Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Helpu eich plentyn sydd rhwng 11 ac 14 oed i ddysgu

Mae bod yn rhan o addysg eich plentyn yn gallu gwneud gwahaniaeth sylweddol i'w siawns o lwyddo. Dengys gwaith ymchwil bod plant sydd â'u rhieni'n fwy o ran o'u haddysg yn ennill gwell marciau, bod eu hagwedd at ddysgu'n well a'u bod yn meithrin mwy o hyder.

Dangos diddordeb o ddydd i ddydd

Does dim rhaid iddi fod yn anodd i chi fod yn rhan o addysg eich plentyn yn yr ysgol uwchradd. Mae ambell beth hawdd y gallwch ei wneud i ddangos eich diddordeb:

  • holi am waith cartref eich plentyn - pryd mae'r gwaith i fod yn barod ac a oes angen help arnyn nhw gydag unrhyw beth
  • cael gwybod pa bynciau y bydd eich plentyn yn eu hastudio bob tymor drwy edrych ar gynllun cwricwlwm yr ysgol neu siarad â'r athrawon
  • edrych ar gylchlythyr yr ysgol i weld pa ddigwyddiadau sydd ar y gweill, a gwneud nodyn ar unwaith ar eich calendr o unrhyw weithgareddau y bydd eich plentyn yn cymryd rhan ynddyn nhw

Cefnogi darllen eich plentyn

Pan fydd eich plentyn rhwng 11 ac 14 oed, mae'n bosib y bydd yn rhy hen i gael stori amser gwely, ond fe allwch chi ddal i'w helpu i fagu'r arfer o ddarllen. Gallwch feithrin diddordeb eich plentyn drwy:

  • annog eich plentyn i ddarllen cylchgronau, comics a phapurau newydd yn ogystal â llyfrau
  • prynu llyfrau'n anrhegion - mae rhai sy'n ymwneud â hoff sioe deledu, band pop neu gêm gyfrifiadurol yn aml yn plesio
  • darllen gyda'ch gilydd - rhowch gynnig ar ddeunydd darllen am bynciau y mae'r ddau ohonoch yn eu mwynhau, megis tîm chwaraeon, band cerddorol neu gyrchfan gwyliau
  • darllen y llyfrau neu'r dramâu y mae eich plentyn yn eu hastudio yn yr ysgol, megis un o ddramâu Shakespeare, a thrafod beth rydych chi wedi'i ddarllen gyda'ch plentyn

Gwneud yn fawr o adroddiadau ysgol

Unwaith y flwyddyn y bydd eich plentyn yn cael adroddiad ysgol, felly dyma ambell syniad am sut i wneud yn fawr ohono.

  • darllen yr adroddiad yn fanwl a nodi cryfderau a gwendidau eich plentyn - gweld beth sydd ei angen arnyn nhw i wella unrhyw fannau gwan
  • canmol digon pan fydd eich plentyn wedi gwneud yn dda, ond os oes rhai pethau'n peri pryder, cytuno ar bethau penodol y gallwch chi a'ch plentyn eu gwneud i wella
  • cymharu adroddiadau o'r naill flwyddyn i'r llall er mwyn tanlinellu meysydd lle mae'ch plentyn wedi gwella a meysydd sy'n destun pryder

Gwneud yn fawr o'r noson rieni

Yn yr ysgol uwchradd, mae'n bosib mai dim ond unwaith y flwyddyn y byddwch chi'n cyfarfod ag athrawon eich plentyn, felly mae'n werth bod yn barod ar gyfer y noson rieni.

Er mwyn gwneud yn fawr o'r achlysur:

  • treuliwch rywfaint o amser gyda'ch plentyn cyn y noson rieni'n trafod cryfderau, gwendidau ac unrhyw broblemau yn yr ysgol
  • paratoi rhestr o gwestiynau i'w gofyn i'r athrawon am waith eich plentyn, sut mae'n ymwneud â chyd-ddisgyblion ac agwedd eich plentyn tuag at yr ysgol yn gyffredinol
  • bod yn barod i wrando wrth gyfarfod ag athrawon, hyd yn oed os ydyn nhw'n beirniadu gwaith neu ymddygiad eich plentyn
  • gofyn cwestiynau, yn enwedig os nad ydych chi'n deall neu'n cytuno â rhywbeth
  • ceisio mynd o'r cyfarfod wed penderfynu ar nifer o gamau adeiladol y gallech chi, eich plentyn a'r athrawon eu cymryd i helpu'ch plentyn i lwyddo

Gwneud yn fawr o amgueddfeydd ac orielau

Gall diwrnod allan i'r teulu hefyd fod yn gyfle gwych i ddysgu. Gall amgueddfeydd ac orielau helpu i ddod â gwaith ysgol eich plentyn yn fyw.

Fe allai'r gwefannau hyn fod o help i chi gynllunio'ch ymweliadau:

  • Yr Amgueddfa 24 Awr - chwilio am fathau penodol o arddangosiadau yn ôl lle, dyddiad neu bwnc mewn 2,800 o amgueddfeydd, orielau ac atyniadau treftadaeth
  • Chwilio am oriel - chwilio am orielau, amgueddfeydd celf a chanolfannau celf yn ôl rhanbarth daearyddol. Mae popeth a restrir yn cynnwys disgrifiad o'r arddangosiadau a gwybodaeth am raglenni addysg i blant.

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU