Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Consesiynau teithio ar y rheilffyrdd

Mae chwe gwahanol fath o gardiau trên sy'n cynnig gostyngiadau ar drenau ym Mhrydain. Mae'r rhain yn delio gyda gostyngiadau ar gyfer pobl ifanc, pobl hŷn, pobl anabl, teuluoedd, teithwyr yn Ne Ddwyrain Lloegr, a'r rhai hynny sy'n gysylltiedig â'r lluoedd arfog.

Cardiau trên

Fel arfer, rhoddir cardiau trên ochr yn ochr â cherdyn llun. Rhaid i chi ddangos y ddau o'r rhain wrth brynu eich tocyn er mwyn cael gostyngiad.

Cerdyn Trên Pobl Ifanc

Mae'r rhain ar gael i bobl rhwng 16 a 25 oed a'r rhai hynny dros 26 oed sydd mewn addysg amser llawn. £24 yw cost y cerdyn, a chaiff deiliad y cerdyn 1/3 oddi ar brisiau llawer o docynnau trên

Cerdyn Trên i Bobl Anabl

Mae'r rhain ar gael i bobl anabl er mwyn i'r deiliad ac un cydymaith arbed 1/3 ar y rhan fwyaf o docynnau dosbarth safonol neu ddosbarth cyntaf. £18 yw cost cerdyn blwyddyn, a £48 yw cost cerdyn tair blwyddyn.

Cerdyn Trên i Bobl Hŷn

Mae'r rhain ar gael i bobl 60 oed a throsodd. £24 yw cost y cerdyn, a chaiff deiliad y cerdyn 1/3 oddi ar y rhan fwyaf o docynnau dosbarth safonol neu ddosbarth cyntaf.

Cerdyn Trên Rhwydwaith

Mae'r rhain ar gael i unrhyw un sy'n teithio ar drên yn Ne Ddwyrain Lloegr at ddibenion hamdden. £20 yw cost y cerdyn, a chaiff hyd at bedwar oedolyn 1/3 oddi ar brisiau llawer o docynnau trên, a 60 y cant oddi ar docyn plant i bedwar plentyn rhwng 5 a 15 oed. Ar gyfer teithiau'n ystod yr wythnos, rhaid i'r tocyn fod yn o leiaf £10.

Cerdyn Trên i Deulu & Ffrindiau

Mae'r rhain ar gael i unrhyw un er mwyn teithio ar reilffyrdd Prydain. £24 yw cost y cerdyn, ac mae'n galluogi hyd at bedwar oedolyn gael 1/3 oddi ar brisiau y rhan fwyaf o docynnau, a chaiff pedwar plentyn 60 y cant oddi ar y pris plant.

Cerdyn Trên i Aelodau'r Fyddin

Mae'r rhain ar gael i aelodau gweithredol o'r lluoedd arfog a'u priod ac unrhyw blant dibynnol. £15 yw cost y cerdyn, a chaiff deiliad y cerdyn 1/3 oddi ar brisiau y rhan fwyaf o docynnau.

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU