Gall unrhyw un gael ei ddal mewn perthynas gamdriniol, yn ddynion ac yn ferched. Mae help ar gael os oes gennych bartner treisgar, neu os ydych yn poeni am rywun mewn perthynas gamdriniol.
Nid oes raid i berthynas fod yn dreisgar i gael ei galw'n gamdriniol. Gall unrhyw fath o ymddygiad neu iaith a ddefnyddir er mwyn bygwth, codi ofn neu reoli rhywun arall ddisgrifio perthynas gamdriniol, ac mae hyn yn cynnwys camdrin emosiynol, geiriol neu rywiol.
Dyma rai o'r pethau sy'n cyfrif fel camdrin mewn perthynas:
Gall unrhyw fath o berthynas droi yn un gamdriniol, waeth faint yw eich oed. Efallai eich bod yn canlyn rhywun sy'n gwneud i chi deimlo'n fach o gwmpas ei ffrindiau, neu efallai bod perthynas hŷn yn achosi niwed corfforol i chi. Dim ond ychydig enghreifftiau o berthnasau camdriniol yw'r rhain.
Os ydych mewn perthynas gamdriniol, mae'n bwysig eich bod yn siarad â rhywun yr ydych yn ymddiried ynddynt fel ffrind neu berthynas. Mae gan rai ysgolion a cholegau gynghorwyr ar y safle y gallwch siarad â hwy, neu efallai y dymunech ddweud wrth athro yn ogystal. Mae'n bwysig eich bod yn cofio nad ydych ar eich pen eich hun - mae llawer o bobl wedi bod yn gaeth mewn perthynas gamdriniol ac wedi llwyddo i ddianc ohonynt.
Mae hefyd yn bwysig eich bod yn cofio nad arnoch chi mae'r bai am ymddygiad rhywun arall. Efallai eich bod yn meddwl eich bod wedi dweud rhywbeth neu wedi gwneud rhywbeth o'i le gan eu hypsetio a pheri iddynt droi'n ymosodol. Beth bynnag y teimlwch eich bod wedi'i wneud, nid oes esgus dros sarhau cyson a bygythiadau o drais.
Mae dynion a merched yn gallu bod yn ddioddefwr mewn perthynas gamdriniol, ond mae'r rhan fwyaf o achosion trais yn y cartref yn cynnwys merched a phlant.
Ond gall pobl ifanc sy'n canlyn rhywun hefyd fod yn ddioddefwr mewn perthynas gamdriniol
Os ydych yn pryderu bod ffrind, perthynas neu rywun arall yr ydych yn ei adnabod mewn perthynas gamdriniol, dylech siarad â nhw am y peth. Efallai eich bod yn teimlo na ddylech fusnesu ym musnes rhywun arall, ond ni fydd anwybyddu'r broblem yn helpu a gall ychwanegu at deimlad y dioddefwr o fod yn ynysig ac un unig.
I helpu rhywun, gallwch:
Mae'n bwysig nad ydych yn ceisio herio'r person sy'n bod yn dreisgar. Trwy wneud hyn byddwch yn rhoi eich hun mewn perygl.