Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Gwasanaethau rheilffyrdd

Yma, cewch wybod mwy am y gwasanaethau sydd ar gael, cyfrifoldebau cwmnïau trenau, eich hawliau, a beth i'w wneud os caiff eich trên ei ganslo neu ei ohirio.

Cwmnïau trên yn y DU a’r gwasanaethau a ddarperir ar drenau

Ledled y DU, mae 30 o gwmnïau trên yn darparu gwasanaethau rheilffyrdd.

Bydd gwasanaethau a ddarperir ar y trên - megis cyfleusterau newid clytiau babi, lle i feiciau ac arlwyo - yn amrywio o wasanaeth i wasanaeth. Holwch y cwmni trenau y dymunwch ei ddefnyddio, neu ewch i wefan National Rail am fwy o wybodaeth am wasanaethau o'r fath.

Prynu tocynnau

Mae dewis eang o docynnau ar gael yn dibynnu ar pa bryd ac ymhle y dymunwch deithio a pha mor hyblyg ydych chi.

Mae'n rhaid i chi brynu tocynnau cyn mynd ar y trên oni bai:

  • nad oes unman i'w prynu yn yr orsaf y byddwch yn gadael ohoni neu
  • fod hysbysiad yno'n datgan bod modd prynu tocynnau ar y trên

Dan amgylchiadau eraill dylech brynu tocyn pob tro - hyd yn oed os bydd y ciwiau'n hir a'ch bod yn poeni eich bod am golli'ch trên - oni bai eich bod wedi cael caniatâd penodol gan staff yr orsaf. Os ewch chi ar y trên heb docyn dilys mae'n bosib y cewch docyn teithio cosb.

Os oes gennych gerdyn trên, bydd angen i chi ei ddangos wrth i chi brynu eich tocyn.

Eich hawliau

Rhaid i bob cwmni trenau lunio Siarter y Teithiwr sy'n datgan yr ymrwymiadau y mae'n eu gwneud i gwsmeriaid. Cysylltwch â'r cwmni trenau perthnasol i gael copi o'i siarter.

Gohirio a chanslo trenau

Os caiff eich trên ei ganslo, ei ohirio, neu os na chewch eistedd yn eich sedd gadw, a'ch bod yn penderfynu peidio teithio o ganlyniad i hyn, gallwch fynd â'ch tocyn i'r swyddfa docynnau lle gwnaethoch brynu'r tocyn i gael eich arian yn ôl yn y fan a'r lle. Fel arall, gallwch fynd â'ch tocyn i unrhyw swyddfa docynnau o fewn 28 niwrnod, ond mae'n bosib na chewch eich arian yn ôl yn y fan a'r lle. Ni ddylid didynnu unrhyw dâl gweinyddol o'r arian a gewch yn ôl.

Os caiff eich trên ei ohirio am fwy nag awr o ganlyniad i amgylchiadau y gallai'r cwmni trenau fod wedi eu rheoli, cewch dalebau costau teithio fel iawndal. Fodd bynnag, bydd rhai cwmnïau trenau'n cynnig iawndal hyd yn oed os caiff eich trên ei ohirio am lai nag awr.

Os cewch eich gadael yn aros mewn gorsaf o ganlyniad i drên yn cael ei ganslo neu ei ohirio, a bod hynny o fewn rheolaeth y cwmni trenau, dylai'r cwmni eich helpu trwy ddarparu cludiant arall i ben eich taith neu i orsaf gyfleus, neu i lety dros nos. Gofynnwch i aelod o staff yn yr orsaf am wybodaeth.

Bagiau

Chi sy'n gyfrifol am eich bagiau, ac fel arfer ni fydd cwmnïau trenau'n atebol am roi iawndal am fagiau coll neu fagiau wedi'u difrodi, oni bai mai esgeulustod y cwmni neu'r staff a achosodd i hynny ddigwydd.

Cael cyngor

Mae Passenger Focus, y Cyngor Teithwyr Rheilffyrdd gynt, yn gorff cyhoeddus annibynnol sydd â'r nod o amddiffyn buddiannau teithwyr rheilffyrdd Prydain. Mae'n ymgyrchu dros welliannau, yn darparu cyngor ymarferol ac yn cynnig cymorth i ddatrys cwynion. Mae'n delio â thri maes allweddol - prisiau a thocynnau, ansawdd a lefel y gwasanaethau, a buddsoddi yn y rheilffyrdd.

Mae Passenger Focus yn:

  • cynnig cyngor a chymorth i deithwyr ar drenau am sut i gael y gorau o wasanaethau trên
  • esbonio hawliau teithwyr pan fydd pethau'n mynd o chwith
  • cyfryngu mewn cwynion nad yw'r cwmnïau trên yn gallu'u datrys
  • cyhoeddi adroddiadau ac ymchwil ar wasanaethau trên
  • pwyso am welliannau i wasanaethau
  • siapio datblygiad polisi, gweithdrefnau a rheoliadau'r rheilffyrdd

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU