Os ydy'ch rhieni wedi penderfynu ysgaru neu wahanu, mae'n siŵr eich bod yn poeni beth fydd oblygiadau hyn i chi.
Gall cwpwl wahanu am amryw o resymau ac yn aml iawn bydd cyfuniad o faterion cymhleth wrth wraidd penderfyniad i wneud hynny. Efallai y byddwch yn teimlo'n drist, yn flin neu'n cael braw pan glywch y newydd.
Efallai y byddwch hefyd yn teimlo'n euog eich bod, rywsut neu'i gilydd, wedi chwarae rhan yn y chwalu. Beth bynnag fo'r rhesymau pam bod perthynas eich rhieni wedi chwalu, mae'n bwysig eich bod yn cofio nad eich bai chi ydyw.
Os ydych yn teimlo rhyddhad, peidiwch â phoeni. Efallai bod hyn yn ymddangos fel ffordd ryfedd o ymateb i sefyllfa mor ddifrifol, ond os yw'ch rhieni wedi bod yn dadlau neu'n brifo'r naill a'r llall, mae'n bosib y byddai'n well i bawb petaent yn byw ar wahân.
Mae'n bosib eich bod yn bryderus y bydd rhaid i chi ddewis â pha riant yr ydych yn dymuno byw. Boed eich rhieni'n datrys eu problemau ynteu'n anghytuno â'i gilydd, dylech gael y cyfle i leisio'ch barn bob amser.
Yn ystod ysgariad neu wahaniad, bydd eich rhieni'n mynd drwy broses o gyfryngu er mwyn cael trefn ar y trefniadau. Fel rhan o'r broses hon, mae gennych yr hawl i ddweud eich dweud am yr hyn a fyddai orau er eich lles chi, ac a ydych yn fodlon â'r penderfyniadau a allai effeithio arnoch.
Nid mewn ystafell mewn llys y bydd cyfryngu'n cymryd lle. Mae'n golygu sgwrs anffurfiol gyda swyddog lles llys neu swyddog cyfryngu, a fydd yn egluro penderfyniad eich rhieni i chi a gofyn sut ydych chi'n teimlo am y penderfyniadau hynny. Os byddwch yn anghytuno ag unrhyw beth, bydd y swyddog lles neu gyfryngu yn adrodd yn ôl am eich meddyliau chi a gellir newid y penderfyniadau.
Mae bod yn rhan o ysgariad neu wahaniad yn brofiad gofidus i bawb sydd ynghlwm â'r peth. Er y gallai fod yn anodd, mae'n bwysig eich bod yn siarad â'ch rhieni ynghylch sut yr ydych yn teimlo. Yn ogystal â rhoi syniad iddynt sut yr ydych yn ymdopi, bydd yn rhoi cyfle i chi gael gwell dealltwriaeth o pam eu bod yn gwahanu.
Os oes gennych ffrindiau â'u rhieni wedi gwahanu neu ysgaru, efallai y byddwch yn dymuno siarad â hwy. Mae'n bosib y byddant yn gallu eich helpu trwy'r profiad wrth siarad am beth ddigwyddodd iddyn nhw.
Os yw'ch rhieni'n anghytuno am rywbeth, fel pa mor aml y cewch chi weld y rhiant nad ydych yn byw ag ef, efallai y bydd y mater yn mynd gerbron llys. Er ei bod yn annhebygol y gofynnir i chi fynd i'r llys ac ateb cwestiynau, efallai y gofynnir beth yw eich teimladau am y mater sy'n cael ei benderfynu.
Bydd rhaid i chi, fwy na thebyg, siarad â swyddog adrodd ar ran plant a theuluoedd. Byddant yn egluro'r mater sy'n cael ei drafod ac yn gofyn i chi beth fyddai'r canlyniad gorau yn eich tyb chi. Bydd yr hyn a ddywedwch yn y cyfweliad hwn yn cael ei roi i'r llys ar ffurf adroddiad teulu.
Os yw'ch rhieni'n gwahanu neu'n ysgaru oherwydd bod eu perthynas yn un gamdriniol neu dreisgar, neu os oes gan un ohonynt broblemau gyda chyffuriau neu alcohol, mae'n debygol yr eir â'r mater yn syth i lys, yn hytrach na mynd trwy'r broses gyfryngu. Yn yr achosion hyn, y peth pwysicaf y bydd y llys yn ei ystyried yw eich diogelwch chi a'ch rhiant.