Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Hawliau rhiant ym maes addysg

Mae blynyddoedd ysgol eich plentyn yn rhan bwysig iawn o'u datblygiad ac wrth eu paratoi ar gyfer bywyd. Mae'r erthygl hon yn egluro'ch hawliau fel rhiant mewn perthynas ag addysg eich plentyn, beth allwch chi ei ddisgwyl gan ysgol eich plentyn a'r gweithdrefnau cywir i'w cymryd os bydd gennych gŵyn.

Egwyddorion y system addysg a Chwricwlwm Cenedlaethol

Mae'n rhaid i bob ysgol y wladwriaeth ddefnyddio'r Cwricwlwm Cenedlaethol sy'n nodi'r hyn y dylid ei ddysgu i'r rhan fwyaf o blant. Gall ysgol 'eithrio' (tynnu) eich plentyn o rai agweddau o'r Cwricwlwm Cenedlaethol neu'n gyfan gwbl am gyfnod byr os ydynt yn tybio mai dyma'r peth gorau i'w wneud er lles eich plentyn. Mae gennych hawl i dynnu'ch plentyn o rai gwersi.

Mae'n rhaid i adran addysg eich cyngor lleol ddarparu addysg i blant sydd ddim yn medru mynd i'r ysgol oherwydd eu bod wedi cael eu gwahardd, eu bod yn sâl, neu wedi eu hanafu. Gallai hyn fod mewn ysgol yn yr ysbyty, mewn uned cyfeirio disgyblion, coleg addysg bellach, neu leoliad profiad gwaith.

Mae'n rhaid i blant dderbyn addysg o ddechrau'r tymor ar ôl eu pen-blwydd yn bump oed hyd at y trydydd dydd Gwener ym mis Mehefin yn y flwyddyn ysgol pan fyddant yn 16 oed.

Mae'n rhaid i addysg fod am ddim yn ysgolion y wladwriaeth ac mewn sefydliadau addysgol eraill y bydd adran addysg eich cyngor lleol yn talu amdanynt (er enghraifft, unedau cyfeirio disgyblion ac ysgolion meithrin).

Dewisiadau rhieni ar gyfer eu plant

Mae gennych hawl dweud pa ysgol y wladwriaeth yr hoffech i'ch plentyn ei mynychu. Holwch adran addysg eich cyngor lleol oherwydd fe allant gyfyngu ar nifer yr ysgolion y cewch wneud cais i anfon eich plentyn iddynt.

Fe allech addysgu eich plentyn gartref. Does dim rhaid i chi ddilyn y Cwricwlwm Cenedlaethol ond mae gofyn i chi wneud yn siŵr y bydd eich plentyn yn cael yr addysg briodol yn dibynnu ar ei oedran a'i allu ac unrhyw anghenion addysgol arbennig a allai fod ganddo.

Beth all rhieni ei ddisgwyl gan ysgol eu plant

Mae'n rhaid i chi gael rhybudd ysgrifenedig 24 awr ymlaen llaw os yw'r ysgol eisiau cadw'ch plentyn i mewn ar ôl ysgol.

Mae'n rhaid i ysgolion roi adroddiad ysgrifenedig i chi am eich plentyn o leiaf unwaith y flwyddyn. Rhaid i hwn gynnwys:

  • cynnydd yn yr holl bynciau Cwricwlwm Cenedlaethol y maent wedi'u hastudio
  • cynnydd ym mhynciau a gweithgareddau eraill
  • presenoldeb a chynnydd cyffredinol
  • canlyniadau unrhyw brofion ac asesiadau Cwricwlwm Cenedlaethol

Yn ôl y gyfraith, bydd gennych chi a'ch plentyn hawl i gael copi o gofnod ysgol eich plentyn o fewn 15 diwrnod ysgol ar ôl i chi ysgrifennu i ofyn amdano. Fodd bynnag, ni ellir dangos na rhoi peth o'r wybodaeth i chi na'ch plentyn.

Mae gennych hawl i bleidleisio dros riant-lywodraethwyr i'ch cynrychioli ar gorff llywodraethu'r ysgol. Gallwch hefyd sefyll etholiad i fod yn rhiant-lywodraethwr eich hun.

Plant gydag anghenion addysgol arbennig

Dylai plant gydag anghenion arbennig gael cymorth yn yr ysgol os byddant yn cael problemau dysgu sylweddol o'u cymharu â phlant eraill o'r un oedran â hwy neu os oes ganddynt anabledd sy'n effeithio ar y modd y maent yn medru defnyddio adnoddau addysgol a ddarperir fel rheol ar gyfer plant o'r un oedran ac yn yr un maes. Gallai anhawster dysgu fod o ganlyniad i anabledd, problemau ymddygiad neu broblemau wrth ddysgu darllen.

Polisïau ysgolion ar ddisgyblaeth a bwlio

Mae'n rhaid i ysgol eich plentyn gael polisi disgyblaeth sy'n cynnwys beth mae'n ei wneud er mwyn atal bwlio. Os bydd plentyn yn cael ei fwlio, dylech roi gwybod i'r ysgol yn syth. Yn gyfreithiol, bydd rhaid i'r ysgol wneud popeth rhesymol o fewn ei gallu i warchod plant rhag cael eu bwlio.

Mae'n rhaid i bolisi disgyblaeth yr ysgol ac unrhyw reolau ysgol gael eu seilio ar ddatganiad y llywodraethwyr ar sut y dylai plant ymddwyn (mae gan bob ysgol un). O dan y Ddeddf Hawliau Dynol 1998, ni ddylai unrhyw gosb neu driniaeth fod yn 'annynol nac yn ddiraddiol'. Bydd rhaid iddi fod yn addas ac ystyried yr hyn mae'r plentyn wedi ei wneud.

Mae cosb gorfforol megis taro, curo â chansen neu ysgwyd plentyn yn anghyfreithlon ym mhob ysgol. Caiff staff ysgolion ddefnyddio 'grym rhesymol' er mwyn atal plentyn rhag:

  •  cyflawni trosedd
  •  brifo rhywun
  • difrodi rhywbeth

Trefniadau cwyno

Os na fyddwch yn hapus gydag ysgol neu addysg eich plentyn ac eisiau gwneud cwyn ffurfiol, dylech gael gafael ar gopi o drefn gwyno'r ysgol (mae rhaid i bob ysgol a gynhelir cael un) a dilyn y drefn honno fel cam cyntaf. Os ydych yn meddwl bod eich plentyn wedi cael ei niweidio'n ddifrifol neu wedi dioddef ymosodiad rhywiol, gallwch gwyno wrth yr heddlu neu adran gwasanaethau cymdeithasol eich awdurdod lleol.

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU