Ceir ffynonellau gwybodaeth ar gyfer pobl sy’n dod i Brydain a gwybodaeth am ddinasyddiaeth a chenedligrwydd yn y DU yn gyffredinol.
Mae gwefan fisas y DU yn rhoi manylion am y gofynion o ran dod i mewn i'r DU. Drwy nodi pwrpas eich ymweliad, eich cenedligrwydd a'ch lleoliad, bydd modd i'r wefan roi gwybod i chi a oes angen fisa neu ganiatâd mynediad arnoch, pa ffurflen gais y mae angen i chi ei llenwi, pa ganllawiau y dylech chi eu darllen a ble mae gwneud cais.
Mae'r wefan hefyd yn rhoi gwybodaeth am warchodwyr plant a staff domestig dramor, aelodau o'r teulu a phlant sydd wedi'u mabwysiadu, gwyliau gweithio, mewnfudwyr sgilgar a buddsoddwyr ym Mhrydain.
Yn y DU, fel yn y rhan fwyaf o aelod wladwriaethau'r UE, 'rheoleiddir' rhai proffesiynau penodol. Mae hyn yn golygu bod yna gyfreithiau sy'n nodi'r cymwysterau y mae arnoch eu hangen er mwyn cael arfer y proffesiynau hyn. Gall dinasyddion cymwys o wledydd yr UE sy'n dymuno arfer proffesiwn rheoledig yn y DU wneud cais am gydnabyddiaeth o'r cymwysterau a enillwyd ganddynt yn eu gwlad gartref - dilynwch y ddolen isod i gael manylion.
Yn y DU, fel yn y rhan fwyaf o aelod wladwriaethau'r UE, 'rheoleiddir' rhai proffesiynau penodol. Mae hyn yn golygu bod yna gyfreithiau sy'n nodi'r cymwysterau y mae arnoch eu hangen er mwyn cael arfer y proffesiynau hyn. Gall dinasyddion cymwys o wledydd yr UE sy'n dymuno arfer proffesiwn rheoledig yn y DU wneud cais am gydnabyddiaeth o'r cymwysterau a enillwyd ganddynt yn eu gwlad gartref - dilynwch y ddolen isod i gael manylion.
Mae Swyddfa Comisiynydd y Gwasanaeth Mewnfudo (OISC) yn bodoli er mwyn sicrhau bod pawb yn cael cyngor da ar fewnfudo. Ni allant helpu gyda cheisiadau unigol neu roi cyngor, ond gallant ddod o hyd i rywun yn yr ardal sy'n gallu helpu. Mae gwefan OISC yn rhoi manylion ynghylch sut i ddod o hyd i ymgynghorydd mewnfudo a sut i gwyno os ydych yn credu i chi gael eich trin yn annheg.
Yr Asiantaeth Ffiniau a Mewnfudo yn y Swyddfa Gartref sy'n gyfrifol am geisiadau am genedligrwydd Prydeinig, am ganiatâd i aros ym Mhrydain, am ddinasyddiaeth ac am loches. Mae eu gwefan yn darparu ffurflenni a gwybodaeth am wneud ceisiadau sy'n ymwneud â phob agwedd ar y drefn fewnfudo a chenedligrwydd.
Yn gyffredinol, nid oes cyfyngiad, yn ôl cyfraith y DU, ar frodor o Brydain rhag bod yn ddinesydd mewn gwlad arall yn ogystal. Felly, os rhoddir cenedligrwydd arall i chi, ni fyddwch chi'n colli eich cenedligrwydd Prydeinig. Yn yr un modd, ni fydd yn rhaid i chi ildio'ch cenedligrwydd arall wrth ddod yn Brydeiniwr. Mae'r Swyddfa Gartref yn darparu gwybodaeth fanylach.
I ddathlu dod yn ddinesydd Prydeinig, mae'r llywodraeth wedi cyflwyno seremonïau dinasyddiaeth yn ddiweddar.
Mae yna hefyd wefan sy'n rhoi amlinelliad o'r Prawf Byw yn y DU y bydd yn rhaid i lawer o ddinasyddion Prydeinig newydd eu cymryd. Ceir yno gwybodaeth am bwy fydd yn gorfod sefyll y prawf a sut i baratoi ar ei gyfer.
Mae dinasyddiaeth yn rhan o'r cwricwlwm cenedlaethol. Mae nifer o adnoddau ar-lein ar gael.
Mae gwefannau'r cwricwlwm cenedlaethol ar-lein ar gyfer Lloegr yn rhoi gwybodaeth am raglenni astudio a chanllawiau anstatudol - ar gyfer dinasyddiaeth a phob pwnc arall - yn nodi targedau cyrhaeddiad, ac yn rhoi nodiadau a dolenni i adnoddau dysgu ar-lein.
Mae gwefan y cwricwlwm Cenedlaethol ar waith yn darparu enghreifftiau o waith disgyblion a sylwadau.
Mae'r Awdurdod Cymwysterau a Chwricwlwm (QCA) yn rhoi gwybodaeth am addysg dinasyddiaeth yn Lloegr, mewn ysgolion a sefydliadau dysgu ôl-16
Mae'r Archifau Cenedlaethol a'r Archifau Seneddol wedi creu arddangosfa dinasyddiaeth ar-lein.
Mae'r arddangosfa'n archwilio'r hyn y mae bod yn ddinesydd wedi'i olygu dros fileniwm yn hanes Prydain. Mae dinasyddiaeth yn aml yn y newyddion. Ond beth ydyw, a sut mae wedi newid dros y canrifoedd? O ble daeth y Senedd? Sut y cafodd pobl gyffredin hawliau gwleidyddol a chymdeithasol?
Dysgwch fwy am addysg dinasyddiaeth, pwnc sydd ar y cwricwlwm cenedlaethol, a sut y gallwch chi gyfrannu mewn ffordd gadarnhaol.