Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Hedfan a rheolau bagiau llaw

Mae mesurau diogelwch mwy llym ar waith yn holl feysydd awyr y DU, gyda rheolau llym ar beth y cewch fynd gyda chi yn eich bag llaw a beth na chewch fynd.

Mae'n bwysig gwybod y rheolau hyn fel y gallwch bacio yn unol â hwy ac osgoi unrhyw oedi wrth fynd drwy giatiau diogelwch y maes awyr.

Faint o fagiau llaw a gewch fynd gyda chi ar yr awyren?

Os nad ydych yn siŵr holwch eich cwmni hedfan gyntaf

Yn y rhan fwyaf o feysydd awyr y DU gallwch bellach fynd â mwy nag un bag llaw gyda chi ar yr awyren - daeth y rheolau hyn rywfaint yn llai llym ym mis Ionawr 2008.

Dyma’r meysydd awyr yr effeithir arnynt:

  • Aberdeen, Benbecula, Birmingham, Caergrawnt, Caerdydd, Dinas Derry
  • Dundee, Caeredin, Exeter, Farnborough, Filton, Gatwick
  • Maes Awyr George Best Dinas Belfast, Glasgow, Swydd Gaerloyw, Guernesy
  • Penarlâg, Heathrow, Humberside, Inverness, Islay, Ynys Manaw
  • Maes Awyr Rhyngwladol Caint, Kirkwall, Dinas Llundain, Manceinion, Newcastle, Norwich
  • Plymouth, Prestwick, Southampton, Southend, Stansted, Stornaway, Sumburgh
  • Warton, Wick

Fodd bynnag, mae gan rai cwmnïau hedfan eu cyfyngiadau eu hunain ar nifer yr eitemau bagiau llaw y cewch fynd gyda chi ar yr awyren. Holwch eich cwmni hedfan cyn i chi hedfan.

Pa mor fawr y gall bag llaw fod?

Y maint mwyaf posibl y gall eitem bag llaw fod yw 56cm x 45cm x 25cm. Ond unwaith eto, mae gan rai cwmnïau hedfan eu cyfyngiadau eu hunain, felly byddai'n ddefnyddiol eu holi nhw i ddechrau.

Ni chaniateir mynd ag eitemau o'r maint mwyaf posibl ar yr awyren ac mae'n rhaid eu cofrestru wrth y ddesg gyda'r bagiau eraill yr ydych yn eu cofrestru ac eithrio'r canlynol:

  • Pramiau, cymhorthion cerdded neu gadeiriau olwyn

  • Gallwch fynd â phramiau, cymhorthion cerdded a chadeiriau olwyn ar yr awyren, ond bydd angen iddynt gael eu sgrinio yn y giatiau diogelwch.
  • Offerynnau cerdd mawr

  • Efallai y bydd rhai cwmnïau hedfan yn gadael i chi gario offeryn cerdd fel ail eitem o fag llaw, ond bydd angen iddo gael ei sgrinio yn y giatiau diogelwch. Efallai y bydd yn rhaid i chi hefyd wneud trefniadau arbennig fel prynu sedd ychwanegol. Os ydych yn bwriadu teithio gydag offeryn cerdd mawr mae'n syniad da cadarnhau eich manylion gyda'r cwmni hedfan pan fyddwch yn archebu.

Beth na allwch ei gario yn eich bag llaw?

Hylifau

Lle bynnag y bo'n bosibl dylech bacio hylifau yn eich bagiau sydd wedi'u cofrestru, nid eich bag llaw. Y rheswm am hyn yw oherwydd bod cyfyngiadau ar faint o hylif y cewch fynd gyda chi ar yr awyren yn eich bag llaw.

Ystyrir y canlynol fel hylifau:

  • pob diod, gan gynnwys dŵr, cawl a syrypau
  • colur a phethau ymolchi, gan gynnwys hufenau, trwythau, olewau, persawrau, masgara a minlliw
  • chwistrellau, gan gynnwys hufen eillio, chwistrell gwallt a diaroglydd chwistrell
  • pastau, gan gynnwys past dannedd
  • geliau, gan gynnwys gel gwallt a gel cawod
  • toddiant lensys cyffwrdd
  • unrhyw doddiannau ac eitemau eraill o'r un ansawdd
  • tanwyr

Os bydd angen rhai hylifau arnoch yn ystod y daith, gallwch fynd â nhw ar yr awyren ond dim ond mewn mesurau cyfyngedig, fel a ganlyn:

  • gallwch gario mesurau bach o hylifau mewn cynhwysyddion na allant ddal mwy na 100ml
  • ni chaniateir mynd â chynhwysyddion sy'n gallu dal mwy na 100ml, hyd yn oed os nad ydynt yn llawn
  • mae'n rhaid cario'r cynhwysyddion mewn un bag plastig, tryloyw, y gellir ei ail-selio, ac na all ddal mwy na litr ac yn tua 20cm x 20cm
  • mae'n rhaid i'r cynnwys ffitio yn gyfforddus y tu mewn i'r bag plastig fel y gellir ei selio
  • dim ond un o'r bagiau hyn y gall bob teithiwr ei gario

Tanwyr

Ystyrir tanwyr fel hylifau a gellir eu rhoi mewn bag plastig neu eu sgrinio ar wahân, ar yr amod eu bod yn ffitio yn y bag. Ni ddylech roi taniwr y tu mewn i'ch bag llaw - dylech ei gadw arnoch drwy gydol y daith. Ni chaniateir mynd â thanwyr yn eich bagiau sydd wedi'u cofrestru.

Meddyginiaethau hanfodol, gan gynnwys mewnanadlwyr

Fe'ch caniateir i gario meddyginiaethau hanfodol gyda chi ar yr awyren. Efallai y gofynnir i chi ddilysu eich meddyginiaeth yn y giatiau diogelwch. Gallai hyn olygu ei flasu neu ei roi ar eich croen.

Os bydd angen i chi gario meddyginiaethau hanfodol dros 100ml, bydd angen i chi gael dogfennau ategol gan weithiwr meddygol proffesiynol perthnasol (llythyr gan eich meddyg, er enghraifft) a chaniatâd gan y cwmni hedfan ymlaen llaw. Mae hyn yn berthnasol i bob meddyginiaeth - o ffisig at beswch i inswlin.

Cofiwch mai dim ond yr hyn fydd ei angen arnoch ar gyfer y daith y dylech roi yn eich bag llaw. Gall cyflenwadau ychwanegol a/neu gynhwysyddion mwy fynd i'ch bagiau sydd wedi'u cofrestru.

Bwyd babi a photeli

Gallwch fynd â bwyd babi hylifol neu ddŵr wedi'i sterileiddio ar yr awyren yn eich bag llaw. Fe'ch caniateir i fynd â digon ar gyfer y daith - mewn rhai achosion gallai hyn fod yn fwy na 100ml. Gellir gofyn i'r oedolyn sy'n cario'r bwyd babi neu'r dŵr ei ddilysu drwy ei flasu.

Nwyddau a brynir yn y maes awyr

Gallwch fynd ag unrhyw beth y byddwch yn ei brynu ar ôl mynd drwy'r giatiau diogelwch ar yr awyren gyda chi. Mae hyn yn cynnwys dŵr potel, gwinoedd a gwirodydd, persawrau a cholur o unrhyw faint.

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU