Mae bysiau'n ffordd wych o deithio o gwmpas, ond mae camau penodol y dylech eu cymryd i sicrhau eich diogelwch wrth deithio, yn enwedig os byddwch yn teithio gyda'r nos neu ar eich pen eich hun.
Os byddwch yn teithio ar eich pen eich hun:
Os byddwch yn teithio'n hwyr gyda'r nos:
Mae rhagofalon syml y gallwch eu cymryd er mwyn eich atal rhag dioddef trosedd, a cheir rhai dulliau o wneud eich ffôn yn anodd ei ddefnyddio os caiff ei ddwyn:
Gall troseddau ar fysiau amrywio o ymosodiadau ac ymddygiad gwrthgymdeithasol i fandaliaeth a phroblemau eraill megis ymddygiad plant ysgol ar fysiau ysgol.
Mae'r diwydiant bysiau, ynghyd â'r Adran Drafnidiaeth, yn helpu i fynd i'r afael â throseddau o'r fath, nid yn unig drwy osod larymau a sgriniau amddiffyn o amgylch gyrwyr a Theledu Cylch Cyfyng mewn bysiau, ond hefyd drwy hyfforddi staff i ddelio ag unrhyw achosion yn effeithiol.
Er bod troseddau yn erbyn teithwyr yn brin ar fysiau, os byddwch yn dioddef trosedd neu'n dyst i un dylech ffonio'r heddlu. Mewn argyfwng, ffoniwch 999.
Mae’r heddlu’n gyfrifol am ymchwilio i bob damwain traffig ar y ffordd.
Os yw'r heddlu'n dweud ei bod yn bosib y bu i ddamwain gael ei hachosi gan nam a ddigwyddodd o ganlyniad i ddiffyg cynnal a chadw, yna gall yr Asiantaeth Gwasanaethau Cerbydau a Gweithredwyr (VOSA) ymchwilio i'r ddamwain.
Os deuir i'r casgliad mai nam yng nghynllun neu wneuthuriad y cerbyd a achosodd y ddamwain, bydd VOSA yn gofyn i'r gwneuthurwr alw'r cerbyd yn ôl oherwydd rhesymau diogelwch.