Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Diogelwch teithwyr ar y rheilffyrdd

Mae rhai pobl yn teimlo’n anniogel wrth deithio ar drên os bydd torf o bobl neu os byddant yn teithio gyda'r nos. Dylai’r awgrymiadau a gwybodaeth yma eich helpu i gwblhau eich taith gan deimlo'n ddiogel.

Diogelwch personol

Os byddwch yn teithio ar eich pen eich hun:

  • cadwch lygad ar eich bagiau
  • peidiwch â rhoi'ch waled yn eich poced ôl
  • os mai ymweld â'r ardal ydych chi, ceisiwch gadw'ch camera a'ch map o'r golwg cymaint ag y gallwch

Os byddwch yn teithio'n hwyr gyda'r nos:

  • edrychwch ar amserlenni fel na fydd raid i chi aros am drên yn hirach nag sydd raid
  • daliwch ati i edrych o'ch cwmpas er mwyn gwneud eich hun yn llai o darged i ladron
  • arhoswch mewn mannau sydd wedi’u goleuo’n dda
  • ceisiwch drefnu bod rhywun yn dod i'ch cyfarfod

Diogelwch ffôn symudol

Mae camau syml y gallwch eu cymryd er mwyn atal eich ffôn symudol rhag cael ei ddwyn, a cheir rhai dulliau o wneud eich ffôn yn anodd ei ddefnyddio os caiff ei ddwyn:

  • dylech osgoi siarad ar eich ffôn symudol wrth gerdded
  • cyn i chi estyn eich ffôn symudol yn gyhoeddus, edrychwch pwy sydd o'ch cwmpas a rhowch eich hun mewn safle a fydd yn ei gwneud yn anoddach i ladron gael gafael ar y ffôn
  • ceisiwch fod mewn man lle gall camerâu Teledu Cylch Cyfyng eich gweld
  • cadwch gofnod o fanylion eich ffôn symudol (ei rif cyfeirnod a'i rif PIN)
  • defnyddiwch y clo ar fysellbad eich ffôn bob amser
  • cofrestrwch eich ffôn symudol â'r darparwr gwasanaeth
  • rhowch wybod am ladrad i'r heddlu ac i ddarparwr gwasanaeth eich ffôn symudol cyn gynted ag sy'n bosib

Y Cynllun Gorsafoedd Diogel

Mae'r Cynllun Gorsafoedd Diogel yn darparu cymhelliant i gwmnïau trenau wella diogelwch a thawelu meddwl teithwyr a staff, ac mae'n delio â'r holl reilffyrdd a'r rheilffyrdd tanddaearol sy'n cael eu plismona gan Heddlu Trafnidiaeth Prydain.

Bydd gan orsafoedd achrededig y Cynllun Gorsafoedd Diogel rai, os nad y cyfan, o'r nodweddion canlynol:

  • paent gwrth-graffiti
  • camerâu cylch cyfyng (CCTV)
  • goleuo da
  • cynllun clir
  • mynedfeydd ac allanfeydd wedi'u marcio'n glir
  • arwyddion, mapiau ac amserlenni wedi'u harddangos yn glir
  • mannau cymorth i deithwyr
  • staff sydd wedi'u hyfforddi'n briodol

Hefyd dylent ymateb i ddigwyddiadau a chyfathrebu'n effeithiol gyda'r teithwyr, ac deithwyr i riportio trosedd.

Beth allwch chi ei wneud am droseddau ar y rheilffyrdd

Heddlu Trafnidiaeth Prydain yw'r heddlu cenedlaethol ar gyfer y rheilffyrdd. Byddant yn darparu gwasanaeth i gwmnïau trenau, eu staff a'u teithwyr ar draws Prydain.

Yn Llundain maent hefyd yn plismona'r Trenau Tanddaearol, rheilffyrdd bach y Dociau a Chyswllt Tramiau Croydon.

Os byddwch yn dyst i drosedd, neu'n dioddef trosedd eich hun, gallwch ffonio Heddlu Trafnidiaeth Prydain ar 0800 40 50 40, neu, os yw'n argyfwng, ffoniwch 999. Gellir cael mwy o wybodaeth am blismona gorsafoedd trên ar wefan Heddlu Trafnidiaeth Prydain.

Mae Gorchmynion Ymddygiad Gwrth-Gymdeithasol bellach ar waith, ac fe'u defnyddir i fynd i'r afael â phroblemau parhaus megis pobl sy'n gwerthu tocynnau am elw, lladron pocedi, cardotwyr a fandaliaid graffiti.

Ymchwilio i ddamweiniau rheilffyrdd

Y Gangen Ymchwilio i Ddamweiniau Rheilffyrdd (RAIB) sy'n gyfrifol am ymchwilio i ddamweiniau neu ddigwyddiadau ar reilffyrdd y DU. Corff annibynnol ydyn nhw sy'n ymchwilio er mwyn gwella diogelwch - ni fyddant yn beio neb. Yn ôl y gyfraith, rhaid i'r RAIB ymchwilio i'r holl ddamweiniau rheilffyrdd sy'n ymwneud a thrên yn mynd oddi ar y traciau neu wrthdrawiad sy'n achosi, neu a allant achosi:

  • marwolaeth o leiaf un person
  • anaf difrifol i bum person neu fwy
  • difrod mawr i'r cerbyd, i'r seilwaith neu i’r amgylchedd

Gall RAIB hefyd ymchwilio i ddigwyddiadau eraill sydd â goblygiadau o ran diogelwch rheilffyrdd, gan gynnwys y rhai hynny a allant fod wedi arwain at ddamwain dan amgylchiadau gwahanol.

Gwefan RAIB yw'r prif gyfrwng i ddosbarthu canfyddiadau o ymchwiliadau i ddamweiniau

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU