Mae teithio mewn tacsi neu minicab yn ddiogel iawn yn gyffredinol, ond mae’n bwysig sicrhau bod y cerbyd yn drwyddedig a chymryd camau rhagofal. Mae gyrwyr minicab didrwydded yn cyflawni 10 ymosodiad rhywiol y mis yn Llundain yn unig.
Bydd unrhyw dacsi sydd heb drwydded yn rhedeg yn anghyfreithlon, ac ni fydd wedi derbyn yr archwiliadau y bydd awdurdodau trwyddedu'n eu gorfodi ar yrwyr a cherbydau. Felly peidiwch â defnyddio tacsi:
Gallwch godi llaw ar dacsi i'w stopio ar y stryd, neu fynd atynt mewn arosfannau tacsis. Gallwch archebu tacsi trwy ofyn i'r gyrrwr. Rhaid i gerbydau hurio preifat (a elwir yn minicabs fel arfer) gael eu harchebu trwy weithiwr trwyddedig bob amser.
Pan fyddwch yn trefnu siwrnai gan ddefnyddio cerbyd hurio preifat trwyddedig, awgrymir eich bod yn trafod y pris gyda'r gweithredydd wrth i chi archebu.
Bydd hefyd yn syniad da gwneud nodyn o'r plât rhif a rhif trwydded y gyrrwr a'u tecstio i rywun fel rhagofal ychwanegol. Os oes gennych ffôn â chamera, gallwch dynnu llun o'r cerbyd hefyd.
Eisteddwch yng nghefn y cerbyd, a gafaelwch yn eich ffôn symudol fel y gellir ei ddefnyddio'n rhwydd.
Mae gan Adran Drafnidiaeth Llundain gwpl o gynlluniau i wneud teithio mewn tacsi yn fwy diogel ledled Llundain, gan gynnwys stiwardio arosfannau a sicrhau bod tacsis wedi'u trwyddedu.
Stiwardio Arosfannau
Ledled Llundain, bydd llawer o arosfannau'n cael eu stiwardio, ble bydd stiward yn sicrhau eich bod yn defnyddio tacsi sydd wedi'i drwyddedu ac sy'n gwybod lle'r ydych am fynd. Dim ond mewn ardaloedd penodol ac ar adegau penodol o'r nos y bydd stiwardio arosfannau ar waith, a dim ond ar y penwythnosau fel arfer.
Sicrhau bod tacsi yn drwyddedig yn Llundain
Mae Adran Drafnidiaeth Llundain yn rhedeg Uned Dacsis sy'n ymroddedig i gadw teithwyr yn ddiogel trwy fynd i'r afael â gyrwyr sy'n codi mwy o dâl nag a ddylent, a thrwy ddal gyrwyr anniogel a gyrwyr heb drwydded.
Mae’n hanfodol eich bod yn sicrhau bod trwydded gan eich tacsi neu'ch minicab. Mae gan Adran Drafnidiaeth Llundain gronfa ddata ar-lein sy'n eich galluogi i chwilio am weithwyr trwyddedig.
Gallwch hefyd decstio eich lleoliad i 60835 a byddwch yn derbyn neges destun yn rhestru'r gweithwyr trwyddedig lleol.