Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dod â bwyd a phlanhigion i mewn i'r DU

Mae'n anghyfreithlon dod â rhai mathau o fwydydd a'u cynnyrch i mewn i wledydd yr Undeb Ewropeaidd (UE) oherwydd gallant gludo plâu a chlefydau anifeiliaid a phlanhigion.

Mewnforion personol

Os byddwch yn dod â bwyd neu blanhigion yn ôl i'r DU ar gyfer eich defnydd chi, mae'n cael ei alw'n 'fewnforio personol'. Chewch chi ddim mewnforio cig neu gynnyrch cig a llaeth/cynnyrch llaeth at eich defnydd personol o'r rhan fwyaf o wledydd y tu allan i'r UE.

Mae rheolaethau llym hefyd yn gysylltiedig â dod â'r cynhyrchion canlynol i mewn i'r DU:

  • tatws
  • planhigion
  • pysgod
  • pysgod cregyn
  • mêl
  • wyau a chynhyrchion wyau
  • rhai mathau o ffrwythau a llysiau

Mae'r un rheolau'n berthnasol os mai chi sy'n dod â'r eitemau hyn i mewn i'r DU, os mai ffrind neu berthynas sy'n dod â nhw fel anrheg neu os cânt eu hanfon yn y post.

Os dowch ag eitemau gwaharddedig i mewn i'r wlad, neu cynifer o eitemau fel eu bod yn drymach na'r terfynau pwysau penodedig, bydd yr holl nwyddau'n cael eu cadw a'u dinistrio.

Rhywbeth i’w datgan?

Os byddwch yn datgan y nwyddau hyn yn sianel goch Cyllid a Thollau EM (y 'sianelau' yw'r mannau yr ydych yn cerdded trwyddynt i adael meysydd awyr, gorsafoedd trenau a phorthladdoedd rhyngwladol) ni chymerir rhagor o gamau yn eich erbyn (er enghraifft dirwy neu erlyn).

Os ewch drwy'r sianel werdd a swyddogion Cyllid a Thollau EM yn dod o hyd i eitemau nad ydych wedi'u datgan gallech wynebu oedi hir, yn ogystal â cholli'r nwyddau a fydd wedyn yn cael eu dinistrio, a gallech hefyd gael eich erlyn.

Cael gwybod mwy

Darllenwch y rheolau cyn i chi deithio drwy ddefnyddio'r ddolen isod gan Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (Defra) neu drwy ffonio Llinell Gymorth Defra ar +44 (0) 8459 335577. Dylai galwyr o du allan y DU ffonio +44 (0)207 238 6951.

Additional links

Cyngor iechyd

Ewch i NHS Choices i gael gwybodaeth am iechyd - gan gynnwys cyngor ar iechyd a theithio - a gwasanaethau iechyd lleol yn Lloegr

A yw'n bryd i chi adnewyddu eich Cerdyn Yswiriant Iechyd Ewropeaidd (EHIC)?

Bydd angen adnewyddu EHIC a gyhoeddwyd yn 2005 ac ar ddechrau 2006 yn fuan. Peidiwch â mentro teithio i Ewrop heb gerdyn dilys.

Allweddumynediad llywodraeth y DU