Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Cymorth wrth deithio

Wrth deithio mae adegau y bydd angen cymorth arnoch - naill ai am fod gennych anaf neu anabledd, neu am fod gennych fagiau trwm, pram/coets neu sgwter i symud o gwmpas. Cynlluniwch eich siwrnai yn ofalus i sicrhau eich bod yn cael y cymorth sydd angen arnoch.

Cyn i chi deithio

  • cynlluniwch y daith yn ofalus
  • ceisiwch ganfod a oes grisiau ar y daith ai peidio
  • holwch a fydd gweithwyr i'ch helpu yn yr orsaf pan fyddwch chi'n teithio
  • rhowch wybod i staff gorsafoedd pryd y byddwch yn cyrraedd (maent yn hapus i helpu ond dylid rhoi gwybod iddynt o leiaf 24 awr ymlaen llaw ynghylch pa fath o gymorth bydd ei angen arnoch)

Cofiwch:

  • bydd angen i chi wneud cynlluniau teithio pendant a glynu atynt er mwyn i’r staff gwybod pryd y byddwch yn cyrraedd
  • os oes gennych fagiau trwm, neu os ydych chi'n defnyddio cadair olwyn, dylech fod yn ymwybodol na all staff eich codi chi na'ch bagiau
  • gellir gwrthod cymorth os bydd hynny'n eich rhoi chi neu staff y cwmni mewn pery

Pwyntiau cymorth

Mae gan nifer o orsafoedd trenau a gorsafoedd tanddaearol lefydd ar y platfform sy'n cynnig cymorth. Gallant eich helpu â gwybodaeth yn ymwneud â'r trenau sy'n rhedeg, cysylltiadau trenau, ac adfer eiddo coll.

Gallwch ddefnyddio'r pwyntiau cymorth hyn i roi gwybod am sefyllfaoedd brys neu unrhyw beth yr ydych yn amheus ohono, drwy ddefnyddio'r botwm brys i siarad â chysylltydd, sydd â chyswllt uniongyrchol â'r gwasanaethau brys a'r gallu i gynnig cymorth.

Cyfleusterau'r gorsafoedd

Nid oes pwyntiau cymorth a thoiledau ym mhob gorsaf, felly awgrymir eich bod yn holi pa gyfleusterau sydd ar gael yn y gorsafoedd sydd ar eich siwrnai chi cyn i chi deithio.

Mae gwefan Ymholiadau National Rail yn rhoi manylion am y cyfleusterau sydd mewn gorsafoedd ledled Prydain, o ffonau talu, lifftiau, cyfleusterau newid clwt babi, a Theledu Cylch Cyfyng i fagiau sydd wedi cael eu gadael.

Gwybodaeth am drafnidiaeth a chymorth i deithwyr anabl

Gellir cael amrywiaeth o wybodaeth yn ymwneud â thrafnidiaeth i bobl anabl a modurwyr yn adran 'pobl anabl' Directgov.

Cewch wybod am drefniadau arbennig ar gyfer teithwyr anabl neu deithwyr sy'n cael anhawster i symud o ran teithio â thrên neu fysiau moethus dan 'Trafnidiaeth gyhoeddus a chymunedol'.

Allweddumynediad llywodraeth y DU