Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Tocynnau mantais a theithio ar fysiau am ddim

Os ydych chi'n 60 oed neu'n hŷn neu'n 'anabl gymwys', efallai bod gennych hawl i deithio am ddim ar fysiau lleol ar adegau tawel yn unrhyw le yn Lloegr. Mae awdurdodau lleol hefyd yn cynnig consesiynau i blant a phobl ifanc.

Teithio ar fws am ddim wedi ei ymestyn yn Lloegr ar gyfer rhai sydd dros 60 oed a phobl anabl

Ers Ebrill 2006 bu gan y rhai sy'n byw yn Lloegr ac sydd:

  • dros 60 neu
  • yn 'anabl gymwys'

hawl i gael cerdyn bws blynyddol am ddim a fydd yn gadael iddynt deithio am ddim ar fysiau ar adegau tawel yn ardal yr awdurdod lleol lle maent yn byw. 'Adegau tawel' yw unrhyw adeg ar ôl 9.30 am rhwng dydd Llun a dydd Gwener, a drwy'r dydd ar benwythnosau.

Ers 1 Ebrill 2008, mae hyn wedi cael ei ymestyn i gynnwys teithio am ddim ar fysiau lleol yn ystod adegau tawel yn unrhyw le yn Lloegr.

Bydd awdurdodau lleol yn dal i allu cynnig manteision eraill i'w preswylwyr, megis teithio am ddim ar amseroedd heblaw adegau tawel, neu deithio ar drên neu dram am bris gostyngedig, ond dim ond yn eu hardal leol y bydd y manteision hyn ar gael ac nid ledled Lloegr.

Teithio am ddim ar fysiau yn Llundain i blant a phobl ifanc

Yn Llundain, caiff pawb sydd o dan 16 deithio am ddim ar fysiau a thramiau. Mae hyn yn cynnwys y rhai sy'n byw yno a'r rhai nad ydynt yn byw yno. Bydd angen i blant sydd rhwng 14 a 15 oed gael cerdyn llun Oyster er mwyn manteisio ar y cynnig.

Caiff pobl ifanc sydd rhwng 16 a 17 oed (a rhai sy'n 18 oed) sydd mewn addysg amser llawn neu sydd ar gynllun dysgu seiliedig ar waith ac sy'n byw yn un o fwrdeistrefi Llundain deithio am ddim ar fysiau a thramiau ar draws rhwydwaith bysiau Llundain i gyd, gan gynnwys adrannau y tu allan i Lundain Fwyaf. Bydd arnoch angen cerdyn llun Oyster dilys er mwyn gallu teithio am ddim.

Gellir dod o hyd i wybodaeth am sut i gael cerdyn llun Oyster ar wefan Transport for London (TfL).

Prisiau gostyngedig eraill

Bydd tocynnau bws am bris gostyngol, neu docynnau mantais bws, weithiau ar gael ar gyfer y canlynol:

  • pobl ifanc dan 18 oed
  • myfyrwyr mewn addysg amser llawn

Mae rhai cwmnïau hefyd yn gadael i'r canlynol deithio ar fysiau moethus am hanner y pris:

  • pobl dros 60 oed
  • teithwyr anabl

Bydd gan eich awdurdod lleol fanylion am gynlluniau trafnidiaeth leol yn eich ardal - gallwch gysylltu â hwy drwy eich cyngor lleol.

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU