Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Maeth a chinio ysgol

Efallai y bydd eich plentyn yn gymwys i gael cinio neu laeth am ddim, neu y caiff ffrwythau a llysiau am ddim yn yr ysgol. Rhaid i awdurdodau lleol ddarparu cinio am ddim i blant cymwys, prydau y telir amdanynt os gofynnir am hynny, a goruchwyliaeth a chyfleusterau da er mwyn i blant fwyta'n ddiogel.

Cinio ysgol

Rhaid i'r holl fwyd a ddarperir gan awdurdodau lleol gyrraedd y safonau maeth cenedlaethol. Mae'r rhain yn sicrhau bod plant yn derbyn deiet iach a chytbwys. Mae'r canlynol yn ofynnol dan y safonau newydd, a gyflwynwyd ym mis Medi 2006:

  • cig, dofednod neu bysgod olewog o ansawdd uchel ar gael yn rheolaidd
  • o leiaf dau ddogn o ffrwythau a llysiau gyda phob pryd
  • bara, grawnfwyd arall a thatws ar gael yn rheolaidd

Hefyd, ceir rheolyddion ar y bwydydd canlynol:

  • mae bwydydd wedi'u ffrio wedi'u cyfyngu i ddau ddogn neu lai yr wythnos
  • mae diodydd melys, creision, siocled a phethau da eraill wedi'u tynnu o brydau bwyd a pheiriannau gwerthu mewn ysgolion.

Cyflwynwyd safonau pellach ar gyfer bwyd heblaw cinio ym mis Medi 2007.

Os bydd cyllideb yr ysgol yn cynnwys swm ar gyfer cinio a lluniaeth, cyfrifoldeb y llywodraethwyr yw darparu prydau am ddim a phrydau y telir amdanynt, a chyrraedd y safonau maeth.

Cinio ysgol am ddim

Does dim rhaid i rieni dalu am ginio ysgol os ydyn nhw'n derbyn unrhyw un o'r canlynol:

  • Cymhorthdal Incwm
  • Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm
  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth ar sail incwm
  • cymorth yn unol â Rhan VI Deddf Mewnfudo a Lloches 1999
  • Credyd Treth Plant, ar yr amod nad oes ganddynt yr hawl i Gredyd Treth Gwaith ac nad yw eu hincwm blynyddol (yn ôl asesiad Chyllid a Thollau EM) yn uwch na £15,575
  • yr elfen Gwarant o Gredyd Pensiwn y Wladwriaeth

Bydd plant sydd â'r hawl eu hunain i gael Cymhorthdal Incwm neu Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm hefyd yn gymwys. Rhaid i bob disgybl nad ydynt yn gymwys i gael cinio am ddim dalu'r un swm am yr un faint o'r un eitem.

Gwneud cais am ginio ysgol am ddim

Eich awdurdod lleol sy'n gyfrifol am ddarparu cinio ysgol am ddim. I wneud cais am ginio ysgol am ddim, cliciwch y ddolen isod, nodwch fanylion ble'r ydych yn byw ac fe fydd yn mynd â chi at wefan eich awdurdod lleol ble gallwch gael mwy o wybodaeth a/neu wneud cais ar-lein.

Pecyn bwyd

I'ch helpu i baratoi pecyn bwyd iach a chytbwys i'ch plentyn, mae'r Asiantaeth Safonau Bwyd a'r Ymddiriedolaeth Bwyd Ysgol wedi cynhyrchu rhestr o gynghorion ac awgrymiadau.

Llaeth

Nid oes rhaid i awdurdodau lleol ddarparu llaeth ar gyfer plant, ond os byddant yn dewis gwneud hynny, rhaid iddo fod ar gael am ddim i'r disgyblion hynny sy'n gymwys i gael cinio am ddim. Os bydd ysgolion yn dewis darparu llaeth ar gyfer disgyblion, trosglwyddir y ddyletswydd i ddarparu llaeth am ddim ar gyfer disgyblion cymwys i gyrff llywodraethu ysgolion a fu gynt yn ysgolion a gynhelid â grant ac ysgolion arbennig a gynhelir â grant.

Mae rheolau cymorthdaliadau'r Gymuned Ewropeaidd yn caniatáu i awdurdodau lleol ac ysgolion gynnig hyd at 250 ml o laeth â chymhorthdal y diwrnod ar gyfer plant ysgolion meithrin ac ysgolion cynradd. Dan y Cynllun Bwyd Lles, a redir gan yr Adran Iechyd, mae plant dan bump yn gymwys i gael llaeth am ddim yn yr ysgol. Dylid cyflwyno unrhyw hawliad drwy'ch awdurdod lleol.

Ffrwythau a llysiau am ddim yn yr ysgol

Rhaglen genedlaethol gan y llywodraeth yw'r Cynllun Ffrwythau a Llysiau mewn Ysgolion sy'n rhoi ffrwyth neu lysieuyn am ddim bob diwrnod ysgol i bob plentyn rhwng pedair a chwech oed mewn ysgolion babanod, cynradd ac ysgolion arbennig awdurdod lleol a gynhelir.

Os yw ysgol eich plentyn wedi dewis cymryd rhan yn y cynllun, rhoddir ffrwyth neu lysieuyn am ddim i'ch plentyn yn yr ysgol bob dydd.

Allweddumynediad llywodraeth y DU