Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Pleidleisio a chynrychiolwyr

Os ydych am bleidleisio mewn etholiad neu refferendwm yn y DU, mae’n rhaid i’ch enw fod ar y gofrestr etholiadol. Ni fyddwch yn cael eich cofrestru’n awtomatig, a bydd yn rhaid i chi adnewyddu’ch manylion bob blwyddyn. Cewch yma wybod pwy sy'n gymwys, a sut mae gwneud yn siŵr eich bod wedi'ch cofrestru i bleidleisio.

Y gofrestr etholiadol

Rhestr o enwau a chyfeiriadau pawb sydd wedi cofrestru i bleidleisio yw’r gofrestr etholiadol. Fe’i defnyddir hefyd gan asiantaethau ymholiadau credyd i gadarnhau’ch manylion ac atal twyll. Ar ôl cofrestru, byddwch yn gallu pleidleisio mewn gwahanol fathau o etholiad, yn dibynnu ar ble yr ydych yn byw:

  • Senedd y DU
  • Senedd Ewrop
  • llywodraeth leol

Senedd yr Alban, Cynulliad Cenedlaethol Cymru neu Gynulliad Gogledd Iwerddon os ydych chi’n byw yn yr ardaloedd hynny

Pwy sy’n cael cofrestru i bleidleisio

Cewch gofrestru i bleidleisio os ydych chi’n 16 oed neu’n hŷn ac yn un o ddinasyddion Prydain, Iwerddon, y Gymanwlad neu’r Undeb Ewropeaidd.

Ceir gwybodaeth am ddyddiadau etholiadau ac ym mha etholiadau y gallwch chi bleidleisio ynddynt ar wefan Fy Mhleidlais I neu o’ch swyddfa cofrestru etholiadol leol.

Os ydych chi’n 16 neu’n 17 oed, cewch gofrestru’n awr ond ni chewch bleidleisio nes byddwch yn 18.

Pwy gaiff ddefnyddio’ch manylion

Ceir dwy fersiwn o’r gofrestr etholiadol:

  • dim ond ar gyfer etholiadau, i atal a chanfod troseddau, a gwirio ceisiadau am gredyd y defnyddir y ‘gofrestr lawn’
  • mae’r ‘gofrestr olygedig’ ar gael ar gyfer ei gwerthu’n gyffredinol, a gellir ei defnyddio at ddibenion marchnata a gweithgareddau masnachol eraill

Bydd eich enw a’ch cyfeiriad yn ymddangos ar y gofrestr lawn, ond gallwch ddewis a ydych yn dymuno ymddangos ar y gofrestr olygedig ai peidio.

Hefyd gellir defnyddio’r gofrestr etholiadol i ddewis pobl ar hap ar gyfer gwasanaeth rheithgor.

Cofrestru’n flynyddol rhwng mis Awst a mis Tachwedd

Bydd y rhan fwyaf o bobl yn cofrestru neu’n ailgofrestru rhwng mis Awst a mis Tachwedd bob blwyddyn, pan fydd y cyngor lleol yn anfon ffurflen gofrestru i’ch cartref. Gelwir hyn yn ‘gofrestriad blynyddol’.

Yn ôl y gyfraith, mae'n ofynnol i chi ddychwelyd y ffurflen hon, hyd yn oed os nad oes newid iddi neu os nad oes neb yn gymwys i bleidleisio yn eich cyfeiriad chi. Dylai’r ffurflen hon restru'r holl bobl a fydd yn byw yn eich cyfeiriad ar 15 Hydref ac sy'n gymwys i bleidleisio.

Os nad yw manylion eich cartref wedi newid, mewn rhai awdurdodau lleol, gallwch adnewyddu’ch ffurflen gofrestru ar-lein neu dros y ffôn. Bydd y ffurflen yn cynnwys y wybodaeth angenrheidiol.

Cyhoeddir cofrestr etholiadol newydd ar 1 Rhagfyr bob blwyddyn, a bydd hon yn cynnwys yr holl newidiadau a wnaed yn ystod y cofrestriad blynyddol. Ni fydd eich manylion yn cael eu hadnewyddu tan y dyddiad hwn, felly os ydych wedi symud tŷ yn ystod y cyfnod hwn, efallai y byddwch yn dymuno gwneud cais am bleidlais bost neu bleidlais drwy ddirprwy.

Cofrestru i bleidleisio ar unrhyw adeg arall

ni chewch eich cofrestru i bleidleisio'n awtomatig, hyd yn oed os ydych yn talu’r Dreth Gyngor

Yn ystod gweddill y flwyddyn (o fis Rhagfyr i ganol Awst), bydd y gofrestr etholiadol yn cael ei diweddaru bob mis. Gelwir hyn yn ‘gofrestru fesul cam'. Mae hyn yn ddefnyddiol os ydych chi’n symud tŷ.

Os ydych yn gymwys i bleidleisio, gallwch gofrestru unrhyw bryd drwy lenwi ffurflen gofrestru a’i hanfon at eich swyddfa cofrestru etholiadol leol, sydd fel arfer yn yr un adeilad â'ch cyngor lleol. Gallwch lwytho ffurflen oddi ar wefan Fy Mhleidlais I neu wefan eich cyngor lleol.

Nid ydych wedi’ch cofrestru’n awtomatig i bleidleisio, hyd yn oed ydych yn talu’r Dreth Gyngor. Mae cofrestru etholiadol yn broses ar wahân i gofrestru ar gyfer y Dreth Gyngor. Os nad ydych yn siŵr a ydych wedi’ch cofrestru i bleidleisio, yn aml iawn, gall eich swyddfa cofrestru etholiadol ddweud wrthych.

Cofrestru i bleidleisio os ydych chi’n gwasanaethu yn y Lluoedd Arfog

Gall y sawl sy'n gwasanaethu dramor (a'u gwŷr, eu gwragedd neu’u partneriaid sifil) gofrestru i bleidleisio fel pleidleisiwr o’r Lluoedd Arfog. Cewch bleidleisio’n bersonol, drwy’r post neu drwy ddirprwy, er ei bod yn bosib na fydd digon o amser i chi bleidleisio drwy’r post os ydych chi dramor.

Os ydych chi'n byw yn y DU, gallwch naill ai ddewis gwneud datganiad gwasanaeth neu bleidleisio yn y ffordd draddodiadol.

Mae ffurflenni datganiad gwasanaeth ar gael ar wefan Fy Mhleidlais I, neu drwy gysylltu â'ch swyddfa cofrestru etholiadol leol. Rhaid i chi adnewyddu eich datganiad gwasanaeth bob tair blynedd

Cofrestru pleidlais o dramor

Caiff dinasyddion Prydeinig sy'n byw dramor ac sydd wedi cael eu cofrestru i bleidleisio yn y DU o fewn y 15 mlynedd diwethaf gofrestru fel pleidleisiwr o dramor.

Cewch bleidleisio yn etholiadau cyffredinol y DU ac yn etholiadau Senedd Ewrop, ond nid mewn etholiadau llywodraeth leol yn y DU nac mewn etholiadau ar gyfer gweinyddiaethau datganoledig.

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU