Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Cefnogi plant dawnus a thalentog

Y rhaglen ar gyfer plant a phobl ifanc Dawnus a Thalentog yw'r rhaglen genedlaethol newydd sy'n darparu cymorth addysgol i blant a phobl ifanc sy'n rhagori mewn maes penodol, yn dysgu'n gynt nag eraill neu sydd â photensial uchel efallai, ond sy'n tangyflawni.

Beth mae ‘dawnus a thalentog' yn ei olygu

Mae 'dawnus a thalentog' yn disgrifio plant a phobl ifanc sydd â'r gallu i ddatblygu i lefel sy'n sylweddol uwch na lefel eu grŵp blwyddyn (neu sydd â'r potensial i ddatblygu'r galluoedd hynny):

  • gellir diffinio dysgwyr 'dawnus' fel rhai sydd â gallu mewn un neu fwy o bynciau academaidd, megis mathemateg a Saesneg
  • gellir diffinio dysgwyr 'talentog' fel plant neu bobl ifanc sydd â sgiliau ymarferol ym maes chwaraeon, cerddoriaeth, dylunio neu'r celfyddydau creadigol a pherfformio

Ystyrir sgiliau fel arwain, gwneud penderfyniadau a threfnu hefyd wrth adnabod plant dawnus a thalentog a darparu ar eu cyfer.

Adnabod plant dawnus a thalentog

Os ydych chi'n meddwl bod eich plentyn yn ddawnus neu'n dalentog, dylech yn gyntaf oll drafod eu galluoedd a'u hanghenion gydag athro/athrawes neu bennaeth eich plentyn. Dylai fod gan bob ysgol Athro neu Athrawes Arweiniol ar gyfer Addysg Plant a Phobl Ifanc Dawnus a Thalentog (neu dylai ysgolion cynradd rannu un) y gallech siarad ag ef/hi hefyd. Mae'n bosib bod gan awdurdodau lleol arweinydd ar gyfer plant a phobl ifanc Dawnus a Thalentog hefyd.

Dylai pob ysgol prif ffrwd gofrestru eu disgyblion dawnus a thalentog fel rhan o'r Cyfrifiad Ysgolion Blynyddol. Bydd ysgolion yn adnabod y plant drwy edrych ar dystiolaeth megis canlyniadau profion, safon gwaith a barn athrawon a rhieni.

Efallai y caiff plant eu rhoi ar y rhestr Dawnus a Thalentog a'u tynnu oddi arno dros gyfnod - yn enwedig yn yr ysgol gynradd - wrth iddynt ddatblygu ar raddfa wahanol i'w cyd-ddisgyblion.

Cefnogi disgyblion dawnus a thalentog

Mae gan ysgolion gyfrifoldeb i ddiwallu anghenion addysgol eu holl ddisgyblion. Ar gyfer y disgyblion dawnus a thalentog, mae hyn yn cynnwys rhoi mwy o her iddynt yn ystod gwersi a rhoi cyfle i ddisgyblion feithrin talentau a doniau posib. Yn ogystal â hyn, mae'n bosib y gall ysgolion ac awdurdodau lleol ddarparu gweithgareddau ychwanegol y tu hwnt i'r amserlen ddyddiol.

Dylech siarad ag athro neu athrawes eich plentyn, y pennaeth neu Athro neu Athrawes Arweiniol yr ysgol ar gyfer Addysg Plant a Phobl Ifanc Dawnus a Thalentog ynghylch y gefnogaeth sydd ar gael. Efallai y byddai hefyd yn ddefnyddiol i chi siarad â swyddog arweiniol eich awdurdod lleol ar gyfer plant dawnus a thalentog, os oes ganddynt un.

Y rhaglen ar gyfer Plant a Phobl Ifanc Dawnus a Thalentog

Sefydlwyd y rhaglen ar gyfer Plant a Phobl Ifanc Dawnus a Thalentog yn 2007 i roi cymorth a chyfleoedd i blant a phobl ifanc dawnus a thalentog rhwng 4 a 19 oed, gan gynnwys y rhai a arferai fod yn aelodau o'r cyn Academi Genedlaethol ar gyfer Ieuenctid Dawnus a Thalentog (NAGTY).

Mae'r Academi ar gyfer Plant a Phobl Ifanc Dawnus a Thalentog yn rhoi cyfle iddynt gymryd rhan mewn gweithgareddau a gynlluniwyd i ymestyn eu gallu a rhoi her iddynt drwy gyfrwng amrywiaeth o ddigwyddiadau ar-lein ac wyneb yn wyneb. Bydd hefyd yn creu cyfleoedd i fyfyrwyr dawnus a thalentog gyfarfod â phobl ifanc eraill sydd â diddordebau a rhagolygon tebyg, a chymdeithasu â hwy.

Mae gwefan y rhaglen ar gyfer Plant a Phobl Ifanc Dawnus a Thalentog hefyd yn darparu gwybodaeth a chysylltiadau at ffynonellau cefnogi eraill ar gyfer rhieni, llywodraethwyr a'r bobl sy'n gweithio gyda phlant a phobl ifanc dawnus a thalentog.

Athrawon Arweiniol ar gyfer Addysg Plant a Phobl Ifanc Dawnus a Thalentog

Dylai fod gan bob ysgol uwchradd Athro neu Athrawes wedi'i hyfforddi ym maes Addysg Plant a Phobl Ifanc Dawnus a Thalentog. Gall Athrawon Arweiniol mewn ysgolion cynradd weithio mewn clwstwr bach o ysgolion. Bydd yr Athro neu'r Athrawes Arweiniol yn gweithio gyda'r pennaeth ac uwch reolwyr i wella darpariaeth yn yr ysgol neu'r ysgolion. Byddant hefyd yn gweithio'n agos gydag athrawon eraill i wneud yn siŵr bod dulliau addysgu a dysgu yn sicrhau bod gwaith yn cynnig digon o her i ddiwallu anghenion pob disgybl dawnus a thalentog o ddydd i ddydd.

Y Gymdeithas Genedlaethol ar gyfer Plant Dawnus (NAGC)

Mae'r Gymdeithas Genedlaethol ar gyfer Plant Dawnus (NAGC) yn cynnal rhwydwaith cefnogi annibynnol i rieni er mwyn helpu rhieni a gofalwyr i ddatrys anghydfodau gydag ysgolion ac awdurdodau lleol. Mae hefyd yn cynnig cyngor a chefnogaeth i rieni a gofalwyr plant dawnus a galluog.

Additional links

Y Diploma

Cymwyster newydd i rai rhwng 14 i 19 mlwydd oed

Cysylltiadau defnyddiol

Allweddumynediad llywodraeth y DU