Os ydych yn meddwl bod eich plentyn yn defnyddio cyffuriau, mae'n naturiol i chi fynd i banig (a gweiddi). Arhoswch nes eich bod yn teimlo'n dawelach ac wedyn mynd i siarad gyda'ch plentyn.
Gall arwyddion defnyddio cyffuriau gynnwys newidiadau mewn ymddangosiad, ffrindiau, diddordebau, arferion bwyta a chysgu, hwyliau a bod yn agored. Ond yn aml mae'r arwyddion hyn yn rhan naturiol o dyfu. Gallai person ifanc nad yw'n defnyddio cyffuriau ddangos yr un newidiadau.
Pan fyddwch yn siarad:
Os oes gan eich plentyn broblem cyffuriau mae'n bwysig eu bod yn gwybod y byddwch yno iddynt - o ateb cwestiynau syml i'w helpu drwy amseroedd anodd. Mae'n werth dweud wrthynt eich bod yn ymddiried ynddynt, ond ar yr un pryd dylech allu dangos eich siom os torrir yr ymddiriedaeth honno.
Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan Talk to Frank neu drwy ffonio eu llinell gymorth ar 0800 77 66 00. Neu, mae’r daflen yn y ddolen isod: 'All About Drugs - does your child know more than you?' yn darparu gwybodaeth diweddar i rieni a gofalwyr ar yr oblygiadau o gamddefnyddio cyffuriau sy’n seiliedig ar iechyd a’r gyfraith. Hefyd mae’r taflen yn cynnwys ABC o gyffuriau a chyngor ar sut i fynd i’r afael a’r mater gyda’ch plentyn.
Cofiwch, nid yw'r rhan fwyaf o bobl ifanc sy'n rhoi cynnig ar gyffuriau'n troi'n ddefnyddwyr problemus yn ddiweddarach.
Os caiff eich plentyn ei ddal â chyffur rheoledig yn ei feddiant, mae wedi cyflawni trosedd.
Mae llawer o blant a phobl ifanc yn ansicr ynghylch y gyfraith sy'n gysylltiedig â chyffuriau a'r canlyniadau posibl iddynt yn ddiweddarach. Os caiff eich plentyn ei ddal ym meddiant cyffur rheoledig, mae wedi cyflawni trosedd a bydd hyn yn cael ei gofnodi gan yr heddlu. Gallai hyn hefyd atal y person ifanc rhag cael swydd neu yrfa arbennig, ac ymweld â gwledydd eraill.
Ar gyfer trosedd cyntaf, gall eich plentyn dderbyn rhybudd neu rybuddiad ffurfiol. Os ydynt rhwng 10 a 17 oed ac yn cyflawni rhagor o droseddau, gan gynnwys gwerthu neu smyglo cyffuriau, gallant gael eu cyhuddo a'u dwyn gerbron Llys Ieuenctid.
Mae'n werth cofio y gallech chithau fel rhiant fod mewn perygl o dorri'r gyfraith dan rai amgylchiadau, trwy anwybyddu ymddygiad eich plentyn. Os ydych yn gwybod bod eich plentyn yn rhannu cyffuriau anghyfreithlon gyda ffrind yn eich cartref a chithau'n gwneud dim i'w rhwystro, gallech fod yn cyflawni trosedd. Mae caniatáu i rywun 'smygu canabis yn eich cartref yn drosedd hefyd.
Os cymerwch gyffuriau anghyfreithlon oddi ar eich plentyn i'w atal rhag cyflawni trosedd, rhaid ichi naill ai ddinistrio'r cyffuriau neu eu trosglwyddo i'r heddlu cyn gynted ag y bo modd. Trwy fod â'r cyffuriau yn eich meddiant, gallech fod yn cyflawni trosedd hefyd, hyd yn oed os nad oes unrhyw fwriad i'w defnyddio.