Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Cyffuriau: beth yw'r peryglon?

Dengys ymchwil y bydd plant sy’n teimlo eu bod yn gallu siarad â'u rhieni am gyffuriau yn peidio neu'n osgoi cymryd cyffuriau yn fwy na’r rhai sydd ddim yn teimlo hyn.

Beth yw'r peryglon?

Mae peryglon. Ac efallai nad ydy'ch plentyn wedi meddwl am y cyfan ohonynt. Wrth ichi siarad yn ddiffwdan drwy'r sefyllfa gyda'ch plentyn, gallech grybwyll y peryglon posibl canlynol:

  • all y defnyddiwr byth fod yn siŵr beth yn union y mae'n ei gymryd
  • mae'n annhebygol y bydd yr hyn y mae'n ei brynu'n bur, a fydd eich plentyn ddim yn gwybod gyda beth y mae wedi'i gymysgu
  • gallai peidio â gwybod beth yw cryfder yr hyn a brynir arwain at orddos damweiniol
  • all eich plentyn ddim bod yn siŵr beth fydd effaith cyffur, hyd yn oed os yw wedi'i gymryd o'r blaen
  • yn aml mae'n beryglus iawn cymysgu gwahanol gyffuriau, ac mae hyn yn cynnwys cymryd cyffur ac yfed alcohol
  • os bydd nodwyddau, chwistrellau neu offer chwistrellu arall yn cael eu rhannu, mae perygl difrifol y bydd heintiau peryglus yn cael eu lledaenu megis HIV a hepatitis B neu C, a gall chwistrellu niweidio'r gwythiennau hefyd

Beth i'w wneud mewn argyfwng

Gall amffetaminau (spîd), canabis, ecstasi, LSD a madarch hud wneud i'r defnyddiwr deimlo'n llawn panig a thyndra weithiau. Os bydd hyn yn digwydd:

  • tawelwch eich plentyn a'i gysuro - ceisiwch beidio â dangos eich bod yn poeni neu'n ofnus
  • esboniwch y bydd y teimladau'n pasio
  • ceisiwch eu cael i orwedd mewn ystafell ddistaw gyda golau gwan
  • os byddant yn dechrau anadlu'n gyflym iawn, dywedwch wrthynt am anadlu'n araf ac yn hir

Gall heroin, tawelyddion a'r camddefnydd o nwyon, glud ac erosolau wneud i'r defnyddiwr deimlo'n gysglyd iawn. Os bydd hyn yn digwydd:

  • tawelwch eich plentyn a'i gysuro
  • peidiwch â chodi ofn arnynt neu eu dychryn, na gadael iddynt wneud gormod
  • peidiwch byth â rhoi coffi iddynt i'w deffro
  • os yw'r symptomau'n parhau, dylech eu rhoi i orwedd ar eu hochr yn y safle adferol, fel na all y tafod ddisgyn yn ôl a'u hatal rhag anadlu
  • ffoniwch am ambiwlans os nad ydynt yn dechrau dod yn fwy effro

Siarad am gyffuriau

Os yw plentyn ifanc yn codi'r pwnc, gofynnwch yn ddiffwdan beth y maent yn ei wybod am 'gyffuriau'. Dywedwch y gallant ddod atoch unrhyw bryd os oes ganddynt gwestiynau am gyffuriau a byddwch yn eu hateb. Dywedwch wrthynt am adael i chi wybod os oes unrhyw un yn cynnig cyffuriau iddynt.

Wedi cyrraedd yr ysgol uwchradd, mae'r hyn y bydd eu ffrindiau'n ei feddwl, ei deimlo a'i ddweud yn dod yn bwysicach iddynt. Peidiwch â cheisio bod yn 'cŵl' wrth drafod cyffuriau gyda nhw. Dyma ffordd hawdd o golli'u hymddiriedaeth.

Sefydliadau defnyddiol

Gall sawl sefydliad cenedlaethol roi cymorth a gwybodaeth am gyffuriau a chamddefnyddio cyffuriau:

Talk to Frank

Mae Talk to Frank yn cynnig cyngor di-dâl a chyfrinachol am gyffuriau, drwy'r dydd, bob dydd, i unrhyw un: plant, rhieni, neu'r rhai chwilfrydig hyd yn oed. Mae'r llinell gymorth ar gael mewn 120 o wahanol ieithoedd a bydd cyfieithydd ar gael os oes angen, ffoniwch 0800 77 66 00. Mae gan y wefan ddigonedd o wybodaeth ac awgrymiadau ynghylch sut i ddelio gyda chyffuriau a gall eich cyfeirio at wasanaethau cyffuriau lleol.

Release

Mae Release yn darparu llinell gymorth sy'n cynnig cyngor am y defnydd o gyffuriau a materion cyfreithiol, o ddydd Llun i ddydd Gwener, 10:00 am - 5:30 pm. Rhif ffôn 020 7729 9904.

Adfam

Mae Adfam national yn cefnogi grwpiau teulu sy'n gweithio gyda chymunedau ar draws y DU, rhif ffôn 020 7553 7640. Mae gan wefan Adfam gronfa ddata gyda gwybodaeth gyswllt ar gyfer grwpiau cymorth lleol.

Gwasanaethau lleol

Yn lleol, gall eich meddyg teulu eich cyfeirio chi at asiantaethau cwnsela cyffuriau lleol. Dylai fod gan ysgol eich plentyn bolisi ar addysg gyffuriau a rheoli digwyddiadau sy'n gysylltiedig â chyffuriau. Efallai y gall Adran Cyswllt â'r Gymuned eich heddlu lleol ateb eich cwestiynau am y sefyllfa gyffuriau'n lleol, a'r gyfraith.

Allweddumynediad llywodraeth y DU