Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Pethau i'w gwneud yn ystod gwyliau'r ysgol

I rieni, gall trefnu ar gyfer y gwyliau olygu gwneud trefniadau gofal plant newydd neu drefnu gweithgareddau i gadw'r plant yn brysur, ond mae adnoddau a chynlluniau ar gael a all fod o gymorth.

Gweithgareddau i blant yn ystod y gwyliau

Mae cynlluniau chwarae yn y gwyliau yn ffordd resymol o ddarparu gofal plant yn ystod y gwyliau. Mae'r cynlluniau hyn ar gyfer plant rhwng pump ac 11 oed, er y gall rhai hefyd ddarparu ar gyfer plant hwn. Mae'r cynlluniau chwarae'n cynnig gweithgareddau i grwpiau o blant mewn pethau megis celf a chrefft a thripiau.

Bydd nifer o sefydliadau'n cynnig gwersylloedd gwyliau i blant. Mae rhai o'r rhain yn gyfnodau preswyl ac eraill yn wersylloedd dydd. Bydd rhai ohonyn nhw'n cynnig gweithgareddau arbennig megis chwaraeon, celf a chrefft neu dripiau gwersylla.

Cymdeithas Gwyliau Gweithgareddau Prydain (BAHA) yw'r gymdeithas sy'n cynrychioli'r cwmnïau gwyliau gweithgareddau preifat. Ar eu gwefan, fe welwch restr o ddarparwyr sy'n arbenigo mewn gwyliau i blant. Mae rhai o'r rhain ar gyfer teuluoedd ac eraill ar gyfer plant yn unig. Disgwylir i bob aelod o BAHA gadw at god ymarfer a safonau BAHA.

Ambell syniad ar gyfer tripiau i blant

Mae amgueddfeydd ac orielau'n cynnal gweithgareddau i blant ac yn ystod y gwyliau, bydd llawer ohonyn nhw'n cynnal digwyddiadau neu raglenni arbennig. Mae'r rhan fwyaf o'r prif amgueddfeydd ac orielau'n cynnig mynediad am ddim, a llawer ohonyn nhw'n cynnig gweithgareddau arbennig yn ddyddiol er mwyn i blant fwynhau eu hymweliad a gwneud yn fawr ohono.

Gall diwrnod ar y traeth, yn y wlad, neu'n ymweld â safleoedd treftadaeth fod yn weddol rad ac yn bleser i oedolion ac i blant. Dewis arall y gallech ei ystyried yn ystod y gwyliau fyddai ymweld â pharc pleser neu faes antur.

Gofal plant yn y gwyliau

I rieni sy'n gweithio, gall gofal plant yn ystod y gwyliau fod yn gur pen. Bydd llawer o deuluoedd yn cael help llaw gan neiniau a theidiau a pherthnasau eraill. Bydd eraill yn trefnu gofal plant ar gyfer y gwyliau neu'n trefnu lle i'w plant mewn rhaglen o weithgareddau haf.

Mae'n bosib y byddech chi am feddwl am ddod o hyd i warchodwr neu ystyried dewisiadau eraill ar gyfer gofal plant yn y gwyliau. Mae ChildcareLink yn cynnig rhestr o warchodwyr ac adnoddau gofal plant eraill.

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU