Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Gwasanaethau bws

Yma, gallwch ddod o hyd i'ch gwasanaeth bws agosaf, y mathau o docynnau y gallwch eu prynu a sut i osgoi cael tocyn teithio cosb yn Llundain. Gallwch hefyd gael gwybod sut i logi bws moethus neu fws cymunedol.

Mathau o gynlluniau tocynnau lleol

Yn dibynnu ar ble rydych yn byw yn y DU, mae'n bosibl bod nifer o wahanol fathau o docynnau bws ar gael, o docynnau ar gyfer teithiau unigol i gardiau diwrnod, wythnos a mis, cardiau i fyfyrwyr neu gardiau i bobl dros 60.

Dod o hyd i'ch gwasanaeth bws lleol

Gallwch ddod o hyd i'ch gwasanaeth bws agosaf pan fyddwch yn cynllunio'ch siwrnai gan ddefnyddio'r cynlluniwr siwrnai ar-lein.

Osgoi cael tocyn teithio cosb yn Llundain

Yng nghanol Llundain, mae'n rhaid i chi brynu'ch tocynnau o beiriannau mewn arosfannau bysiau cyn i chi fynd ar y bws. Oni fyddwch yn prynu tocyn sy'n ddilys ar gyfer y daith gyfan, mae'n bosibl y byddwch yn cael tocyn cosb yn y fan a'r lle neu orfod rhoi eich manylion cyswllt ar gyfer cael dirwy.

Ceir gwybodaeth ynghylch pob gwasanaeth drafnidiaeth gyhoeddus yng nghanol Llundain ar wefan Transport for London (TfL).

Llogi bws moethus

Mae rhai cwmnïau'n llogi bysiau moethus ar gyfer defnydd preifat. Gallwch chwilio ar wefan Urdd Cwmnïau Bysiau Moethus Prydain am gwmnïau bysiau moethus.

Bysiau cymunedol/bysiau mini

Ceir nifer o gynlluniau bws sy'n cael eu rhedeg gan fudiadau gwirfoddol neu ddi-elw ac sy'n anelu at helpu pobl i deithio yn rhad ac yn hwylus. Maent yn rhedeg dan hawlenni arbennig sy'n golygu nad oes rhaid iddynt lynu wrth lawer o'r rheolau cerbydau gwasanaeth cyhoeddus arferol. Ceir mwy o wybodaeth ar sut y gellir cael hawlenni ar wefan Yr Asiantaeth Gwasanaethau Cerbydau a Gweithredwyr (VOSA).

Gallwch gysylltu â'ch cyngor lleol am fwy o wybodaeth am fysiau cymunedol yn eich ardal.

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU