Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Defnyddio ffôn symudol dramor

Mae ffonau symudol yn ffordd hwylus o gadw cysylltiad pan fyddwch yn teithio, ond gall galwadau rhyngwladol fod yn ddrud. Yma cewch wybod pa gwestiynau y dylech eu gofyn ynghylch defnyddio'ch ffôn symudol dramor er mwyn cael y fargen orau gan eich darparwr gwasanaeth ac osgoi cael bil mawr annisgwyl pan ddewch adref.

Gwnewch yn siŵr y gallwch ddefnyddio eich ffôn dramor

Crwydro rhyngwladol yw'r enw ar y gwasanaeth rhyngwladol sy'n eich galluogi i ddefnyddio ffôn o'r DU dramor. Mae'n ddrutach fel rheol na gwasanaeth ar gyfer y DU yn unig, ac nid yw wedi'i gynnwys yn y rhan fwyaf o becynnau 'bwndel' safonol.

Mae angen i chi wneud yn siŵr cyn i chi fynd y gallwch ddefnyddio eich ffôn dramor. Dylech ofyn i'ch darparwr gwasanaeth:

  • a yw eich ffôn yn barod i'w ddefnyddio dramor – os nad ydyw, gallant drefnu hyn ar eich cyfer, ond gall gymryd hyd at dair wythnos a rhaid gwneud hynny cyn gadael y DU
  • faint mae'n ei godi (y tariff) am wasanaethau defnyddio ffôn symudol yn y wlad neu'r gwledydd y byddwch yn ymweld â hwy – gall cyfraddau newid ar fyr rybudd
  • a fydd eich ffôn yn gweithio yn y wlad yr ydych yn ymweld â hi – nid yw pob ffôn yn gweithio ym mhob gwlad, yn enwedig y tu allan i Ewrop

Darllenwch y print mân rhag ofn bod taliadau cudd

Cofiwch holi:

  • a godir tâl arnoch am dderbyn galwadau ar eich ffôn symudol pan fyddwch dramor
  • faint a godir arnoch am negeseuon testun ac am lwytho data
  • a godir cyfradd ryngwladol arnoch am wrando ar eich negeseuon llais

Mae gwefan Cymdeithas Wybodaeth y Comisiwn Ewropeaidd yn cynnwys gwybodaeth fanwl am brisiau defnyddio'ch ffôn symudol yn Ewrop ac yn eich galluogi i gymharu tariffau. I gael mwy o wybodaeth, dilynwch y ddolen isod.

Cael y fargen orau

Mae gan y mwyafrif o ddarparwyr gwasanaethau ffôn symudol becynnau taliadau sefydlog misol sy'n cynnig prisiau rhatach am ddefnyddio'ch ffôn symudol dramor. Os byddwch yn teithio'n aml neu am gyfnodau hir, gall y cynigion hyn fod yn llawer rhatach i chi.

Os yw safon y galwadau a sicrhau bod gennych signal ffôn yn bwysig i chi, efallai y gallech ddewis rhwydwaith penodol ar gyfer defnyddio'ch ffôn symudol dramor. Holwch eich darparwr gwasanaeth a yw'n cynnig dewis o rwydweithiau a sut mae newid rhyngddynt.

Ystyriwch brynu ffôn neu gerdyn SIM lleol

Os mai dim ond un wlad yr ydych yn ymweld â hi, efallai y bydd yn werth prynu cerdyn SIM newydd ar ôl cyrraedd. Dim ond ar rwydwaith y wlad honno y bydd y cerdyn SIM yn gweithio, a gallwch roi arian ar y ffôn fel y byddech yn ei wneud ar ffôn 'talu wrth ddefnyddio' yn y DU.

Os ydych chi'n poeni na fydd eich ffôn yn gweithio tra byddwch yno, gallech logi ffôn ar ôl cyrraedd. Gallwch wneud hyn yn y rhan fwyaf o feysydd awyr rhyngwladol.

Byddwch yn barod

Y pethau pwysig

Cofiwch y canlynol:

  • ewch ag addasydd rhyngwladol ar gyfer plwg gwefru eich ffôn symudol
  • gofynnwch i'ch darparwr gwasanaeth beth y mae'n rhaid i chi ei ddeialu er mwyn defnyddio eich ffôn dramor – mae'n bosib nad yw mor syml ag ychwanegu 0044 at ddechrau rhif i ffonio'r DU
  • cyn i chi adael, rhowch rif ffôn y llysgenhadaeth, yr uchel gomisiwn neu'r is-genhadaeth Brydeinig agosaf yn y wlad y byddwch yn ymweld â hi yn eich ffôn, a gwnewch yr un peth gyda rhifau ffôn eich gwesty a'ch cynrychiolydd ar y daith

Gwnewch yn siŵr bod digon o arian ar eich ffôn symudol

Os ydych chi'n defnyddio gwasanaeth crwydro rhyngwladol talu-ymlaen-llaw eich darparwr rhwydwaith, gwnewch yn siŵr eich bod yn gwybod sut mae defnyddio eich cerdyn credyd i roi mwy o arian ar eich ffôn cyn i chi adael.

Os ydych chi'n defnyddio talebau dylech brynu rhai cyn mynd, oherwydd gallai fod yn anoddach cael gafael ar rai pan fyddwch dramor.

Diogelwch ffonau symudol

Gwnewch nodyn o'r canlynol:

  • rhif cyfres eich ffôn symudol (a elwir hefyd yn rhif IMEI)
  • rhif eich ffôn symudol
  • rhif gwasanaethau cwsmeriaid eich gweithredydd (gan gynnwys y cod deialu ar gyfer y DU)

Cadwch hwy mewn man diogel, ar wahân i'r ffôn ei hun.

Os caiff eich ffôn ei ddwyn bydd modd i chi gysylltu â'r darparwr rhwydwaith yn y DU a gofyn iddynt rwystro'ch ffôn a'r/neu'r cerdyn SIM rhag cael eu defnyddio. Mae'n bosib y bydd yn gofyn am wybodaeth ychwanegol, megis cyfrinair, felly gwnewch yn siŵr bod gennych bopeth y mae ei angen ar eich gweithredydd cyn i chi fynd

Additional links

Cyngor iechyd

Ewch i NHS Choices i gael gwybodaeth am iechyd - gan gynnwys cyngor ar iechyd a theithio - a gwasanaethau iechyd lleol yn Lloegr

A yw'n bryd i chi adnewyddu eich Cerdyn Yswiriant Iechyd Ewropeaidd (EHIC)?

Bydd angen adnewyddu EHIC a gyhoeddwyd yn 2005 ac ar ddechrau 2006 yn fuan. Peidiwch â mentro teithio i Ewrop heb gerdyn dilys.

Allweddumynediad llywodraeth y DU