Mae cael plentyn i gyrraedd yr ysgol mewn pryd ac yn ddiogel yn dipyn o her. Mewn ambell achos, mae plant yn gymwys i gael cludiant ysgol am ddim, a allai fod o help.
Rhaid i awdurdodau lleol ddarparu cludiant pan fyddant yn meddwl bod angen hynny er mwyn sicrhau bod plentyn yn cyrraedd yr ysgol. Os oes angen cludiant, yna rhaid ei ddarparu'n ddi-dal.
Yn y rhan fwyaf o achosion, yr awdurdod lleol fydd yn penderfynu pa gludiant sy'n angenrheidiol. Ond bydd gan eich plentyn hawl awtomatig i gael cludiant am ddim:
ac:
Y pellter cerdded statudol yw:
Nid y pellter byrraf ar hyd y ffordd, o anghenraid, yw'r 'pellter cerdded statudol'. Mesurir y daith ar hyd y llwybr byrraf y gall plentyn, gyda chydgerddwr os oes angen, ei gerdded yn weddol ddiogel. O'r herwydd, gall y llwybr a fesurir gynnwys llwybrau troed, llwybrau ceffyl a llwybrau eraill, yn ogystal â ffyrdd cydnabyddedig. Os nad oes llwybr o'r fath, rhaid i'r awdurdod lleol ddarparu cludiant am ddim, waeth beth yw pellter eich cartref o'r ysgol.
Gwneud cais am gymorth i deithio o'r cartref i'r ysgol
Gallwch gael mwy o wybodaeth a/neu wneud cais am gymorth i deithio o'r cartref i'r ysgol ar-lein. Bydd y ddolen isod yn gadael i chi roi manylion ble'r ydych chi'n byw, ac yna'n mynd â chi i'r dudalen berthnasol ar wefan eich awdurdod lleol.
Dylai awdurdodau lleol ystyried unrhyw anabledd neu anghenion addysgol arbennig wrth benderfynu a oes angen cludiant ar eich plentyn.
Os oes gan eich plentyn ddatganiad anghenion addysgol arbennig (AAA) a gofynion o ran cludiant wedi'u nodi arno, bydd rhaid i'ch awdurdod lleol ddiwallu'r gofynion hynny.
Gwneud cais am gludiant ysgol i blant gydag AAA neu anableddau
Bydd y ddolen isod yn mynd â chi at wefan eich awdurdod lleol ac i dudalen lle cewch mwy o wybodaeth am gludiant ysgol i blant gydag AAA neu anableddau.
Mewn ambell achos, fe all cludiant am ddim fod ar gael i ddisgyblion nad ydyn nhw'n gymwys yn awtomatig. Eich awdurdod lleol fydd yn penderfynu hyn - i gael gwybodaeth am eu polisi, dilynwch y ddolen isod 'Cael gwybod am gymorth i deithio o'r cartref i'r ysgol'.
Er enghraifft, efallai y bydd eich awdurdod lleol yn darparu cludiant i ddisgyblion sy'n byw yn nes na'r pellter cerdded statudol.
Efallai y bydd cludiant am ddim ar gael hefyd os bydd eich plentyn yn mynychu ysgol a ddewiswyd ar sail crefydd neu gred, ar yr amod bod yr ysgol yn bellach na phellter penodol o'ch cartref (sy'n golygu pellach na'r pellter cerdded statudol fel arfer).
Disgyblion ysgolion cynradd
Ers 1 Medi 2007, mae'r hawl i gael cludiant ysgol wedi ei hymestyn i ddisgyblion:
Disgyblion ysgolion uwchradd
O 1 Medi 2008, caiff disgyblion oed ysgol uwchradd (rhwng 11 a 16 oed) hawl i gael cludiant ysgol am ddim os ydyn nhw'n dod o deuluoedd ar incwm isel a'u bod yn mynd i:
neu:
Mae'r hawliau estynedig i gael cludiant am ddim yn rhan o newidiadau ehangach a gyflwynwyd dan Ddeddf Addysg ac Arolygon 2006.
Os yw eich plentyn dros 16 oed ac mewn Addysg Bellach neu yn y chweched dosbarth, mae'n bosib y gall eich awdurdod lleol helpu gyda chostau teithio. Mae gan bob awdurdod lleol ei bolisi ei hun ar gyfer helpu gyda chludiant i rai dros 16.
Mae 'bysiau cerdded' a 'threnau beicio' yn helpu plant i gerdded neu feicio i'r ysgol yn ddiogel dan oruchwyliaeth oedolion. Mae'r rhain yn ddewis arall cynaliadwy yn lle teithio mewn car, bws neu drên ac maen nhw'n helpu i gadw plant yn iach. Mae'r Adran Drafnidiaeth hefyd wedi ariannu'r rhaglen 'Bikeability' - y cynllun cenedlaethol newydd ar gyfer hyfforddiant seiclo sy'n cael ei gyflwyno yn Lloegr.
Ers 2004, mae'r 'Cynllun Teithio i'r Ysgol', ariannwyd ar y cyd rhwng yr Adran Plant, Ysgolion a Theuluoedd a'r Adran Drafnidiaeth, wedi ceisio cynyddu'r nifer o blant sy'n teithio i'r ysgol mewn modd cynaliadwy.
Dyrennir tua £20 miliwn y flwyddyn i ysgolion drwy grantiau cyfalaf bach er mwyn datblygu cynlluniau teithio. Ceir cefnogaeth ychwanegol o £7.5 miliwn y flwyddyn er mwyn ariannu rhwydwaith o ymgynghorwyr ar deithio i'r ysgol.
Yn ogystal â helpu i hybu ffitrwydd a lefel canolbwyntio'r plant, mae cerdded a beicio yn helpu i leihau'r tagfeydd a achosir wrth gludo plant i'r ysgol - ynghyd â'r damweiniau a'r llygredd cysylltiedig, gan gynnwys allyriadau carbon.
Os nad yw cerdded neu feicio yn opsiwn, mae bysiau ysgol, cludiant cyhoeddus a rhannu ceir yn ddewis arall mwy cynaliadwy yn lle mynd â'r car.