Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Gwybodaeth am deithio

Yma, cewch wybod sut mae'r traffig yn symud ar y ffordd y bwriadwch fynd arni, a gweld a oes unrhyw waith ffordd yn cael ei wneud arni.

Gwybodaeth am draffig yn Lloegr - yn fyw

Cynlluniwch ymlaen llaw a chael manylion am y canlynol:

  • digwyddiadau o ran traffig ar y pryd
  • ffyrdd neu gyffyrdd sydd wedi eu cau
  • digwyddiadau o bwys a allai achosi tagfeydd
  • gwaith wedi ei drefnu ar y ffordd

Mae Traffic England yn darparu gwybodaeth am draffig ar-lein yn fyw a llinell ffôn gwybodaeth am drafnidiaeth yn y fan a'r lle ar 08700 660 115.

Gwybodaeth am draffig yn Llundain - yn fyw

Mae gwefan Transport for London (TfL) yn dangos gwybodaeth am waith ffordd, tagfeydd a digwyddiadau cyfredol, ac unrhyw beth a allai darfu ar draffig heddiw neu yn y saith niwrnod nesaf.

Gallwch hefyd weld pa mor hir y bydd prosiectau ffordd sydd wedi'u trefnu yn para ac ar ba adegau o'r dydd y bydd gwaith yn digwydd.

Mae'r wefan hefyd yn dangos lleoliadau camerâu CCTV a lluniau o amgylchiadau cyfredol traffig.

Prosiectau mawr ar y ffyrdd

Cewch wybod mwy am brosiectau ffordd sydd wedi'u trefnu, prosiectau sydd ar y gweill, neu wedi'u cwblhau gan yr Asiantaeth Priffyrdd, gan gynnwys gwybodaeth am beth sy'n cael ei wneud a faint o amser y bydd hynny'n ei gymryd. Gallwch hefyd danysgrifio i dderbyn rhybuddion yn ymwneud â statws prosiectau arbennig ar eich ffôn symudol.

Teithio ar adegau prysur

Efallai y byddwch am adael amser ychwanegol ar gyfer teithiau poblogaidd ar adegau prysur, fel teithiau i'r arfordir ym mis Awst neu deithiau i'r arfordir neu i gefn gwlad ar ŵyl banc.

Cofiwch fod llawer o ddarparwyr trafnidiaeth gyhoeddus yn cynnig gwasanaeth mwy cyfyngedig ar ddydd Sul ac ar wyliau banc

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU