Dim ots faint o ymarfer corff wnewch chi, fe all bwyta sothach seimllyd saith diwrnod yr wythnos wneud difrod i'ch corff.
Hanfod bwyta'n iach yw sicrhau eich bod yn cael y swm iawn o fitaminau, mineralau, protin a charbohydrad, yn ogystal â'r mathau iawn o fraster a siwgwr.
Mae tomen o gyngor a gwybodaeth am fwyta'n iach ym mhob man, ac mae ceisio deall y cyfan bron yn amhosib. Ond os ydych chi'n meddwl y gallech chi wella'ch deiet, mae ambell beth syml i'w gofio.
Sicrhau eich bod yn bwyta'r cydbwysedd iawn o'r bwydydd iawn yw'r allwedd i ddeiet iach. Dyma ambell gyngor i sicrhau eich bod yn bwyta'r amrywiaeth iawn o fwyd:
Os ydy'ch chi'n brysur iawn, mae'n demtasiwn mawr mynd i'r arfer o fwyta rhwng prydau. Mae'n bosib bod sglaffio bag o greision neu far o siocled ar y ffordd adref yn rhoi hwb i'ch egni, ond fel arfer, dyma'r math o bethau sy'n llawn braster a siwgwr o'r math gwaethaf.
Mae'n well ceisio peidio â bwyta rhwng prydau'n gyfangwbl, ond os yw'n anodd i chi wneud hynny, cadwch ffrwyth neu ddau neu fag o gnau wrth law . Mae'r rhain yn gallu rhoi'r un math o hwb i'ch egni ac mae'r braster a'r siwgrau sydd ynddyn nhw'n well i chi.
Arfer drwg arall yw peidio â bwyta brecwast. Mae'n bosib ei bod yn well gennych dreulio 15 munud arall yn y gwely neu yn yr ystafell molchi bob bore, ond mae peidio â bwyta brecwast yn golygu eich bod yn debygol o fod yn estyn am y siocled ganol bore. Mae bwyta rhywbeth fel powlenaid o rawnfwyd a gwydraid o sudd ffrwythau cyn gadael y tw yn y bore'n fwy na digon i'ch cadw i fynd tan amser cinio.
Mae bod dros eich pwysau yn gallu cynyddu'r risg o gael clefydau megis diabetes, clefyd y galon a rhai mathau o ganser. Er bod pobl yn tyfu ac yn datblygu ar gyfradd wahanol ac ar wahanol oedrannau, dylech anelu at fod o fewn yr ystod pwysau normal ar gyfer eich taldra.
Os ydych chi'n poeni am eich pwysau, neu os hoffech chi gael cyngor am eich deiet, maethiad neu fwyta'n iach, pam na wnewch chi drefnu i weld eich meddyg?
Mae'n bosib eich bod yn cael eich temtio i roi cynnig ar un o'r deiets sy'n llenwi tudalennau cylchgronau bob wythnos, ond anaml iawn y mae'r rhain yn syniad da, a dydyn nhw ddim wastad yn gweithio. Bydd gwneud mân newidiadau i'ch deiet a bwyta llai o bethau melys a bwydydd llawn braster yn iachach o lawer i chi yn y tymor hir.