Bydd angen pasport deng mlynedd llawn arnoch os ydych chi'n dymuno teithio dramor. Mae'n bosib y bydd angen fisa arnoch hefyd, yn dibynnu ar y wlad yr ydych yn mynd iddi, a'ch rheswm dros deithio.
Y Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasportau (IPS) fydd yn delio â cheisiadau am basport ac ymholiadau yn eu cylch.
Rhaid i basport fod yn ddilys ar gyfer taith gyfan. Os bydd eich pasport yn dod i ben pan fyddwch i ffwrdd, dylech gael pasport newydd cyn i chi adael.
Mae rhai gwledydd yn mynnu bod eich pasport yn ddilys am o leiaf chwe mis ar ôl y dyddiad y byddwch yn mynd i mewn i'r wlad. Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau ynghylch hyn, holwch is-genhadaeth neu lysgenhadaeth y wlad yn y DU.
Cyn ac yn ystod eich taith:
Mae cost pasport DU yn amrywio gan ddibynnu ar sut y byddwch yn gwneud cais. Er enghraifft:
Gellir cael manylion llawn am ffioedd pasport ar wefan y Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasportau, neu drwy ffonio'r Llinell Wybodaeth ar gyfer Ffioedd Pasport ar 0800 056 6654, neu'r gwasanaeth Ffôn Testun ar 0808 156 1559.
Gwneud cais am basport
Ceir pedair ffordd wahanol i wneud cais am basport:
Cyfweliadau am basport
O fis Ebrill 2007 ymlaen, efallai y bydd yn rhaid i unrhyw un sy'n 16 oed neu'n hŷn ac yn gwneud cais am basport am y tro cyntaf, gael cyfweliad fel rhan o'r broses ymgeisio.
Bydd y cyfweliad yn cadarnhau mai eich cais chi a neb arall yw'ch cais am basport, ac yn gwneud yn siŵr mai chi yw'r perchennog cyfiawn.
Os oedd gennych basport plentyn, ni fydd angen i chi gael eich cyfweld er mwyn cael eich pasport oedolyn cyntaf. Dim ond os nad ydych erioed wedi cael pasport Prydeinig o'r blaen y bydd angen i chi fynd i gyfweliad.
Rydych yn gwneud cais yn y ffordd arferol ond ar ôl anfon eich ffurflen gais cewch lythyr yn gofyn i chi drefnu cyfweliad. Ar y dechrau, ni fydd pawb sy'n gwneud cais am basport cyntaf yn cael eu cyfweld. Os nad ydych wedi cael llythyr yn gofyn i chi drefnu cyfweliad o fewn wyth diwrnod gwaith i'ch cais gael ei dderbyn, ni fydd angen i chi gael eich cyfweld.
Os ydych chi'n teithio i rywle y tu allan i diriogaethau Prydain, efallai y bydd angen i chi wneud cais am fisa gan is-genhadaeth neu lysgenhadaeth y wlad honno. Mae gan wefan y Swyddfa Dramor restr o fanylion cyswllt llysgenadaethau yn y DU. Mae gan rai gwledydd wefannau eu hunain sy'n rhoi gwybodaeth am fisas - mae gan wefan Llysgenhadaeth yr Unol Daleithiau, er enghraifft, fanylion am bwy sydd angen fisa i deithio i'r UDA.
Os ydych chi'n ddinesydd yn un o diriogaethau dibynnol Prydain, yn ddinesydd Prydeinig dramor, yn ddeiliad Prydeinig, yn frodor Prydeinig dramor, neu'n berson sydd wedi'i amddiffyn gan Brydain, efallai y bydd angen i chi wneud cais am fisa hyd yn oed os nad oes angen i ddinasyddion Prydeinig wneud hynny