Dylai fod gan ysgol eich plentyn bolisi ysgrifenedig sy'n nodi'r safonau ymddygiad y mae'n eu disgwyl. Dylai'r polisi amlinellu beth fydd yr ysgol yn ei wneud os bydd ymddygiad eich plentyn yn disgyn islaw'r safonau hyn.
Bydd pob disgybl mewn ysgol yn elwa o ymddygiad da. Mae safonau ymddygiad da yn bwysig wrth helpu plant i deimlo'n ddiogel ac i ddysgu'n dda, ac mae rhieni a gofalwyr yn chwarae rhan allweddol yn hyn.
Mae'r llywodraeth yn cynghori ysgolion i ganolbwyntio ar hyrwyddo ymddygiad cadarnhaol, gan helpu i feithrin hunanddisgyblaeth ac annog parch at eraill. Ond mae angen i ysgolion gael cosbau hefyd er mwyn atal disgyblion rhag camymddwyn.
Polisïau Ymddygiad
Dylai ysgolion adolygu eu polisïau ymddygiad yn rheolaidd a gwneud yn siŵr bod rhieni, staff a disgyblion yn ymwybodol ohonynt.
Dylai polisïau ymddygiad gynnwys cod ymddygiad i ddisgyblion. Gall rheolau ymddygiad fod yn berthnasol cyn ac ar ôl ysgol, yn ogystal ag yn ystod y diwrnod ysgol ei hun. Gall y polisïau nodi disgwyliadau ynghylch sut y dylai disgyblion ymddwyn ar y coridorau, mewn ciw wrth aros am y bws ac yn ystod amseroedd cinio ac amseroedd egwyl, yn ogystal ag yn yr ystafell ddosbarth.
Cosb
Mae gan ysgolion hawl gyfreithiol i roi cosb resymol i ddisgybl os yw'n camymddwyn. Dyma rai o'r cosbau y gellid eu defnyddio gan ysgol:
Disgyblaeth a chyswllt corfforol
Ni chaiff athrawon gosbi disgyblion yn gorfforol, ond gallant eu hatal yn gorfforol pan fydd angen er mwyn rhwystro disgybl rhag anafu ei hun neu rywun arall, difrodi eiddo neu aflonyddu'n ddifrifol ar rywun neu rywbeth.
Gall rhai aelodau o staff chwilio disgybl sydd dan amheuaeth o gario arf, a hynny gyda'i ganiatâd neu hebddo.
Gellir cadw'ch plentyn ar ôl yn ystod oriau ysgol, amser cinio, ar ôl yr ysgol neu ar benwythnosau. Os na fydd eich plentyn yn dod yno heb esgus rhesymol, mae'n bosib y bydd yr ysgol yn rhoi cosb fwy difrifol iddynt.
Mae gennych hawl i gael 24 awr o rybudd ysgrifenedig ynghylch cadw'ch plentyn ar ôl y tu allan i oriau ysgol arferol, er mwyn i chi allu trefnu cludiant neu ofal plant. Dylai'r rhybudd nodi pam y penderfynwyd cadw'ch plentyn ar ôl ac am faint y bydd yn rhaid i'ch plentyn aros yn yr ysgol.
Os nad oes modd cadw eich plentyn ar ôl, gallwch esbonio'ch rhesymau i athro/athrawes neu bennaeth eich plentyn. Mae'n bosib y byddan nhw'n ailystyried y gosb mewn ambell sefyllfa, megis:
Mae'n bosib gwahardd plentyn sy'n mynd i drwbl difrifol am gyfnod penodol. Gall ysgolion wahardd plentyn:
Dyma rai pwyntiau eraill i'w cofio:
Dylai'r ysgol eich ffonio ar y diwrnod y rhoddir y gwaharddiad, cyn anfon llythyr atoch yn cynnwys gwybodaeth am y canlynol:
Fel arfer dim ond pan fydd pethau wedi mynd i'r pen y bydd ysgol yn gwahardd plentyn yn barhaol, a hynny ar ôl ceisio gwella ymddygiad y plentyn drwy ddefnyddio dulliau eraill. Fodd bynnag, mewn amgylchiadau eithriadol, fe all pennaeth benderfynu gwahardd disgybl yn barhaol am gamymddwyn un waith yn unig.
Os gwaherddir eich plentyn yn barhaol, dylech fod yn ymwybodol o'r canlynol: