Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Seiber-fwlio: beth y mae angen i rieni ei wybod

Y dyddiau hyn, nid ar y buarth chwarae'n unig y mae bwlio'n digwydd. Mae seiber-fwlio – neu fwlio drwy dechnoleg – yn gyffredin iawn erbyn hyn, ac mae dod o hyd iddo a delio ag ef yn gallu bod yn anodd.

Dulliau seiber-fwlio

Mae seiber-fwlio'n digwydd dros y we a chyda ffonau symudol. Mae ceisio'i atal yn anoddach oherwydd ar y we gall pobl ddefnyddio gwahanol enwau mewn ystafelloedd sgwrsio, neu anfon negeseuon o gyfrifon e-bost dros-dro. Dyma rai o'r dulliau seiber-fwlio mwyaf cyffredin:

  • ystafelloedd sgwrsio, blogiau a fforymau – er bod nifer o'r rhain yn cael eu goruchwylio, gellir anfon atebion difrïol at bobl sy'n ymwneud â nhw
  • negeseuon testun – gellir anfon negeseuon testun difrïol a bygythiol i ffonau symudol
  • negeseuon lluniau a fideo – gellir anfon delweddau tramgwyddus i ffonau symudol
  • e-bost – gellir sefydlu cyfeiriad newydd mewn ychydig funudau, a'i ddefnyddio i anfon negeseuon a delweddau tramgwyddus
  • gwefannau rhwydweithio cymdeithasol a phersonol – gellir rhoi negeseuon a delweddau yn yr adrannau perthnasol ar y safleoedd hyn
  • Negesydd Gwib – mae hwn yn gyflymach nac e-bost, ac yn galluogi defnyddwyr i sgwrsio
  • gwe-gamerâu – defnyddir y rhain gan amlaf i alluogi pobl i weld ei gilydd wrth sgwrsio ar-lein, ond gellir anfon delweddau camdriniol at blant, neu eu hannog i ymddwyn mewn ffordd amhriodol tra cânt eu ffilmio
  • Amgylcheddau Dysgu Rhithiol – meddalwedd ar-lein a ddefnyddir gan ysgolion er mwyn galluogi staff a disgyblion i ryngweithio â'i gilydd. Gall bwlis ddefnyddio'r amryw ffyrdd o gyfathrebu i anfon delweddau a negeseuon tramgwyddus
  • safleoedd lletya fideo – mae'n bosibl i blant weld delweddau pornograffig ar ddamwain, neu hyd yn oed ganfod mai nhw sydd yn y ffilmiau a ddangosir

Beth y gall rhieni ei wneud

Yn yr un modd â mathau eraill o fwlio, mae'n bwysig i rieni wrando ar eu plentyn a chydymdeimlo â nhw – dylai plant wybod bod bwlio bob tro'n anghywir ac mai chwilio am gymorth yw'r peth iawn i'w wneud.

Rhowch gynnig ar y cynghorion canlynol i helpu i ddiogelu'ch plentyn rhag cael eu cam-drin:

  • ceisiwch annog eich plant i siarad â chi am unrhyw beth sy'n peri gofid iddyn nhw
  • gwnewch yn siŵr mai dim ond ystafelloedd sgwrsio sy'n cael eu goruchwylio y maent yn eu defnyddio
  • sicrhewch eu bod yn dangos unrhyw negeseuon i chi y maent wedi'u derbyn sy'n ddifrïol neu'n dramgwyddus, a chadwch gofnod ohonyn nhw.
  • dywedwch wrthyn nhw am beidio byth ag ymateb i negeseuon neu alwadau ffôn cas – dyma fydd dymuniad y bwli bob tro
  • dywedwch wrthyn nhw am osgoi rhoi eu henw, eu cyfeiriad e-bost neu rif eu ffôn symudol i bobl y tu allan i'r teulu a'u cylch ffrindiau
  • newidiwch eich cyfeiriad e-bost neu'ch rhif ffôn os yw'r bwlio'n parhau
  • os ceir unrhyw gam-drin, rhowch wybod i'r heddlu, i ysgol eich plentyn, i'r darparwr gwasanaeth rhyngrwyd, i reolwr/goruchwyliwr y wefan neu i'r cwmni ffonau symudol
  • gosodwch feddalwedd ar eich cyfrifiadur sy'n sicrhau mai'r unig negeseuon e-bost a dderbyniwch yw rhai gan bobl a ddewiswyd gennych, ac i rwystro unrhyw ddelweddau di-groeso

Allweddumynediad llywodraeth y DU