Os ydych chi newydd ddechrau yn y brifysgol neu wedi symud oddi cartref, mae'n syniad da dod o hyd i feddygfa a threfnu apwyntiad i weld deintydd.
Unwaith i chi ddechrau yn y brifysgol neu symud i ardal newydd, dylech gofrestru dan y Gwasanaeth Iechyd Gwladol gyda meddygfa newydd yn y cyffiniau, cyn gynted ag y bo modd. Bydd gan y rhan fwyaf o brifysgolion ganolfan iechyd myfyrwyr ar eu safle, neu mae'n bosib y bydd yn well gennych drefnu drosoch chi'ch hun. Fel arfer, bydd angen i chi lenwi ffurflen (GMS1) yn y feddygfa lle'r hoffech chi gofrestru.
Os ydych chi'n aros mewn ardal am gyfnod byr - mwy na 24 awr ond llai na 3 mis - fe gewch wneud cais i feddygfa leol am gael eich trin dan y GIG fel preswylydd dros dro. Fyddwch chi ddim yn symud i'r feddygfa hon am byth, ond bydd manylion unrhyw driniaeth a gewch chi'n cael eu trosglwyddo i'ch meddygfa eich hun ac yn cael eu hychwanegu at eich cofnod meddygol.
Pan fyddwch chi'n symud i feddygfa newydd, mae'n help os ewch chi â'ch cerdyn meddygol GIG gyda chi. Mae hwn yn cynnwys manylion eich meddygfa a'ch rhif GIG. Bydd hynny'n ei gwneud yn haws i chi gofrestru. Mae eich rhif GIG yn golygu y bydd eich cofnodion meddygol yn cael eu hanfon at eich meddygfa newydd yn gyflym.
Os nad oes gennych chi gerdyn GIG, gallwch gael eich rhif GIG gan y feddygfa lle'r ydych wedi'ch cofrestru'n barod. Mae'n syniad da ysgrifennu hwn i lawr ynghyd ag enw a chyfeiriad y feddygfa. Cadwch y wybodaeth hon yn ddiogel oherwydd bydd ei hangen arnoch pa bryd bynnag y byddwch chi'n symud o un feddygfa i'r llall.
Unwaith i chi gofrestru gyda'ch meddygfa newydd, dylech gael eich gwahodd i'r feddygfa i gael sgwrs gychwynnol lle gofynnir cwestiynau i chi am eich iechyd a'ch ffordd o fyw. Gallwch hefyd wneud apwyntiad i weld meddyg neu nyrs yn y feddygfa pan fydd angen triniaeth arnoch ar gyfer salwch a chyflyrau meddygol eraill.
Os cewch chi anhawster wrth gofrestru gyda meddygfa neu gael triniaeth fel preswylydd dros dro, dylech gysylltu â'ch Ymddiriedolaeth Gofal Sylfaenol i gael mwy o help a chyngor. Gall eich Ymddiriedolaeth ddod o hyd i feddygfa leol i chi a rhoi eich enw ar ei rhestr o gleifion GIG.
Yn ogystal â threfnu i weld meddyg, bydd yn rhaid i chi drefnu hefyd i weld deintydd lleol. Cyn gwneud hynny, holwch am y math o wasanaethau y maen nhw'n eu darparu.
Mae tri math o ddeintyddfa y gallwch ddewis rhyngddynt:
Mae triniaeth ddeintyddol dan y GIG ar gael am ddim os ydych chi dan 18 oed.
Bydd eich Ymddiriedolaeth Gofal Sylfaenol yn gallu'ch helpu i ddod o hyd i ddeintydd sy'n derbyn cleifion y GIG, neu fe allwch chwilio ar-lein am ddeintyddion GIG eraill.
Er bod gan bawb yr hawl i gael triniaeth dan y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG), bydd rhai pobl yn dewis talu am driniaeth iechyd breifat, neu'n ei chael drwy'r gwaith fel un o'r manteision a gynigir gan y cwmni.
Dim ond pobl sydd ag yswiriant iechyd preifat y bydd rhai meddygon a deintyddion yn barod i'w derbyn, neu bobl sy'n barod i dalu bob tro y bydd angen triniaeth arnynt. Cyn i chi gofrestru, cofiwch holi pa fath o wasanaeth a ddarperir.
Mae'n bosib hefyd yr hoffech chi ofyn am restr o gost y mathau mwyaf cyffredin o driniaeth er mwyn i chi gymharu nifer o wahanol ddarparwyr yn eich ardal.