'n meddwl bod gennych groen weddol dywyll
  • gwisgwch het a sbectol haul i warchod eich pen a'ch llygaid
  • cadwch grys-t neu dop llac gyda chi i'ch cuddio o olwg yr haul bob hyn a hyn

Arwyddion amlwg

Os byddwch yn treulio llawer o amser yn yr awyr agored yn yr haf, sicrhewch eich bod yn archwilio'ch corff am fannau geni'n rheolaidd. Mae'r rhan fwyaf o fannau geni'n rhai naturiol ac nid ydynt yn beryglus, ond os gwelwch eu bod yn newid eu siâp neu'u lliw, neu os byddwch yn darganfod un newydd, ewch at y meddyg.

Gwelyau haul

Fel yr haul, mae gwelyau haul yn cynhyrchu pelydrau UV sy'n gallu cynyddu'r perygl o ganser y croen. Mwya'n byd y byddwch yn defnyddio gwelyau haul, mwya'n byd y gallai'r perygl fod, a phan fydd y lliw haul yn diflannu, bydd y difrod i'r croen yn aros.

Os ydych chi dan 16 oed, ni ddylech ddefnyddio gwely haul, gan fod croen ifanc yn fwy sensitif ac agored i ddifrod na chroen hŷn. Hyd yn oed os ydych chi dros 16 oed, dylech fod yn ofalus iawn os byddwch yn dewis defnyddio un.

Dylech hefyd osgoi gwelyau haul yn gyfan gwbl dan yr amgylchiadau canlynol:

  • os oes gennych groen golau neu groen â brychni haul
  • os byddwch yn llosgi'n hawdd
  • os oes gennych lawer o fannau geni
  • os oes hanes o ganser y croen yn eich teulu
  • os ydych yn defnyddio meddyginiaeth sy'n cynyddu eich sensitifrwydd i UV.
Os byddwch yn penderfynu defnyddio un, cyfyngwch eich hun i ddwy sesiwn yr wythnos, dros gyfnod o 30 wythnos, bob blwyddyn. Ond cofiwch, os na fyddwch yn cael lliw haul yn yr haul, ni fyddwch yn cael lliw haul yn rhwyddach ar wely haul.

Yn yr adran hon...

Allweddumynediad llywodraeth y DU