Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Alcohol a phlant

Mae'r rhan fwyaf o rieni, yn ddigon teg, yn poeni am eu plant yn rhoi cynnig ar gyffuriau. Ond gall alcohol achosi'r un faint o broblemau i bobl ifanc.

Mae pobl ifanc yn gweld alcohol yn cael ei werthu ymhob man, yn yr archfarchnadoedd, siopau gwerthu alcohol, tafarndai a bwytai. Efallai eu bod yn gweld eu rhieni'n yfed alcohol hefyd. Gall hyn ei wneud yn anodd iddynt ddeall fod alcohol yn gallu bod yn beryglus.

Beth all rhieni plant iau ei wneud

Mae'n fwy anodd gwybod pryd i adael i bobl ifanc yfed. Does dim oed 'iawn' ond byddwch yno pan wnânt hynny. Unwaith y mae eich plentyn wedi dechrau yfed, dylech eu helpu i wneud hynny'n ddiogel:

  • anogwch eich plentyn i yfed brandiau cryfder-is ac i beidio ag yfed yn rhy gyflym, esboniwch y peryglon o ‘sbeicio’ diodydd
  • ceisiwch beidio â gorymateb os bydd eich plentyn yn yfed yn erbyn eich ewyllys, neu'n yfed gormod (chi fel rhiant sydd i benderfynu beth sy'n 'ormod'); esboniwch sut 'rydych yn teimlo a'u hannog i ddweud pam y digwyddodd hynny
  • cytunwch ar reolau ar bartïon os yw'ch plentyn yn cael parti gartref
  • dylech gael gwared ar demtasiynau, fel eich stoc chi o ddiod (yn enwedig gwirodydd) a darparwch fwydydd starts (e.e. bara, pasta, reis) fel na fyddant yn bwyta ar stumogau gwag
  • sicrhewch fod gan eich plentyn ffordd o ddod adre'n ddiogel yn y nos

Beth all rhieni plant hŷn ei wneud

Mae'n fwy anodd gwybod pryd i adael i bobl ifanc yfed. Does dim oed 'iawn' ond byddwch yno pan wnânt hynny. Unwaith y mae eich plentyn wedi dechrau yfed, dylech eu helpu i wneud hynny'n ddiogel.

  • anogwch eich plentyn i yfed brandiau cryfder is ac i beidio ag yfed yn rhy gyflym, esboniwch y peryglon o sbeicio diodydd
  • ceisiwch beidio â gorymateb os bydd eich plentyn yn yfed yn erbyn eich ewyllys neu'n yfed gormod (chi fel rhiant sydd i benderfynu beth sy'n 'ormod'), esboniwch sut 'rydych yn teimlo a'u hannog i ddweud pam y digwyddodd hynny
  • cytunwch ar reolau ar bartïon os yw'ch plentyn yn cael parti gartref
  • dylech gael gwared ar demtasiynau, fel eich stoc chi o ddiod (yn enwedig gwirodydd) a darparwch fwydydd starts (e.e. bara, pasta, reis) fel na fyddant yn bwyta ar stumogau gwag
  • sicrhewch fod gan eich plentyn ffordd o ddod adre'n ddiogel yn y nos

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU