Os ydych chi am ehangu'ch gorwelion trwy deithio, neu ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus neu eich car eich hun, mae'r adran hon yn cynnwys yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch.
Os byddwch chi'n dysgu gyrru, mae llawer o bethau i'w cofio. Fe allwch chi gael gwybod popeth yma am sefyll eich prawf a sut i ddefnyddio'ch sgiliau gyrru newydd yn ddiogel ar ôl pasio.
Yma fe gewch weld ein canllaw i deithio yn y DU. Mae modd cynllunio teithiau a chael gwybodaeth am deithio ar fws, trenau ac awyrennau, ynghyd â chael y wybodaeth ddiweddaraf am draffig.
Yma fe gewch gymaint o wybodaeth â phosibl cyn dechrau ar eich taith, gyda chyngor am wledydd penodol, rhestri atgoffa i deithwyr a beth i'w wneud os bydd pethau'n mynd o chwith.
Yma fe gewch ddod o hyd i'r hyn y cewch chi ac na chewch chi ei wneud gyda'ch trwydded yrru, sut i gael trwydded newydd neu ddiweddaru'ch trwydded, a beth fydd yn digwydd os cewch chi'ch gwahardd rhag gyrru.
Gallwch hefyd wneud cais am eich trwydded yrru dros dro gyntaf ar-lein.
Os byddwch chi eisiau gyrru unrhyw gerbyd ar wahân i gar, mae'r adran hon yn rhoi gwybod pa ddewisiadau sydd gennych os oes gennych chi drwydded yrru ddilys. Mae yma wybodaeth hefyd am sut i newid eich trwydded i yrru mathau eraill o gerbydau.
Yma fe gewch wybod am ymgyrchoedd gwahanol y llywodraeth i helpu pobl i yrru eu ceir yn fwy diogel.