Gall prynu yswiriant teithio eich helpu i gael cymorth ariannol ac ymarferol petai rhywbeth yn mynd o chwith ar eich taith dramor. Yn anffodus, gall salwch, lladrad neu ddamweiniau ddigwydd yn unrhyw le. Mae'r adran hon yn rhoi cyngor ar beth y dylech chwilio amdano mewn polisi yswiriant teithio.
Gall yswiriant teithio amrywio'n fawr o ran pris a chynnwys. Os bydd eich taith yn cynnwys chwaraeon neu weithgareddau sy'n cael eu hystyried yn beryglus, gofalwch fod eich yswiriwr yn cynnig gwarchodaeth ychwanegol neu efallai y bydd angen i chi gysylltu ag yswiriwr arbenigol. Dylech gael sawl pris gwahanol cyn dewis yswiriant teithio ac edrychwch yn ofalus i weld beth mae pob un yn ei gynnig.
Efallai yr hoffech holi ynghylch y canlynol er mwyn gwneud yn siŵr bod yr yswiriant yn addas i'ch anghenion:
Ceir gwybodaeth fanwl am yswiriant teithio ar wefan y Swyddfa Dramor a Chymanwlad.
Ceir mwy o wybodaeth am SAFI drwy ddilyn y ddolen 'Eich hawliau os bydd cwmni hedfan neu gwmni teithio yn mynd i'r wal'.
Ewch i NHS Choices i gael gwybodaeth am iechyd - gan gynnwys cyngor ar iechyd a theithio - a gwasanaethau iechyd lleol yn Lloegr