Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Arian teithio ac arian tramor

Pan fyddwch dramor gallwch ddefnyddio arian lleol, sieciau teithio neu gardiau talu ymlaen llaw a chardiau credyd a debyd. Yma cewch wybod sut mae cael arian teithio, beth yw'r costau cysylltiedig a sut mae cadw'r arian yn ddiogel.

Arian tramor

Gallwch brynu arian tramor:

  • mewn banciau
  • gan rai asiantau teithio
  • mewn rhai Swyddfeydd Post
  • mewn bureaux de change mewn meysydd awyr, porthladdoedd fferi ac ar rai llongau

Gall taliadau comisiwn amrywio, felly holwch cyn prynu.

Nid yw pob man cyfnewid arian yn darparu ceiniogau, felly holwch ynghylch hyn os bydd angen ceiniogau arnoch ar gyfer trolïau bagiau teithio yn y maes awyr, er enghraifft.

Os oes arnoch eisiau symiau mawr o arian neu arian anarferol, mae'n bosib y bydd angen i chi eu harchebu ymlaen llaw.

Y gyfradd gyfnewid

Mae faint o arian y gall y bunt Brydeinig ei brynu (neu 'y bunt sterling') yn dibynnu ar y gyfradd gyfnewid, a gall amrywio o ddydd i ddydd.

Mae'r cyfraddau cyfnewid i'w gweld mewn mannau cyfnewid arian. Gallwch hefyd fynd ar-lein i weld beth yw'r cyfraddau drwy roi 'currency converter' neu 'exchange rate' mewn peiriant chwilio. Mae'n syniad da edrych ar nifer o wefannau a dylech bob amser wneud yn siŵr bod y cyfraddau wedi'u diweddaru.

Yr ewro

Er 2002, mae'r ewro wedi disodli'r hen arian cenedlaethol yn y 15 gwlad sy'n rhan o 'ardal yr ewro'. Gellir defnyddio papurau a cheiniogau ewro ym mhob gwlad sy'n rhan o ardal yr ewro.

Dyma ardal yr ewro:

  • Awstria
  • Gwlad Belg
  • Cyprus
  • Y Ffindir
  • Ffrainc
  • Yr Almaen
  • Gwlad Groeg
  • Yr Eidal
  • Iwerddon
  • Lwcsembwrg
  • Malta
  • Yr Iseldiroedd
  • Portiwgal
  • Sbaen
  • Slofenia

Nid yw'r DU, Denmarc na Sweden yn rhan o ardal yr ewro.

Sieciau teithio

Sieciau parod am swm penodol mewn un math o arian yw sieciau teithio. Maent yn fwy diogel nag arian parod, oherwydd gallwch eu canslo a chael rhai yn eu lle os cânt eu dwyn neu eu colli.

Gallwch brynu sieciau teithio gan fanciau ac asiantau teithio. Maent ar gael yn yr arian canlynol fel rheol:

  • Doleri Canada
  • Doleri'r Unol Daleithiau
  • Ewro
  • Punnoedd sterling
  • Yen Japan

Gallwch gyfnewid sieciau teithio am arian mewn banciau a'u defnyddio mewn amryw o siopau a bwytai.

Pan fyddwch yn prynu sieciau teithio byddwch yn llofnodi pob un, ac yn eu hadlofnodi pan fyddwch yn eu defnyddio. Mae'n bosib y gofynnir i chi brofi pwy ydych chi.

Mae swm penodol wedi'i nodi ar sieciau teithio, felly mae'n bosib y bydd angen i siop roi newid i chi, yn union fel petaech newydd dalu gydag arian parod.

Holwch am daliadau a chomisiwn

Pan fyddwch yn prynu sieciau teithio, efallai yr hoffech holi faint o gomisiwn y mae'ch cyflenwr yn ei godi, ac a fydd yn codi tâl am gyfnewid unrhyw sieciau teithio na ddefnyddiwyd am arian.

Awgrymiadau ar gadw eich sieciau teithio yn ddiogel

Cofiwch:

  • peidiwch ag adlofnodi'r sieciau nes byddwch yn eu defnyddio
  • gwnewch nodyn o rifau cyfres pob siec a rhif cyswllt lleol y cwmni a'u darparodd i chi – a chadwch yr wybodaeth hon ar wahân i'r sieciau
  • cadwch eich derbynneb

Cardiau talu ymlaen llaw ar gyfer teithio

Mae rhai cwmnïau yn cynnig cardiau talu ymlaen llaw mewn sawl math o arian tramor fel dewis arall i sieciau teithio. Gallwch roi arian ar y cardiau ymlaen llaw, a'u defnyddio mewn peiriannau arian neu siopau dramor.

Gall cardiau talu ymlaen llaw fod yn ffordd dda o beidio â gwario mwy nag yr oeddech wedi'i fwriadu, ond holwch am y taliadau a'r costau cysylltiedig cyn teithio.

Defnyddio cardiau credyd neu ddebyd dramor

Cyn belled â bod eich cerdyn yn rhan o frand cynllun cardiau rhyngwladol (fel Visa neu Mastercard), gallwch ei ddefnyddio mewn siopau a pheiriannau arian ledled y byd.

Cadw'ch cardiau'n ddiogel

Cyn i chi fynd:

  • gwnewch nodyn o rif ffôn 24 awr eich cwmni cerdyn
  • gwnewch yn siŵr bod gan eich cwmni cerdyn eich manylion cyswllt diweddaraf, gan gynnwys eich rhif ffôn symudol

Pan fyddwch yn teithio:

  • cadwch lygad ar eich cerdyn bob amser
  • peidiwch â rhoi eich rhif PIN i neb, byth
  • cuddiwch eich rhif PIN pan fyddwch yn ei deipio

Ar ôl eich taith:

  • gwiriwch dderbynebau yn erbyn cyfriflen eich cerdyn, ac os ydych chi'n poeni am rywbeth ar eich cyfriflen ffoniwch eich cwmni cerdyn ar unwaith

Costau cardiau credyd a chardiau debyd

Fel rheol, bydd eich cwmni cerdyn yn codi tâl arnoch am ddefnyddio'ch cerdyn dramor.

Cyn i chi fynd:

  • holwch faint mae'ch cwmni cerdyn yn ei godi am godi arian ac am brynu dramor

Pan fyddwch yn teithio:

  • cymharwch y gyfradd gyfnewid a'r prisiau lleol â phrisiau eich cwmni cerdyn – mae'n aml yn rhatach defnyddio eich cerdyn debyd mewn peiriant arian lleol yn hytrach na phrynu arian gan bureaux de change neu fanc lleol

I lwytho arweiniad manwl cymdeithas daliadau'r DU (APACS), 'Using your plastic abroad', dilynwch y ddolen isod.

Gwarchodaeth wrth brynu gyda cherdyn credyd

Os byddwch yn defnyddio cerdyn credyd a gyhoeddwyd yn y DU i dalu am rywbeth sy'n costio rhwng £100 a £30,000, rydych wedi'ch gwarchod dan y Ddeddf Credyd Defnyddwyr os bydd nam ar y nwyddau neu os na chânt eu hanfon atoch. Mae hyn yn berthnasol dramor yn ogystal ag yn y DU. Mae rhai cardiau debyd yn cynnig gwarchodaeth debyg. Dylech holi'ch cwmni cerdyn am y manylion.

Mae gan gymdeithas daliadau'r DU (APACS) ganllaw ar 'Choosing and using a credit card'.

Additional links

Cyngor iechyd

Ewch i NHS Choices i gael gwybodaeth am iechyd - gan gynnwys cyngor ar iechyd a theithio - a gwasanaethau iechyd lleol yn Lloegr

A yw'n bryd i chi adnewyddu eich Cerdyn Yswiriant Iechyd Ewropeaidd (EHIC)?

Bydd angen adnewyddu EHIC a gyhoeddwyd yn 2005 ac ar ddechrau 2006 yn fuan. Peidiwch â mentro teithio i Ewrop heb gerdyn dilys.

Allweddumynediad llywodraeth y DU