Bydd chwaraeon nid yn unig yn cadw plant yn iach, mae hefyd yn meithrin eu hyder a'u sgiliau cymdeithasol. Mae cael eich plentyn i gymryd rhan mewn chwaraeon yn gallu bod yn ffordd dda o gadw nhw’n brysur ac yn heini. Gallwch wneud hyn fel rhan o raglen cymorth i astudio neu raglen ar ôl ysgol, neu drwy gyfrwng cynlluniau a sefydliadau eraill.
Bydd llawer o ysgolion yn cynnig chwaraeon yn eu clybiau ar ôl ysgol; mae'n bosib y bydd cynlluniau chwarae yn ystod y gwyliau hefyd yn cynnwys chwaraeon. Mae mwy o wybodaeth ar gael am y rhain gan ysgol eich plentyn neu gan eich awdurdod lleol.
Mae adrannau addysg awdurdodau lleol yn gyfrifol am lawer o gyfleusterau chwaraeon sydd ar gael yn lleol. Mae modd i chi gysylltu â nhw neu ymweld â'u gwefannau i gael mwy o wybodaeth.
Bydd nifer o sefydliadau'n cynnal gwersylloedd chwaraeon neu weithgareddau i blant yn ystod y gwyliau. Gall y rhain fod yn wersylloedd preswyl neu yn ystod y dydd ac fel arfer fe'u bwriedir ar gyfer plant rhwng pump a 17 oed. Bydd rhai gwersylloedd yn cynnig un neu ddau fath penodol o chwaraeon, a bydd eraill yn cynnig amrywiaeth ehangach.
Rhedir gwersylloedd Kings Sports ym mhob cwr o'r DU. Gwersylloedd yn ystod y dydd yw'r rhain a gynhelir yn ystod gwyliau'r haf a'r Pasg am gyfnodau amrywiol. Mae'r gwersylloedd chwaraeon hyn wedi'u cofrestru gydag Ofsted ac maen nhw'n cynnig cymorth i dalu costau ar gyfer nifer penodol o lefydd.
Sport England yw'r brif asiantaeth dan nawdd y llywodraeth yn Lloegr sy'n darparu hyfforddiant a chyfleoedd i bawb ym maes chwaraeon, gan gynnwys plant. Gall y rhain eich helpu i ddod o hyd i gyfleusterau a hyfforddiant yn eich ardal ar gyfer pob math o chwaraeon. Mae'n bosib hefyd bod llawer o gyrff chwaraeon cenedlaethol a chlybiau'n cynnig gweithgareddau penodol a rhaglenni hyfforddi i blant. Gall rhain gynnwys gwersylloedd gwyliau neu sesiynau hyfforddi rheolaidd.
Cynllun dan nawdd y llywodraeth yw'r Cynllun Chwaraeon Athletwyr Talentog (TASS) sy'n cynnig grantiau i bobl ifanc rhwng 16 a 25 oed. Y syniad y tu ôl i'r grantiau hyn yw rhoi cyfle i ddarpar athletwyr feithrin eu gyrfa ym maes chwaraeon tra'n taro cydbwysedd â'u hymrwymiadau gwaith neu eu bywyd academaidd.