Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Diogelwch afonydd a môr

P'un ai os ydych yn gyfrifol am hwylio cwch neu deithiwr, sicrhewch eich bod yn ymwybodol o'r camau y dylech eu cymryd i sicrhau eich bod yn ddiogel.

Cael trwydded cwch

Rhaid i bob cwch ar Ddyfrffyrdd Prydain, a dyfrffyrdd Asiantaeth yr Amgylchedd a'r Awdurdod Broads gael trwydded Cynllun Diogelwch Cychod. Mae'r cynllun trwydded yn sicrhau bod cychod yn bodloni gofynion diogelwch angenrheidiol ar gyfer systemau megis tanwydd, awyru, injans mewnol/allanol a gwaith trydanol.

Rhaid i bob cwch ar wahân i'r rhai hynny sy'n eiddo preifat a'r rhai a ddefnyddir i ddibenion hamdden yn unig gydymffurfio â holl eitemau'r rhestr wirio er mwyn cael trwydded.

Rhaid i gychod preifat a ddefnyddir i ddibenion hamdden yn unig gydymffurfio â thua 75 y cant o'r eitemau er mwyn cael trwydded; fodd bynnag, awgrymir sicrhau i bob cwch yn cyrraedd yr holl feini prawf.

Golyga'r Cynllun Diogelwch Cychod fod eich cwch yn cael ei archwilio bob pedair blynedd gan arholwr cofrestredig y Cynllun Diogelwch Cychod.

Teithio'n ddiogel

Dyma rai cynghorion diogelwch i fod yn ymwybodol ohonynt ar ddyfrffyrdd:

  • gwisgwch siacedi achub
  • cadwch lygad barcud ar blant
  • peidiwch â neidio oddi ar gwch sy'n symud
  • peidiwch ag eistedd ar ddec blaen cwch dydd
  • peidiwch â cheisio stopio'ch cwch drwy ei wthio gyda'ch llaw neu'ch troed
  • peidiwch â mynd at neb yn y dŵr gyda'r propelor yn gyntaf

Os gewch chi ddamwain

  • stopiwch cyn gynted ag y bydd yn ddiogel i chi wneud hynny
  • cyfnewidiwch enwau, cyfeiriadau a rhifau trwydded y cychod gyda phawb sy'n gysylltiedig ac â unrhyw un sydd â rheswm digonol i ofyn am y wybodaeth
  • cysylltwch â'r awdurdod sy'n cynnal y ddyfrffordd

Mae'r Gangen Ymchwilio i Ddamweiniau Morol (MAIB) yn ymchwilio i'r holl ddamweiniau ar gychod y DU a'r holl ddamweiniau yn nyfroedd y DU, gan gynnwys dyfrffyrdd mewndirol.

Rhaid hysbysu MAIB am holl ddamweiniau a phrif anafiadau cyn gynted â phosib ac mae'n rhaid hysbysu anafiadau difrifol o fewn 14 diwrnod. Bydd MAIB yn casglu gwybodaeth ac yn penderfynu a ddylid cynnal archwiliad rhagarweiniol ai peidio. Mae'n bosib y gall hyn arwain at archwiliad llawn ac adroddiad.

Mae gan MAIB linell cofnodi damweiniau ymroddedig ar 023 8023 2527.

Cychod teithwyr masnachol

Rhaid i bob cwch sy'n rhedeg gwasanaeth masnachol i deithwyr ar ddyfroedd y DU, e.e. cychod afon a fferi, gael tystysgrif arolwg teithwyr ar gychod. Bydd y dystysgrif hon yn ddilys am flwyddyn ac yn cael ei chyhoeddi gan yr Asiantaeth Forwrol ac Arfordirol i gychod sydd wedi pasio'r arolwg diogelwch ac addasrwydd i'r môr blynyddol.

Ni all unrhyw gwch hwylio ar ddyfroedd y DU gario mwy na 12 teithiwr heb y dystysgrif hon.

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU