Mae gweithgareddau cymorth i astudio'n gyfle i blant rhwng saith ac 16 oed ddysgu y tu allan i oriau ysgol ac yn cynnwys gweithgareddau celf, cerddoriaeth a chwaraeon. Maent yn gallu helpu gyda llythrennedd a rhifedd, a gwella'r dysgu. Mae'r gweithgareddau'n cynnwys clybiau gwaith cartref a chlybiau brecwast yn ogystal â chlybiau ar ôl ysgol.
Cefnogir cymorth i astudio neu ddysgu y tu allan i oriau ysgol gan awdurdodau lleol ac mae'n cynnig man diogel i'ch plentyn ddysgu a chael hwyl dan oruchwyliaeth, y tu allan i oriau'r ysgol. Gall hyn fod yn gymorth mawr os ydych chi'n rhiant sy'n gweithio.
Darperir cymorth i astudio mewn ysgolion, mewn llyfrgelloedd lleol, ar feysydd neu mewn clybiau chwarae ac mewn amgueddfeydd ac orielau.
Bydd rhai o'r gweithgareddau wedi'u hanelu'n benodol tuag at ddysgu. Nod y rhain yw gwella llythrennedd neu rifedd neu roi hwb ychwanegol i blentyn mewn pwnc penodol.
Bydd eraill yn canolbwyntio ar amrywiaeth o weithgareddau gan gynnwys cerddoriaeth, chwaraeon, ieithoedd, celf, dawns, drama, coginio neu wyddbwyll, i enwi ond ychydig. I gael gwybod pa weithgareddau sydd ar gael eich yn ardal chi, holwch eich awdurdod lleol neu ysgol eich plentyn.
Mae gwybodaeth ar gael am grwpiau ieuenctid, clybiau a mudiadau yn eich ardal chi gan eich awdurdod lleol. Bydd y ddolen isod yn gofyn i chi roi manylion ble'r ydych yn byw ac yna'n mynd â chi at wefan eich awdurdod lleol ble gallwch gael mwy o wybodaeth.
Mae canolfannau cymorth i astudio ar gael hefyd yn rhai o'r clybiau pêl-droed mawr a'r lleoliadau chwaraeon pwysicaf, drwy gyfrwng y cynllun Chwarae i Lwyddo.
Nod y cynllun hwn yw rhoi hwb i blant sydd ar ei hôl hi gyda'u sgiliau llythrennedd, rhifedd a technoleg gwybodaeth a chyfathrebu.
Fel rhan o'r cynllun hwn, defnyddir chwaraeon megis pêl-droed a rygbi - yn ogystal â'r lleoliad ei hun - yn ffordd i ysgogi disgyblion Cyfnod Allweddol 2 a 3.