Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Hawliau a chyfrifoldebau rhieni

Yn wahanol i famau, nid oes gan dadau 'gyfrifoldeb rhiant' dros eu plant bob amser. Bellach, gyda mwy nag un ym mhob tri phlentyn yn cael eu geni y tu allan i briodas, efallai nad yw ambell riant yn deall gan bwy mae'r cyfrifoldeb rhiant dros eu plant yn ôl y gyfraith.

Beth yw cyfrifoldeb rhiant?

Os yw rhieni plentyn yn briod â'i gilydd neu os ydynt wedi mabwysiadu plentyn gyda'i gilydd, bydd gan y ddau ohonynt gyfrifoldeb rhiant. Nid yw hyn yn digwydd yn awtomatig yn achos rhieni di-briod.

Mae cyfrifoldeb rhiant yn golygu bod yr hawl gennych i wneud penderfyniadau pwysig am fywyd eich plentyn mewn meysydd megis triniaethau meddygol ac addysg. Ond mae hefyd yn golygu bod gennych gyfrifoldebau. Mae gennych ddyletswydd i amddiffyn a gofalu am y plentyn.

Yn unol â'r gyfraith bresennol, bydd gan y fam gyfrifoldeb rhiant dros ei phlentyn bob amser. Fodd bynnag, dim ond os yw'n briod â'r fam neu os yw wedi ennill cyfrifoldeb cyfreithiol dros ei blentyn, y bydd y tad yn cael y cyfrifoldeb hwn. Nid yw byw gyda'r fam, hyd yn oed am gyfnod hir, yn awtomatig yn rhoi cyfrifoldeb rhiant i'r tad. Nid yw cyfrifoldeb rhiant bob amser yn cael ei basio mlaen i'r tad naturiol os yw'r fam yn marw a'r rhieni ddim yn briod.

Nid yw cyfrifoldeb rhiant yn golygu talu cynhaliaeth neu gynhaliaeth cynnal plant. Nid yw'r ddau beth yn gysylltiedig. Mae gan rieni biolegol a rhieni sy'n mabwysiadu ddyletswydd cyfreithiol i gefnogi eu plentyn yn ariannol, hyd yn oed os nad oes ganddynt gyfrifoldeb rhiant. Nid yw o anghenraid yn gwneud gwahaniaeth os byddwch yn gwneud cais am orchmynion cyswllt neu breswylio. Bydd y llysoedd bob amser yn gwneud y gorchmynion yn unol â'r hyn sydd orau ar gyfer y plentyn.

Sut y gall tadau di-briod gael cyfrifoldeb cyfreithiol

Gall tadau di-briod ennill cyfrifoldeb rhiant dros eu plant mewn sawl ffordd wahanol, yn dibynnu ar ddyddiad geni eu plant.

Ar gyfer plant a aned cyn 1 Rhagfyr 2003, gall tadau di-briod ennill cyfrifoldeb rhiant drwy:

  • briodi mam eu plentyn neu gael gorchymyn cyfrifoldeb rhiant gan y llys
  • gofrestru cytundeb cyfrifoldeb rhiant gyda'r llys neu trwy wneud cais i'r llys

Ar gyfer plant a aned ar ôl 1 Rhagfyr 2003, mae'r sefyllfa'n wahanol. Gall tadau di-briod gael cyfrifoldeb rhiant drwy:

  • gofrestru genedigaeth y plentyn ar y cyd â'r fam ar adeg yr enedigaeth - mae hyn yn eitha cyffredin erbyn hyn a bydd llawer o rieni yn dewis gwneud hyn
  • ail-gofrestru'r enedigaeth os mai chi yw'r tad biolegol
  • briodi mam eu plentyn neu gael gorchymyn cyfrifoldeb rhiant gan y llys
  • gofrestru gyda'r llys er mwyn cael cyfrifoldeb rhiant

Gwneud cais i'r llys am gyfrifoldeb rhiant

Gall tad wneud cais i'r llys er mwyn ennill cyfrifoldeb rhiant. Wrth ystyried cais y tad, bydd y llys yn ystyried y canlynol:

  • faint o ymrwymiad y mae'r tad wedi ei ddangos at ei blentyn
  • sut berthynas sydd rhwng y tad a'r plentyn
  • rhesymau'r tad dros wneud cais am y gorchymyn

Yna bydd y llys naill ai'n penderfynu derbyn neu wrthod y cais, yn dibynnu ar yr hyn sydd orau i'r plentyn.

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU