Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Anghenion addysgol arbennig: newid datganiad

Fel rhan o adolygiad blynyddol, bydd eich awdurdod addysg lleol (AALl) yn penderfynu a ddylent wneud unrhyw newid i ddatganiad eich plentyn. Rhaid i'ch AALl edrych i weld sut mae'ch plentyn yn gwneud cynnydd a sicrhau bod y datganiad yn dal i ddiwallu ei h/anghenion.

Newid datganiad

Os ydy datganiad eich plentyn wedi cael ei adolygu, bydd yr AALl yn ysgrifennu atoch, at ysgol eich plentyn ac at y bobl broffesiynol sy'n cyfrannu at yr adolygiad. Byddant yn rhoi gwybod i chi beth yw'r rhesymau dros unrhyw newid, ac yn gofyn i chi am eich barn. Gofynnir i chi bob tro beth yw eich barn cyn gwneud unrhyw newid.

Pam y gall fod angen newid rhywbeth?

Er enghraifft, mae'n bosib y bydd angen newid rhywbeth:

  • os yw anghenion eich plentyn wedi newid yn sylweddol
  • os bydd yr AALl yn penderfynu bod angen gwahanol fathau o help
  • os yw'ch plentyn yn gorfod symud i ysgol arall

Unwaith yr ydych wedi clywed wrth eich awdurdod lleol, mae gennych 15 diwrnod i ofyn am gyfarfod i drafod y newidiadau y maen nhw'n eu cynnig. Rhaid i'r AALl ddweud wrthych beth yw eu penderfyniad terfynol ac am unrhyw newidiadau maen nhw wedi'u gwneud o fewn wyth wythnos iddyn nhw awgrymu newid.

Os mai i ran pedwar y datganiad y gwneir y newidiadau (hynny yw, bod yr AALl eisiau newid enw'r ysgol), bydd gennych yr un hawliau i ddewis ysgol ag a oedd gennych pan luniwyd datganiad eich plentyn yn y lle cyntaf.

Hefyd, bydd gennych yr hawl i ofyn i'r AALl newid enw'r ysgol yn natganiad eich plentyn. Fe gewch chi ofyn am ysgol AALl arall os oes o leiaf 12 mis wedi mynd heibio ers i chi ofyn am newid enw neu ers i'r datganiad gael ei wneud neu ei newid.

Pan fydd eich plentyn yn y flwyddyn ddiwethaf o’r ysgol cyn symud i ysgol arall, er enghraifft pan maent yn symud o ysgol gynradd i ysgol uwchradd, mae argymhellion yr adolygiad blynyddol diwethaf cyn y trosglwyddo'n bwysig er mwyn eich helpu chi a'r AALl i benderfynu pa fath o ysgol y dylai'ch plentyn fynd iddi. Rhaid i'r AALl newid rhan 4 o'r datganiad erbyn 15 Chwefror yn y flwyddyn y mae'ch plentyn i fod i newid ysgol.

Beth os bydda i'n anghytuno â newidiadau'r AALl?

Os byddwch chi'n anghytuno â'r newidiadau i'r datganiad, bydd gennych yr un hawliau ag a oedd gennych chi pan luniwyd y datganiad am y tro cyntaf. Dylai'r awdurdod lleol ddweud wrthych am y trefniadau lleol ar gyfer datrys anghydfodau a'ch hawl i apelio i'r Tribiwnlys Anghenion Addysgol Arbennig.

Allweddumynediad llywodraeth y DU