Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Cyngor am ddiogelwch rhag tân ar gyfer rhieni a gofalwyr plant

Y ffordd orau o addysgu plant am ddiogelwch tân yw trwy esiampl. Gadewch i'ch plant eich gweld yn bod yn ddoeth ac yn ofalus gyda choginio, canhwyllau, ysmygu a pheryglon tân posibl eraill.

Tân a phlant

Mae tanau mewn cartrefi yn lladd dwsinau o blant bob blwyddyn, sef bron i hanner yr holl farwolaethau plant sy'n digwydd yn ddamweiniol. Mae plant yn naturiol yn cael eu denu at olau a chynhesrwydd tân, ond heb arweiniad priodol gall hyn droi'n hudoliaeth beryglus. Mae plant dan 10 oed yn achosi 6,000 o danau bob blwyddyn.

Siarad â'ch plant am dân

Dylid rhoi cyfarwyddiadau clir i blant ieuengach ynghylch beth dylent ei wneud a beth na ddylent ei wneud, ond mae'n well esbonio'r rhesymau i blant pump oed neu hŷn. Dylai pob plentyn wybod nad yw byth yn ddiogel i chwarae â thân.

Bydd dysgu rheolau syml i'ch plentyn yn gymorth i'w diogelu rhag tân. Dywedwch wrthyn nhw:

  • peidiwch byth â chwarae gyda matsys neu danwyr
  • peidiwch byth â chwarae gyda channwyll sydd wedi ei goleuo
  • peidiwch byth â chwarae'n agos at dân neu wresogydd, na gadael teganau wrth ymyl tân neu wresogydd
  • peidiwch â thynnu ar geblau trydanol na ffidlan gydag offer trydanol neu socedi
  • peidiwch byth â rhoi'r popty ymlaen
  • peidiwch byth â rhoi dim byd ar ben y popty
  • peidiwch â chyffwrdd ag unrhyw sosbenni sydd ar y popty
  • peidiwch â rhoi pethau ar ben gwresogyddion neu oleuadau
  • os ydych chi'n gweld matsys neu danwyr o gwmpas y lle - dywedwch wrth oedolyn

Cyfarwyddiadau tân i blant

Mae'n bwysig siarad â phlant ynglŷn â beth i'w wneud os bydd tân. Peidiwch ag osgoi'r mater oherwydd nad ydych eisiau eu dychryn. Mae'n rhaid i blant wybod yn fras sut i ymateb, oherwydd ei bod yn bosib na fydd yna oedolyn o gwmpas i ddweud wrthyn nhw beth i'w wneud os bydd tân yn digwydd. Dyma'r cyfarwyddiadau sylfaenol i'w rhoi i'ch plant:

  • os ydyn nhw'n gweld mwg neu fflamau, dylen nhw ddweud wrth rhywun yn syth - oedolyn os yn bosib
  • ceisio mynd allan o'r adeilad cyn gynted ag sy'n bosib
  • peidio byth â mynd yn ôl i mewn i'r adeilad i nôl unrhyw beth - gall y diffoddwyr tân chwilio'r tŷ yn gynt ac yn fwy diogel am unrhyw beth a adawyd ar ôl
  • os oes mwg, dylech gropian ar hyd y llawr, lle mae'r aer yn lanach
  • os oes rhwystrau ar draws y llwybr dianc, ewch i ystafell sy'n cynnwys ffenestr, rhowch ddillad gwely neu dyweli o gwmpas gwaelod y drws i rwystro'r mwg rhag dod i mewn i'r ystafell, agorwch y ffenestr a gweiddi am help
  • peidiwch byth â chuddio mewn cwpwrdd neu o dan y gwely - ewch allan o'r tŷ a galw am help yn syth
  • chwiliwch am ffôn a deialu 999, a gofyn am y Gwasanaeth Tân ac Achub - rhowch y cyfeiriad yn araf a heb gynhyrfu (efallai y bydd rhaid iddynt fynd at y cymdogion i ofyn am ffôn)

Dylech sicrhau bod eich plant yn gwybod eu cyfeiriad bob amser, er mwyn iddynt allu galw am gymorth.

Sicrhewch eich bod yn gwybod eich llwybr dianc

Cynlluniwch lwybr dianc a sicrhau bod pawb yn y tŷ, gan gynnwys plant a gwarchodwyr, yn gyfarwydd ag ef. Cadwch bob allanfa'n glir, ac ewch dros y cynllun dianc gyda'r plant.

Gwneud eich cartref yn ddiogel i blant

Dyma rai pethau y gallwch eu gwneud yn eich cartref fel nad yw eich plant yn dod i gysylltiad â pherygl:

  • peidiwch â gadael plant ar eu pennau'u hunain mewn ystafell lle mae perygl tân
  • cadwch fatsys, tanwyr, canhwyllau a chanhwyllau bach crwn mewn man lle na all plant eu gweld nac ymestyn atynt
  • dylid rhoi gard tân atal plant o flaen tân agored neu wresogydd
  • peidiwch â gadael i blant chwarae â theganau na'u gadael wrth ymyl tân neu wresogydd
  • rhowch gloeon plant ar gypyrddau sy'n cynnwys unrhyw beth y gellid ei ddefnyddio i gynnau tân (er enghraifft, matsys, canhwyllau a hylifau fflamadwy)
  • cadwch wresogyddion symudol mewn man diogel lle nad oes modd eu troi pan fônt yn cael eu defnyddio neu eu storio
  • cadwch eich llwybr dianc rhag tân yn rhydd o deganau a rhwystrau eraill
  • peidiwch byth â gadael plant ar eu pennau'u hunain yn y gegin pan fyddwch yn coginio a pheidiwch byth â gadael iddynt chwarae wrth ymyl y popty a'r hob
  • gosodwch warchodwyr plygiau mewn socedi fel na fydd plant yn gallu gwthio unrhyw beth i'r tyllau
  • gwnewch yn siŵr bod offer trydanol yn ystafelloedd gwely'r plant wedi'u diffodd yn ystod y nos

Allweddumynediad llywodraeth y DU