Oes gennych chi gŵyn am wasanaethau bws, am orsafoedd bws, arosfannau bws neu lochesi bws? Os oes, cewch wybod yma pwy y dylech gysylltu â nhw a sut i gwyno.
Os oes gennych gŵyn am wasanaeth bws, dylech ysgrifennu at y cwmni i ddechrau, gan roi cymaint ag y bo modd o fanylion am y daith, ac os oes modd, cynnwys y tocyn.
Os ydych yn dal i fod yn anhapus ar ôl hynny, gallwch fynd at y corff perthnasol sy'n delio â chwynion.
Llundain, Yr Alban a Gogledd Iwerddon
Mewn rhai mannau penodol o'r DU gall y cyrff cwynion statudol canlynol ddelio â chwynion am wasanaethau bws:
Gallant eich helpu gyda'r agweddau masnachol, megis prisiau tocynnau a lefelau gwasanaeth, tocynnau, amserlenni a llwybrau bysiau.
Lloegr (y tu allan i Lundain) a Chymru
Ar gyfer Lloegr (y tu allan i Lundain) a Chymru, dylid anfon cwynion at y Corff Apeliadau Bysiau. Efallai y gallant hwy helpu i ddatrys cwynion am ddiffyg dibynadwyedd, prydlondeb, ymddygiad staff neu wybodaeth wael. Fodd bynnag, yn wahanol i'r cyrff yn Llundain, yr Alban a Gogledd Iwerddon, ni allant eich helpu gyda'r agweddau masnachol.
Gall y Corff Apeliadau Bysiau hefyd ddelio â chwynion o rannau eraill o'r DU sydd y tu allan i'r cylch o gyrff a sonnir amdanynt uchod, megis gwasanaethau bws moethus.
Os na fydd cwmni'n fodlon darparu neu barhau i redeg gwasanaeth oherwydd nad oes digon o deithwyr yn ei ddefnyddio, efallai y gall eich cyngor lleol neu'r Weithrediaeth Cludiant Teithwyr helpu.
Gellir cwyno am safon cwmnïau bysiau, yn enwedig yn ymwneud â:
Gellir cwyno hefyd wrth gomisiynydd traffig yr ardal draffig berthnasol, neu wrth yr Asiantaeth Gwasanaethau Cerbydau a Gweithredwyr (VOSA).
Os ydych am gwyno am loches, arosfan neu orsaf bysiau, cysylltwch ag adran drafnidiaeth eich awdurdod lleol (gallwch gysylltu â nhw trwy eich cyngor lleol).