Mae'r Cwricwlwm Cenedlaethol yn nodi'r cyfnodau a'r pynciau craidd a ddysgir i blant yn ystod eu hamser yn yr ysgol. Rhaid i blant rhwng pump ac 16 oed yn ysgolion y wladwriaeth neu mewn ysgolion a "gynhelir" gael eu dysgu'n unol â'r Cwricwlwm Cenedlaethol.
Fframwaith yw'r Cwricwlwm Cenedlaethol a ddefnyddir gan bob ysgol a gynhelir i sicrhau bod yr addysgu a'r dysgu'n gytbwys ac yn gyson.
Mae'n nodi:
O fewn fframwaith y Cwricwlwm Cenedlaethol, bydd gan ysgolion y rhyddid i gynllunio a threfnu'r addysgu a'r dysgu yn y ffordd orau i ddiwallu anghenion eu disgyblion.
Mae llawer o ysgolion yn defnyddio Cynlluniau Gwaith yr Awdurdod Cymwysterau a Chwricwlwm i gynllunio'u cwricwlwm. Mae'r rhain yn helpu i drosi amcanion y Cwricwlwm Cenedlaethol yn weithgareddau addysgu a dysgu.
Trefnir y Cwricwlwm Cenedlaethol yn flociau o flynyddoedd a elwir yn 'gyfnodau allweddol'.
Ceir pedwar cyfnod allweddol yn ogystal â ‘Chyfnod Sylfaen’. Mae'r ‘Cyfnod Sylfaen’ yn edrych ar addysg i blant cyn iddynt fod yn bump oed (oed ysgol gorfodol).
| Oed | Cyfnod | Blwyddyn | Profion |
|---|---|---|---|
| 3-4 |
Sylfaenol |
||
| 4-5 |
Derbyn |
||
| 5-6 | Cyfnod Allweddol 1 |
Blwyddyn 1 | |
| 6-7 |
Blwyddyn 2 |
Profion cenedlaethol a thasgau mewn Saesneg a mathemateg a gwyddoniaeth |
|
| 7-8 | Cyfnod Allweddol 2 |
Blwyddyn 3 | |
| 8-9 |
Blwyddyn 4 |
||
| 9-10 |
Blwyddyn 5 |
||
| 10-11 |
Blwyddyn 6 |
Profion cenedlaethol mewn Saesneg, mathemateg a gwyddoniaeth | |
| 11-12 | Cyfnod Allweddol 3 |
Blwyddyn 7 | |
| 12-13 | Blwyddyn 8 | ||
| 13-14 | Blwyddyn 9 |
Profion cenedlaethol mewn Saesneg, mathemateg a gwyddoniaeth; ac asesiadau athrawon mewn pynciau sylfaenol eraill |
|
| 14-15 | Cyfnod Allweddol 4 |
Blwyddyn 10 | Bydd rhai plant yn sefyll arholiadau TGAU |
| 15-16 | Blwyddyn 11 | Bydd y rhan fwyaf o blant yn sefyll arholiadau TGAU neu gymwysterau cenedlaethol eraill |
Rhaglenni astudio
Ar gyfer pob pwnc yn y Cwricwlwm Cenedlaethol, ceir rhaglen astudio. Mae'r rhaglenni astudio'n disgrifio'r wybodaeth, y sgiliau a'r ddealltwriaeth y disgwylir i ddisgyblion eu datblygu yn ystod pob cyfnod allweddol.
Lefelau'r Cwricwlwm Cenedlaethol
Mae'r rhaglenni astudio hefyd yn mapio graddfa cyrhaeddiad yn y pwnc. Yn y rhan fwyaf o bynciau Cyfnod Allweddol 1, 2 a 3, rhennir y “targedau cyrhaeddiad” hyn yn wyth lefel, yn ogystal â disgrifiad o “berfformiad eithriadol”. Dinasyddiaeth yw'r eithriad, sydd â thargedau cyrhaeddiad ar wahân ar gyfer diwedd Cyfnod Allweddol 3 a Chyfnod Allweddol 4.
Mae plant yn datblygu ar raddfa wahanol, ond gall lefelau'r Cwricwlwm Cenedlaethol roi syniad i chi ynglŷn â sut mae datblygiad eich plentyn yn cymharu â'r hyn sy'n arferol ar gyfer ei oed. Er enghraifft, erbyn diwedd Cyfnod Allweddol 1, bydd y rhan fwyaf o blant wedi cyrraedd lefel 2, ac erbyn diwedd Cyfnod Allweddol 2, bydd y rhan fwyaf ar lefel 4.
Bydd ysgol eich plentyn yn anfon adroddiad atoch yn dweud wrthych pa lefel yn y Cwricwlwm Cenedlaethol y mae eich plentyn wedi'i chyrraedd mewn unrhyw asesiadau ffurfiol.
Asesiadau athrawon
Bydd athro eich plentyn yn gwirio'i ddatblygiad ym mhob pwnc yn rheolaidd, fel rhan arferol o'i waith fel athro. Ar ddiwedd Cyfnodau Allweddol 1, 2 a 3 byddant yn cynnal “asesiad athro” ffurfiol, yn nodi pa lefel Cwricwlwm Cenedlaethol sy'n disgrifio orau berfformiad eich plentyn ym mhob un o'r meysydd dysgu.
Profion 'diwedd cyfnodau allweddol'
Yng Nghyfnod Allweddol 1, bydd asesiad yr athro o gynnydd eich plentyn yn ystyried eu perfformiad mewn amryw o dasgau a phrofion Saesneg a mathemateg.
Ar ddiwedd Cyfnodau Allweddol 2 a 3, bydd rhaid i'ch plentyn sefyll profion cenedlaethol mewn Saesneg, mathemateg a gwyddoniaeth (ar ddiwedd Cyfnod Allweddol 4, mae'n debyg y byddant yn sefyll arholiadau TGAU a/neu gymwysterau cyfatebol).
Ni fydd y profion yn rhoi darlun llawn i chi o gyrhaeddiad eich plentyn yn yr ysgol – maent yn rhoi cipolwg, yn dangos sut mae'r plentyn wedi gwneud mewn rhannau dethol o bwnc ar ddiwrnod penodol. Ond gall ysgolion ddefnyddio canlyniadau profion fel mesur annibynnol o sut y maen nhw, a'u disgyblion, yn ei wneud o'u cymharu â safonau ar draws y wlad.