Cynlluniwr siwrnai
Cynlluniwch eich taith o ddrws i ddrws, i unrhyw le yng Ngwledydd Prydain, gyda'r cynlluniwr siwrnai ar-lein hwn. Mae’r cynlluniwr siwrnai’n eich helpu i ddod o hyd i'r llwybr cyflymaf o A i B ar drafnidiaeth gyhoeddus, mewn car neu drwy gerdded ac mae’n cynnwys yr holl wybodaeth ychwanegol sydd ei angen arnoch.
Eich holl ddewisiadau teithio - i gyd yn yr un lle
Mae’r cynlluniwr siwrnai'n darparu’r canlynol i chi:
- amryw o lwybrau ar gyfer yr un daith
- amseroedd teithio - gan gynnwys teithiau mewn car ac amseroedd cerdded
- cysylltiadau trên a bws
- prisiau tocynnau - gyda dolenni i wefannau lle gellir eu prynu
Defnyddio'r cynlluniwr
Defnyddiwch y cynlluniwr er mwyn:
- canfod gwasanaethau bysiau a threnau lleol
- cynllunio'ch taith orau i'r gwaith
- darganfod llwybr arall er mwyn osgoi gwaith ffordd
- dangos y ffordd gyflymaf i gyrraedd y maes awyr
Mae’n rhwydd:
- teipio'ch man cychwyn
- teipio pen eich taith
- dewis sut yr hoffech chi deithio