Dylai pob gyrrwr, beiciwr modur, seiclwr a pherson ar gefn ceffyl ddarllen yr adran hon. Nid yw’r rheolau yn y llyfryn hwn yn rhoi’r hawl i chi o dan unrhyw amgylchiadau; maent yn eich cynghori pryd y dylech ildio i bobl eraill. Ildiwch bob amser os bydd yn help i osgoi digwyddiad.