Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Cael cymorth gyda chostau cyn oed ysgol

Mae gan bob plentyn tair a phedair oed yn Lloegr hawl i gael lle mewn lleoliad addysg gynnar am ddim, ac os ydych chi'n rhiant sy'n gweithio, yn unig riant neu'n fyfyriwr, mae'n bosibl bod gennych yr hawl i gael help ychwanegol gyda chostau addysg gynnar a gofal plant.

Llefydd addysg gynnar i blant tair a phedair oed

Bydd gan bob plentyn tair a phedair oed yn Lloegr hawl i gael 12.5 awr o addysg gynnar am ddim am 38 wythnos y flwyddyn. Bydd hwn yn codi i 15 awr yr wythnos o 2010, i gael ei gyflwyno’n hyblyg dros o leiaf tri diwrnod.

Am fwy o wybodaeth, gweler 'Dysgu cynnar am ddim i blant tair a phedair oed’.

Help i rieni sy'n gweithio

Bwriedir i'r Credyd Treth Gwaith helpu pobl ar incwm isel - boed y rheini'n gyflogedig neu'n hunangyflogedig - ac fe all gynnwys cymorth ar gyfer gofal plant. Mae nifer o deuluoedd yn derbyn cymorth drwy elfen gofal plant y Credyd Treth Gwaith. Os ydych yn defnyddio gofal plant achrededig neu gofrestredig, yn dibynnu ar eich incwm, gallech gael hyd at 80 y cant o’ch costau gofal yn ôl.

Gallai rhai teuluoedd hefyd gael cymorth drwy'r Credyd Treth Plant, sef lwfans ar sail prawf modd sydd ar gael i rieni ac i bobl sy'n gofalu am blant.

Help i rieni unigol

Gall rhieni unigol nad ydynt yn gweithio gael help drwy raglen gan y llywodraeth a elwir yn Fargen Newydd i Rieni Unigol. Mae mwy o wybodaeth ar gael drwy eich swyddfa Canolfan Gwaith neu Ganolfan Byd Gwaith leol.

Help i fyfyrwyr

Os ydych chi'n fyfyriwr mewn addysg bellach, mae'n bosibl y gallech chi gael help ariannol ychwanegol drwy'r Cynllun Gofal i Ddysgu (i fyfyrwyr dan 20 oed) neu drwy'r Cronfeydd Cefnogi Dysgwyr. Hefyd, ceir cynllun sy'n darparu cymorth gyda chostau gofal plant i fyfyrwyr chweched dosbarth 20 oed neu hŷn. Defnyddiwch y dolenni isod i gael mwy o fanylion.

Fel myfyriwr addysg uwch, efallai y byddwch yn gymwys i gael cymorth ychwanegol ar wahân i unrhyw Fenthyciadau Myfyriwr safonol neu grantiau a gewch. Gallai hyn gynnwys bwrsari, Credyd Treth Plant, Grant Gofal Plant, neu gymorth o'r Gronfa Mynediad at Ddysgu.

Gallai arian fod ar gael hefyd drwy ymddiriedolaethau neu elusennau addysgol. Gofynnwch am gyngor gan eich swyddog lles myfyrwyr neu'ch awdurdod lleol.

Help gan gyflogwyr

Mae rhai cyflogwyr yn cynnig talebau neu lwfans gofal plant fel rhan o gynllun 'aberthu cyflog'. Fe allai fod yn werth i chi holi'ch rheolwr llinell, neu'ch adran bersonél neu adnoddau dynol a yw'ch cyflogwr yn rhedeg cynllun o'r fath.

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU