Diogelwch ar gefn beic
Dylai seiclo fod yn hwyl, ond dylai fod yn ddiogel hefyd. Gall dilyn ychydig o reolau syml o ran diogelwch ar y ffyrdd eich cadw allan o drwbwl ar y ffyrdd.
Cynnal a chadw eich beic
Rhaid i chi gynnal a chadw’ch beic yn dda. Edrychwch ar eich beic yn rheolaidd i sicrhau:
- bod y goleuadau a'r adlewyrchyddion yn cael eu cadw'n lân a'u bod yn gweithio'n iawn
- bod y teiars mewn cyflwr da ac wedi'u pwmpio i'r pwysau a ddangosir ar y teiar
- bod y gêrs yn gweithio'n iawn
- bod y gadwyn wedi'i haddasu a'i hiro'n gywir
- bod y cyfrwy a'r bariau llywio wedi'u haddasu i'r uchder iawn
- bod eich brêcs yn gweithio'n dda
Diogelwch ar gefn beic i blant
Mae ennyn diddordeb plant mewn seiclo pan fyddant yn ifanc yn ffordd wych o'u hannog i gadw'n heini. Er mai pobl ifanc rhwng 11 a 15 oed yw'r mwyaf diymgeledd ar y ffyrdd, dim ond un rhan o dair o blant sy'n dilyn cwrs hyfforddiant seiclo, ac yn aml iawn, bydd hynny pan fyddant yn iau.
Mae'n bwysig bod gan bobl ifanc, beth bynnag yw eu hoedran, wybodaeth sylfaenol am ddiogelwch ar y ffyrdd a'u bod yn cael rhywfaint o hyfforddiant priodol cyn seiclo ar y ffyrdd.
Gallwch gael rhagor o wybodaeth ar y wefan ymgyrch Think.
Hyfforddiant ar feic
Bydd angen i bob seiclwr, boed yn brofiadol ynteu'n ddechreuwr, wybod y sgiliau sylfaenol ar gyfer seiclo ar y ffyrdd. Hefyd dylent fod yn ymwybodol o sut y bydd Rheolau'r Ffordd Fawr yn berthnasol iddyn nhw.
Bydd Safon Genedlaethol tair lefel mewn Hyfforddiant Seiclo yn darparu'r holl sgiliau sy'n angenrheidiol er mwyn seiclo'n ddiogel ar y ffordd ac oddi ar y ffordd. Er bod yr hyfforddiant yn cael ei anelu at blant mae yr un mor berthnasol i oedolion. Dyma’r lefelau:
- Lefel 1, 7-8 oed: sgiliau seiclo sylfaenol ac ar gyfer dechreuwyr - cynhelir yr hyfforddiant oddi ar y ffordd; dysgir plant sut mae rheoli a thrin y beic a chydbwyso arno
- Lefel 2, 9-10 oed: cyflwyniad i seiclo ar y ffordd - cynhelir yr hyfforddiant mewn grwpiau ar ffyrdd tawel; bydd plant yn dysgu sut i leoli eu hunain wrth seiclo ar y ffordd a sut i gadw golwg ar draffig, rhoi arwydd, troi/llywio'n ddiogel. Yn cynnwys dealltwriaeth sylfaenol o Reolau'r Ffordd Fawr
- Lefel 3, 11-12 oed: seiclo lefel uwch - cynhelir yr hyfforddiant ar ffyrdd prysurach; dysgir plant sgiliau sy'n angenrheidiol ar gyfer gwneud teithiau hirach ac er mwyn datblygu strategaethau fel y gellir delio â phob math o amgylchiadau a wynebir wrth fynd ar y ffyrdd - megis cylchfannau, goleuadau traffig a ffyrdd aml-lôn
Ar hyn o bryd, mae'r Adran Drafnidiaeth a Cycling England yn buddsoddi tua £5m y flwyddyn ar annog plant i seiclo i'r ysgol. Y nod yw y bydd 50 y cant o blant ysgol yn gallu cael hyfforddiant seiclo o fewn 3 blynedd. Mae'r cyllid yn cael ei wario ar:
- hyfforddiant seiclo mewn ysgolion
- hyfforddwyr seiclo
- llwybrau i'r ysgol sy'n cadw oddi ar y ffyrdd
- cynlluniau hyfforddiant seiclo sy'n cael eu cynnal gan CTC (sefydliad cenedlaethol seiclwyr) (Bike It) a British Cycling (Go Ride)
I ddod o hyd i hyfforddwr achrededig yn eich ardal, ffoniwch Linell Gymorth Hyfforddiant Seiclo Cenedlaethol ar 0870 607 0415. Ceir rhestr o hyfforddwyr ar wefan CTC hefyd.
Cynghorion diogelwch sylfaenol
Dilynwch y cynghorion diogelwch sylfaenol hyn i gadw’n ddiogel ar y ffordd:
- dilynwch gwrs hyfforddiant a chadwch eich beic dan reolaeth
- gwisgwch helmed
- gwnewch yn siŵr bod pobl yn eich gweld ac yn eich clywed
- archwiliwch eich beic
- byddwch yn effro a chynlluniwch eich taith
- peidiwch â thorri’r gyfraith
Mae Rheolau’r Ffordd Fawr yn hanfodol i bawb sy'n defnyddio'r ffordd, gan gynnwys seiclwyr. Mae'n egluro'r deddfau y mae'n rhaid i seiclwyr ufuddhau iddynt, ac yn rhoi rhagor o wybodaeth am ddefnyddio'r ffordd yn ddiogel.
Cynghorion am gadw'ch beic yn ddiogel
Dilynwch y cynghorion hyn i gadw'ch beic yn ddiogel:
- peidiwch â gadael eich beic mewn llefydd unig
- parciwch eich beic yn ddiogel ac mewn man lle na fydd yn peri perygl neu rwystr i bobl eraill - yn enwedig i bobl hŷn, plant ifanc neu bobl ag anableddau
- cofiwch gloi'r beic bob tro wrth ei adael, hyd yn oed am ychydig funudau
- rhowch eich beic yn sownd wrth stondin iawn neu wrth ddodrefn stryd solet
- rhowch glo'r beic drwy'r ffrâm, nid yr olwynion
- gwnewch yn siŵr bod yr olwynion yn ddiogel neu tynnwch nhw
- tynnwch ddarnau llai a phethau ychwanegol nad oes modd eu cloi, yn enwedig goleuadau, pympiau a chyfrwyon y gellir eu tynnu'n hawdd
A chofiwch, mae dros 50 y cant o feiciau sy'n cael eu dwyn yn cael eu dwyn o gartref y perchennog – felly efallai y byddwch am roi eich beic dan glo pob amser.