Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Cerdded i'r gwaith neu i'r ysgol

Gall cerdded fod yn ffordd ardderchog o ddod i wybod mwy am ardal, gwella'ch ffitrwydd, amddiffyn yr amgylchedd ac arbed arian.

Y manteision

Mae manteision cerdded yn cynnwys:

  • iechyd - gall cerdded yn rheolaidd leihau'r risg o lawer o broblemau iechyd megis clefyd coronaidd y galon, strôc, pwysedd gwaed uchel, pryder a straen
  • ansawdd bywyd - gall cerdded eich helpu i gadw'ch pwysau dan reolaeth, gwella'ch stamina, rhoi mwy o egni i chi, meithrin eich hyder yn ogystal â bod yn help i chi fyw'n hwy
  • hwylustod - fe allwch chi gerdded i'r rhan fwyaf o lefydd unrhyw bryd; gallwch hefyd ddechrau'n araf bach a gwneud mwy fesul tipyn
  • cost - mae cerdded yn rhad ac am ddim ac nid oes angen offer arbenigol arnoch chi

Mae gan wefan Cymdeithas y Cerddwyr adran ar eu rhaglen Get Walking Keep Walking, sy'n cynnwys cynllun cerdded am 12 wythnos a gwybodaeth am gerdded mewn dinasoedd ledled Lloegr.

Aros yn ddiogel

Mae 'na ychydig o reolau syml i gerddwyr sy’n gallu eich cadw yn ddiogel. Am fwy o wybodaeth edrychwch ar Reolau'r Ffordd Fawr, sy'n cynnwys rheolau ar gyfer cerddwyr. Hefyd, gellir cael gwybodaeth manwl am ddiogelwch ar y ffordd ar wefan Think! Road Safety.

Mae Hedgehogs, y wefan diogelwch ar y ffordd i blant, yn esbonio’r Rheolau’r Groes Werdd.

Dod o hyd i'r amser

Os ydych yn byw yng nghefn gwlad neu'n byw gerllaw cefn gwlad, bydd gennych lawer o gyfleoedd i gerdded. Mewn tref, efallai na fydd gennych gymaint o gyfleoedd, ac efallai y bydd angen i chi wneud mwy o ymdrech i ddod o hyd i'r amser i gerdded. Lle bynnag rydych chi'n byw, ceisiwch ddod â cherdded i'ch trefn arferol bob dydd. Er enghraifft:

  • ewch am dro amser cinio - gall hyn roi hwb i'ch egni ar gyfer y prynhawn
  • cerddwch i'r ysgol yn hytrach na gyrru yno
  • ewch oddi ar y trên, y bws neu'r tiwb un stop yn gynt nag arfer
  • cerddwch i'r siop bapur neu i swyddfa'r post yn hytrach na defnyddio'r car
  • cerddwch i fyny'r grisiau, yn hytrach na defnyddio lifft

Cerdded i'r ysgol

Bydd cerdded i'r ysgol yn gwella iechyd plant ac yn eu galluogi i deithio'n annibynnol - ond mae eu diogelwch yn hollbwysig. Ar gyfer plant nad ydynt am gerdded i'r ysgol, neu nad ydynt yn barod i gerdded ar eu pennau eu hunain, ceir sawl dewis arall. Mae'r cynllun Bws Cerdded, er enghraifft, yn galluogi plant i gerdded i'r ysgol yn ddiogel, mewn grwpiau sy'n cael eu goruchwylio (gweler isod am ragor o wybodaeth).

Os yw'n rhy bell i gerdded, efallai bydd eich plentyn yn gymwys i gael cludiant i'r ysgol am ddim. Ceir mwy o fanylion am gynlluniau cludiant i'r ysgol am ddim i blant yn adran Addysg a dysgu'r safle hwn.

Ymgyrch Cerdded i'r Ysgol

Mae'r Ymgyrch Cerdded i'r Ysgol yn annog disgyblion i gerdded i'r ysgol yn amlach. Mae'r ymgyrch, sy'n cael ei gefnogi gan yr Adran Drafnidiaeth, yn cynnwys y cynllun poblogaidd Walk on Wednesday (WOW), sy'n helpu i hyrwyddo cerdded rheolaidd ymysg disgyblion.

Gall plant, rhieni, athrawon ysgol ac arweinwyr cymunedol hefyd gymryd rhan yn yr Wythnos Cerdded i'r Ysgol, fel arfer yn cael ei ddal ym mis Mai, a Mis Cerdded i'r Ysgol, sydd ym mis Hydref 2008. Mae'r rhain yn gyfleoedd gwych i gymryd rhan mewn digwyddiadau sy'n hyrwyddo manteision cerdded.

Bysiau cerdded

Mae'r cysyniad Bws Cerdded yn ddull newydd, diogel, iach ac eco-gyfeillgar o gerdded grwpiau mawr o blant yn ôl ac ymlaen i'r ysgol.

Ar bob bws cerdded bydd oedolyn yn chwarae rhan y 'gyrrwr' yn y pen blaen ac oedolyn hefyd yn chwarae rhan y 'tywysydd' yng nghefn y bws. Bydd y plant yn cerdded i'r ysgol mewn grŵp ar hyd llwybr penodol gan godi 'teithwyr' ychwanegol o 'arosfannau bws' penodol ar y daith. Bydd y bws yn teithio ym mhob tywydd a bydd pawb yn gwisgo siaced adlewyrchol.

Mae pob bws cerdded yn wahanol gan y'u datblygir i fod yn addas i anghenion y plant a'u rhieni. Bydd sawl bws cerdded mewn rhai ysgolion ac efallai mai un bws fydd mewn ysgolion eraill. Trefnir bod rhai bysiau cerdded yn mynd ar ddyddiau penodol yn unig, tra bydd bysiau cerdded eraill yn mynd naill ai yn y bore neu yn y prynhawn.

A hoffech gael gwybodaeth am sefydlu bws cerdded yn eich ysgol chi?

Yn yr adran hon...

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU