Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Cadw'n heini

Mae sawl ffordd y gallwch chi gadw'n heini heb orfod ymuno â champfa. Mae'n ffordd dda iawn hefyd o wneud yn fawr o'ch amser hamdden.

Manteision cadw'n heini

Drwy wneud digon o ymarfer corff, byddwch chi'n sicrhau bod eich cymalau ac organau'ch corff yn gweithio'n effeithiol. Gall ymarfer hefyd helpu i gadw'ch pwysau'n iach a'ch gwarchod rhag dal peswch ac annwyd yn rheolaidd.

Manteision eraill yw bod lefel eich egni'n cynyddu a bod eich ymennydd yn gweithio'n well. Mae gwybod eich bod yn edrych ac yn teimlo'n dda hefyd yn gallu rhoi hwb sylweddol i'ch hunan-hyder.

Faint o ymarfer fydd ei angen arnoch?

Os ydych chi dan 18 oed, dylech geisio gwneud cyfanswm o 60 munud o weithgarwch corfforol bob dydd. Does dim rhaid i chi wneud hynny i gyd ar unwaith, ond mewn pyliau o 10 - 15 munud o leiaf drwy gydol y dydd. Mae hyn yn cynnwys popeth o godi pwysau yn y gampfa i gerdded i fyny'r grisiau yn hytrach na mynd yn y lifft. Y peth pwysig yw bod y gweithgarwch yn cynyddu cyfradd eich calon ac yn gwneud i chi deimlo'n gynhesach.

Os ydych chi dros 18 oed, anelwch at o leiaf 30 munud o ymarfer o leiaf bum niwrnod yr wythnos.

Os ydych chi'n awyddus i ddechrau ymarfer a chael eich hun yn ffit, y syniad gorau yw rhoi cynnig ar amrywiaeth o wahanol weithgareddau corfforol i weld pa rai rydych chi'n eu mwynhau fwyaf. Unwaith i chi benderfynu pa fath o beth rydych chi'n ei hoffi, fe allwch chi gynllunio pa fath o ymarfer rydych chi'n bwriadu ei wneud a pha bryd.

Cyn dechrau

Os ydych chi wedi penderfynu dechrau ar drefn ymarfer, mae'n bwysig mynd i weld eich meddyg i gael archwiliad. Bydd eich meddyg yn gallu'ch cynghori ynghylch faint o ymarfer y dylech chi fod yn ei wneud i ddechrau. Byddan nhw hefyd yn rhoi gwybod i chi a oes gennych unrhyw gyflwr meddygol megis poen yn eich pen-glin neu yn eich cefn, a all gyfyngu ar ba fath o ymarfer y byddwch yn ei wneud.

Ffitrwydd am ddim

Does dim rhaid mynd i'r gampfa i gadw'n heini - wneith rhai mathau o ymarfer ddim costio dimai i chi, ac fe allwch chi gynnwys y rhan fwyaf ohonyn nhw yn rhan o batrwm eich bywyd prysur, heb orfod dod o hyd i fwy o oriau yn y dydd.

Meddyliwch am:

  • feicio i'r ysgol, i'r coleg neu i'r gwaith. Os nad oes gennych chi feic, beth am gerdded yn hytrach na gyrru neu fynd ar y bws
  • loncian. Gall hyd yn oed rhedeg o gwmpas y bloc ambell waith yn ystod yr wythnos wella lefel eich ffitrwydd
  • gweld pa gyfleusterau hamdden a ddarperir gan eich awdurdod lleol. Mae gan lawer ohonyn nhw gylchoedd pêl-fasged, cyrtiau tenis a meysydd pêl-droed y cewch chi eu defnyddio am ddim

Chwaraeon tîm

Does dim rhaid i chi gadw'n heini ar eich pen eich hun. Mae chwarae gemau tîm megis pêl-droed, hoci neu bêl-rwyd yn ymarfer ardderchog, ond mae'n aml yn fwy o hwyl am eich bod gyda chriw o ffrindiau.

Mae'n bosib y bydd eich ysgol, eich coleg neu'ch prifysgol yn cynnal sesiynau gyda'r nos, neu efallai yr hoffech chi ymuno â thîm lleol. Mae manylion clybiau lleol i'w gweld ar y we, yn y llyfr ffôn neu yn eich canolfan hamdden agosaf. Gall eich awdurdod lleol roi gwybodaeth i chi hefyd am weithgareddau chwaraeon yn eich ardal.

Yn yr adran hon

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU